Newyddion

Busnesau’n cael eu hannog i “gloi’r drws” ar droseddwyr seiber

cyber security - digital padlock

Ymgyrch newydd i ddarparu ffyrdd ymarferol i sefydliadau amddiffyn eu hunain rhag bygythiadau cyffredin ar-lein.

Mae perchnogion busnesau yn cael eu hannog i “gloi’r drws” ar droseddwyr wrth i lywodraeth y DU lansio ymgyrch newydd i ddarparu ffyrdd ymarferol i sefydliadau amddiffyn eu hunain rhag bygythiadau ar-lein cyffredin.

Gan ymddangos ar draws y cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, radio a rhwydweithiau busnes, nod yr ymgyrch yw cyrraedd busnesau bach a chanolig prysur.

Bydd yn eu hannog i ymgysylltu â chynllun Hanfodion Seiber llywodraeth y DU sy'n nodi camau ymarferol clir y gallant eu cymryd i amddiffyn eu hunain rhag yr ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin.

Daw hyn wrth i ffigurau newydd ddangos maint y bygythiad sy'n wynebu busnesau. Mae digwyddiadau seiber sylweddol yn costio £195,000 ar gyfartaledd ac mae hanner yr holl fusnesau bach wedi dioddef tor seiber neu ymosodiad seiber yn ystod y 12 mis diwethaf.  

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Busnesau’n cael eu hannog i “gloi’r drws” ar droseddwyr seiber wrth i ymgyrch newydd y llywodraeth lansio - GOV.UK.

I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Pam fod Seiberddiogelwch yn Bwysig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.