Newyddion

Cyber Essentials

digital security

Amddiffynnwch eich sefydliad, beth bynnag fo'i faint, rhag y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin.

Mae'r rhan fwyaf o ymosodiadau seiber yn rhai sylfaenol - yn debyg i leidr sy'n trio eich drws ffrynt i weld a yw heb ei gloi. Mae Cyber Essentials yn eich helpu i folltio'ch drws yn erbyn yr ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin.

Mae Cyber Essentials yn gynllun ardystio a gefnogir gan lywodraeth y DU sy'n helpu i gadw data eich sefydliad a'ch cwsmeriaid yn ddiogel rhag ymosodiadau seiber.

Mae'r National Cyber Security Centre (NCSC) yn argymell Cyber Essentials fel y safon gofynnol o seiberddiogelwch ar gyfer pob sefydliad ac mae wedi partneru ag IASME, sy'n gweithio gyda rhwydwaith o fwy na 300 o sefydliadau seiberddiogelwch ledled y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron, i gynghori ac ardystio sefydliadau o bob maint.

Gall Cyber Essentials helpu pob sefydliad - o ficro-fusnesau i gorfforaethau mawr - i warchod rhag yr ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin. Os oes gennych asedau digidol neu os ydych chi’n storio unrhyw ddata, gall rhoi rheolaethau Cyber Essentials ar waith eich helpu i'w cadw'n ddiogel.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:

Mae cymorth i bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus leihau'r risg o ymosodiadau seiber ar gael ar Gyngor ac arweiniad ar seiberddiogelwch | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.