
Gofynnir i'r cyhoedd helpu i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg, fel rhan o gynlluniau newydd i ddiogelu ein treftadaeth ieithyddol.
Mae gwefan newydd yn golygu y gall unrhyw un gofnodi enwau Cymraeg a hanesyddol nad ydynt yn ymddangos ar fapiau ar-lein. Yr enw yr oedd eich taid yn ei ddefnyddio ar gyfer cae lleol, yr enw Cymraeg ar fryn yn eich ardal, neu'r enw hanesyddol ar eich stryd neu gartref, gallwch helpu i ddiogelu'r enwau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i gyfrannu at adnoddau ar-lein fel Wikipedia drwy recordio clipiau sain yn dangos sut y dylid ynganu enwau lleoedd a darparu sillafiadau seinegol, gan helpu pobl i ddeall y straeon cyfoethog y tu ôl i enwau lleol.
Daw hyn yn rhan o gyfres o flaenoriaethau a gyhoeddwyd i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg. Mae'r rhain yn ymateb i ymchwil ddiweddar a ganfu nad yw'r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn cynnwys newid yn yr iaith. Fodd bynnag, pan fydd yr iaith yn cael ei newid, mae'r enwau dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg, yn hytrach nag fel arall.
Mae blaenoriaethau eraill yn cynnwys dyroddi canllawiau cliriach i awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n gyfrifol am enwau lleoedd, a chomisiynu ymchwil bellach i enwau nodweddion ffisegol yn y dirwedd, fel bryniau a nentydd. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith gwych a wneir gan brosiectau mapio fel Mapio Cymru a'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus fel Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:
Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru.