Newyddion

Cronfa ar agor i helpu cymunedau i gychwyn prosiectau lleol

Caffi Cymraeg

Mae grwpiau cymunedol ar draws Cymru yn cael eu hatgoffa bod yna dal amser i wneud cais am grant Perthyn, sy'n cefnogi cymunedau i ddatblygu mentrau cymdeithasol neu brosiectau tai a arweinir gan y gymuned.

Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael o gronfa Perthyn Llywodraeth Cymru i helpu grwpiau i gymryd y camau cyntaf ar gyfer sefydlu a rhoi eu cynlluniau ar waith. Ers 2022, mae'r cynllun wedi cefnogi cymunedau Cymraeg, gyda 64 o grantiau wedi'u dyfarnu i grwpiau yng Ngwynedd, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. 

Eleni, mae'r cynllun wedi'i ehangu fel y gall cymunedau ledled Cymru wneud cais.

Rhaid i grwpiau cymunedol wneud cais erbyn 31 Ionawr 2026.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Perthyn - Cwmpas ac Cronfa ar agor i helpu cymunedau i gychwyn prosiectau lleol | LLYW.CYMRU.

Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae’r dudalen yma’n Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.