Newyddion

Cyfle i gael £10,000 o gyllid ar gyfer eich grŵp cymunedol Cymraeg

Paper chain people

Wedi'i sefydlu yn 2022, mae Perthyn yn rhoi cefnogaeth leol gynnar i gymunedau yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd â lefelau uchel o berchnogaeth ail gartrefi sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol i gefnogi a diogelu'r iaith Gymraeg.

Mae pumed rownd grantiau Perthyn bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, gyda’r dyddiad cau am 12pm ddydd Gwener, 21 Tachwedd 2025.

Croesewir ceisiadau gan grwpiau cymunedol nad ydynt wedi derbyn grant Perthyn o'r blaen. Dylai ceisiadau ddangos bod eich grŵp yn anelu at:

  • greu mentrau cymdeithasol neu gydweithredol newydd
  • cefnogi mentrau newydd i wireddu cynlluniau arloesol
  • datblygu prosiectau tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned
  • sefydlu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol
  • rhoi’r Gymraeg wrth wraidd eich prosiect.

Noder na fydd ceisiadau gan sefydliadau sy'n cynrychioli cymunedau yn cael eu hystyried – rhaid i geisiadau ddod yn uniongyrchol gan y grŵp cymunedol, yn dangos gweledigaeth glir dan arweiniad y gymuned.

Ewch i Perthyn - Cwmpas i gael manylion llawn, canllawiau a'r ffurflen gais.

Mae yna lawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a p'un ai eich bod yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gefnogaeth nag erioed o'r blaen i’ch helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.