Wrth gyflwyno ei Ddatganiad Llafar cyntaf i'r Senedd, dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni fod Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu dull gwahanol, gyda’r nod o ddod â chenedlaethau o gynhyrchiant isel i ben.
Am fod cynhyrchiant Cymru 15% yn is na chyfartaledd y DU ar hyn o bryd, mae hefyd eisiau sicrhau mai Cymru yw'r lle hawsaf yn y DU i ddechrau, tyfu a buddsoddi mewn busnes:
- Nod economaidd newydd i haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU.
- Ffordd newydd i sicrhau mai Cymru yw'r lle hawsaf yn y DU i ddechrau, tyfu a buddsoddi mewn busnes.
- Asiantaeth newydd i ysgogi datblygu economaidd a chynyddu cyflogau.
Bydd y dull newydd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â busnesau, undebau llafur, rhanddeiliaid rhanbarthol a Llywodraeth y DU, gyda ffocws penodol ar gefnogi cwmnïau i ehangu fel y gallan nhw gystadlu mewn marchnadoedd gwerth uchel.
Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan system sgiliau ddiwygiedig sy'n arfogi pobl nid yn unig ar gyfer gwaith, ond ar gyfer datblygu eu gyrfa.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cenhadaeth economaidd newydd i gau'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r DU a chynyddu cyflogau | LLYW.CYMRU.
P'un ai ydych chi'n breuddwydio am ddod yn fos arnoch chi eich hun, troi sgil yn fusnes bach ychwanegol, neu'n barod i lansio’ch syniad newydd beiddgar, mae Busnes Cymru yma i helpu gydag offer ac adnoddau, cyngor arbenigol a chymorth ymarferol i'ch helpu i wneud y canlynol: Meddwl am Ddechrau Busnes | Busnes Cymru.