Mae platfform ar-lein poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth fyw Gymraeg yn ehangu, gyda lansiad ap symudol newydd Awni?
Cafodd Awni? ei lansio gyntaf fel gwefan ym mis Ionawr 2025, ac roedd yn dwyn gigs Cymraeg a dwyieithog at ei gilydd ar un map rhyngweithiol am y tro cyntaf. Mae'r wefan, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Recordiau Sain, eisoes wedi denu dros 35,000 o ymweliadau, 17,000 o ddefnyddwyr, ac yn cael ei defnyddio’n helaeth gan artistiaid, hyrwyddwyr a lleoliadau i hysbysebu gigs sydd i ddod.
Nawr, mae'r ap newydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan roi gwybodaeth am gigs Cymraeg ym mhocedi pobl.
Gall defnyddwyr ddilyn eu hoff artistiaid, gweld pa ddigwyddiadau sy'n boblogaidd yn eu hardal nhw a chael gwybodaeth am gyhoeddiadau newydd a phan fydd tocynnau'n cael eu rhyddhau. Y nod yw ei gwneud hi'n haws darganfod cerddoriaeth Gymraeg fyw a throi diddordeb yn bresenoldeb.
Fe wnaeth y prosiect, a sefydlwyd gan y brawd a chwaer Jona a Martha Owen o'r Felinheli, dyfu o'u profiad eu hunain o golli gigs oherwydd bod gwybodaeth wedi'i gwasgaru ar draws y cyfryngau cymdeithasol.
Mae cerddoriaeth Gymraeg yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd gartref ac yn rhyngwladol, tra bod lleoliadau cerddoriaeth fyw yn parhau i fod yn bwysig i gymunedau ledled Cymru.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd tua 4,400 o fusnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth fyw, yn gymwys i gael rhyddhad o 15% ar eu biliau ardrethi i helpu gyda chostau cynyddol mewn cyfnod lle mae arferion defnyddwyr yn newid.
Mae'r ap Awni? newydd, a ddatblygwyd gan y cwmni digidol Moilin o Gaerfyrddin, ar gael yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau iOS ac Android.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Ap newydd yn rhoi cerddoriaeth Gymraeg fyw yn dy boced | LLYW.CYMRU.
Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi.
Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae’r dudalen yma’n, Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.