
Yn wynebu colli eich swydd yn Tata Steel UK (TSUK) ac yn ystyried dechrau eich busnes eich hun?
Cofrestrwch am ein digwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Gymunedol Aberafan ar 8 Mai 2025 i gael cyngor ar hunangyflogaeth, dechrau busnes, a help gyda chynllunio ariannol a grantiau. Mae sesiwn y bore rhwng 10am a 12pm, sesiwn y prynhawn rhwng 2pm a 4pm.
Beth fydd cynnwys y digwyddiad?
- Datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hunangyflogaeth fel llwybr gyrfa posib ar gyfer y dyfodol.
- Trafod y cymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru i ddatblygu eich sgiliau busnes a gwella’ch gwybodaeth wrth baratoi i ddechrau busnes.
- Siarad am ffyrdd o gynllunio ar gyfer eich busnes, paratoi rhagolygon ariannol a chreu cynlluniau busnes.
- Cwrdd â’r tîm o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, i drafod y Grant Dechrau Busnes sydd ar gael, ac edrych ar y meini prawf a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
- Rhannu gwybodaeth am y cymorth ehangach sydd ar gael. Cyfeirio at adnoddau eraill gan wasanaeth ehangach Busnes Cymru, partneriaid cyflawni, UK Steel Enterprise ac awdurdodau lleol cyfagos.
Yn dilyn y sesiwn (ar y diwrnod), bydd cynghorwyr busnes ar gael i drafod y camau nesaf ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am grantiau pontio TSUK.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Business Wales Events Finder - Cronfa Bontio Tata Steel UK: Dechrau Busnes
Mae Busnes Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cymorth busnes i unigolion, busnesau presennol a chwmnïau cadwyn gyflenwi y mae proses bontio Tata Steel wedi effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys pecyn o gyngor ac arweiniad busnes i'ch helpu i baratoi eich achos busnes am gymorth ariannol drwy Gronfeydd Pontio Tata Steel a ariennir gan Lywodraeth y DU. Am ragor o wybodaeth ewch i'r ddolen ganlynol: Cymorth Busnes Cymru ar gyfer proses bontio Tata Steel | Busnes Cymru