Newyddion

A allai eich busnes chi elwa o gymorth i wella ei seiberddiogelwch?

Cyber security - digital padlock

Gall miloedd o berchnogion busnesau bach a chanolig ledled y DU bellach fanteisio ar ostyngiad newydd o 75% a gefnogir gan Lywodraeth y DU ar gyfer rhaglen ardystio Cyber Essentials, cynllun sy'n helpu busnesau i roi amddiffyniadau hanfodol yn eu lle i ddiogelu eu systemau rhag bygythiadau ac ymosodiadau seiber.

Mae Cyber Essentials yn helpu sefydliadau i gadw'n ddiogel trwy sicrhau bod 5 rheolaeth dechnegol ar waith:

  • Waliau tân
  • Cyfluniad diogel
  • Rheolaeth dros ddiweddariadau diogelwch
  • Rheolaeth dros fynediad defnyddwyr
  • Amddiffyn rhag maleiswedd

Mae’r pecyn yn cyfuno dau gynnig sy’n cyd-fynd â’i gilydd:

  • Cronfa Cam Cyntaf Cyber Essentials - yn cynnig gostyngiad o 75% oddi ar gost tystysgrif Cyber Essentials ac ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig sy'n gwneud cais am eu tystysgrif Cyber Essentials gyntaf.
  • Addewid o Wydnwch Seiber: Grant Cyber Essentials i Gyflenwyr- yn cynnig gostyngiad o 100% oddi ar gost tystysgrif Cyber Essentials, ynghyd â mynediad at Gynghorydd Seiber. Mae ar gael i rai cyflenwyr o fewn cadwyni cyflenwi sefydliadau sydd wedi llofnodi'r Addewid Gwydnwch Seiber.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: New Government-backed cyber security protections could save UK businesses thousands - GOV.UK

Gall ymosodiadau seiber amharu ar weithrediadau, peryglu data sensitif, a niweidio enw da. Darllenwch dudalen Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch Busnes Cymru i ddarganfod sut i amddiffyn eich busnes rhag ymosodiad seiber.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.