
Ddydd Mercher, 6 Awst ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, roedd cyfle i weld sut mae ap newydd yn chwyldroi arferion iaith mewn gweithleoedd.
Mae ap ARFer wedi’i seilio ar wyddor a thystiolaeth newid ymddygiad ac yn ffrwyth prosiect sydd wedi ei gynnal dros gyfnod o chwe blynedd gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Cymraeg y Brifysgol. Ei brif bwrpas yw darparu fframwaith hawdd a hwyliog i grwpiau o staff ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.
Mae’r ap yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel ieithyddol – o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl. Mae wedi bod yn boblogaidd gyda staff gweithleoedd sydd wedi’i fabwysiadu'n gynnar, gyda 79% o’r gweithwyr sydd wedi defnyddio’r ap yn nodi ei fod wedi cael effaith sylweddol ar eu defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithleoedd.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Ap ARFer: Chwyldroi defnydd iaith yn y gwaith | Bangor University.
Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.