Newyddion

AI Ymarferol: Gweithdy ymarferol am ddim i fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru

AI laptop, hands

Mae rhedeg busnes yn ddigon anodd heb geisio cadw i fyny â'r dechnoleg ddiweddaraf.

Ymunwch â’n gweithdai wyneb yn wyneb ledled Cymru i ddysgu ffyrdd ymarferol syml i chi ddefnyddio offer AI i greu cynnwys, cysylltu â chwsmeriaid, cryfhau eich presenoldeb ar-lein a helpu i droi ymholiadau'n archebion.

Byddwch yn dysgu sut i:

  • Creu postiadau cyfryngau cymdeithasol 
  • Optimeiddio eich rhestrau Croeso Cymru a Google 
  • Ymateb yn gyflym i gwestiynau cwsmeriaid 
  • Arbed oriau ar gynnwys, diweddariadau ac e-byst

Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch BBaCh a micro, p'un a ydych yn hollol newydd i AI neu eisoes yn arbrofi ac eisiau mwy o strwythur, hyder a chamau nesaf ymarferol. 

Bydd y gweithdai, ym mis Gorffennaf, Awst,Medi a Hydref 2026, yn cael eu cyflwyno gan MWT Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Maent wedi'u cynllunio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch BBaCh a micro, p'un a ydych yn hollol newydd i AI neu eisoes yn arbrofi ac eisiau mwy o strwythur, hyder a chamau nesaf ymarferol.

I archebu eich lle ac i gael rhagor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: AI Ymarferol: Gweithdy ymarferol am ddim | Diwydiant.

Mae AI yn trawsnewid y ffordd y mae busnesau ledled Cymru yn arloesi, cystadlu ac yn tyfu. Edrychwch ar dudalennau Deallusrwydd Artiffisial am gyngor a chefnogaeth. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.