O gestyll syfrdanol i safleoedd crefyddol heddychlon a safleoedd diwydiannol mawr a foldiodd y chwyldro diwydiannol, bydd mynediad i 17 o leoedd hanesyddol yng ngofal Cadw, sydd fel arfer yn codi tâl am fynediad, yn rhad ac am ddim y Dydd Gŵyl Dewi hwn, Dydd Sul 1 Mawrth.
Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gofalu am rai o leoedd mwyaf poblogaidd Cymru sy'n llawn hanes sydd wedi llunio'r genedl.
Yn hytrach na thalu i gael mynediad i'r safleoedd hyn, mae Cadw yn gofyn i ymwelwyr ystyried rhodd wirfoddol i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r elusen sy'n gwasanaethu Cymru gyfan yn darparu gofal critigol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i'r rhai sydd angen cymorth brys.
Er mwyn mwynhau mynediad am ddim i un o'r lleoedd hanesyddol hyn y Dydd Gŵyl Dewi hwn, rhaid i ymwelwyr archebu eu tocynnau am ddim ar-lein ymlaen llaw.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: 10,000 o docynnau am ddim i hanes Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni | LLYW.CYMRU.
Dydd Gŵyl Dewi 2026 – sut bydd eich busnes yn dathlu?
Os ydych chi'n fusnes yng Nghymru, yna bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich bod wedi dewis dathlu nawddsant y genedl.
O ddigwyddiadau traddodiadol i ymgyrchoedd creadigol digidol, mae yna ddigon o ffyrdd i fusnesau gymryd rhan a denu sylw yn ystod y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi: Dydd Gŵyl Dewi 2026 – sut bydd eich busnes yn dathlu? | Busnes Cymru.