
Ydych chi wedi gwirio a ydych yn gymwys i hawlio’r Lwfans Cyflogaeth?
Mae’r Lwfans yna i gefnogi cyflogwyr llai gyda chostau cyflogaeth ac, os ydych yn gymwys, gall eich helpu i leihau eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd at £5,000 yn y flwyddyn dreth gyfredol 2024/25, gan godi i £10,500 ar gyfer 2025/26.
Nid yw'n awtomatig, felly bydd angen i chi ddweud wrth adran Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi os ydych yn gymwys. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn dreth ac ôl-ddyddio hawliadau ar gyfer y pedair blwyddyn dreth flaenorol.
Ewch i wefan Ffederasiwn y Busnesau Bach i weld a ydych yn gymwys a dechreuwch wneud arbedion heddiw.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Employment Allowance: Check if you're eligible - GOV.UK
Mae’r Llywodraeth y DU yn cyflwyno diwygiadau mawr i gyfraith cyflogaeth er mwyn gwella cyflogau, diogelwch swyddi ac amodau yn y gweithle. Disgwylir i’r rhan fwyaf o’r diweddariadau ddigwydd yn 2026, ond bydd gweithredu nawr yn eich helpu i aros ar flaen y gad a chryfhau eich busnes. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Newidiadau sydd ar y gweill i Gyfraith Cyflogaeth y DU: Yr hyn y dylech ei wybod | Business Wales - Accelerated Growth Programme