Newyddion

Cwmni biotechnoleg yn arloesi â system robotaidd newydd ar gyfer profion diagnostig

Biofortuna, biotech firm

Mae cwmni biotechnoleg yn y Gogledd wedi arloesi â system robotaidd newydd ar gyfer dyfeisiau diagnostig sy’n profi am gyflyrau fel canser, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Sicrhaodd Biofortuna, yng Nglannau Dyfrdwy, Gymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) gwerth £225,000, i ddatblygu ei system BeadBot™, i helpu’r cwmni i gyflawni ei uchelgeisiau o ran twf rhyngwladol.

Mae’r prosiect yn un o 140 o fentrau i gael cyllid SMART fel rhan o raglen werth £20 miliwn, a lansiwyd yn 2023, i fuddsoddi yn y gwaith ymchwil ac arloesi diweddaraf a fydd yn gwella bywydau pobl.

Hyd yma, mae £17.9 miliwn o grantiau arloesi wedi’u dyrannu i gwmnïau fel Biofortuna, i gynllunio a darparu datrysiadau ymchwil a datblygu mewn ymateb i heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cwmni biotechnoleg yn arloesi â system robotaidd newydd ar gyfer profion diagnostig | LLYW.CYMRU.

Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Mynediad at Gyllid a Chefnogaeth | Busnes Cymru.

Mae'r Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn cynnal Gweminar Cyfleoedd Cydweithredu Rhyngwladol. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar 17 Mawrth 2026 i ddarganfod pa gyfleoedd a allai fod o fudd i'ch sefydliad: Digwyddiadur Busnes Cymru - Gwe-seminar Cyfleoedd Cydweithredu Rhyngwladol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.