Hanes llwyddiant

Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn helpu Bisley i ddatblygu gweithlu sy'n barod i'r dyfodol

Bisley Office Equipment

Mae'r gwneuthurwr dodrefn o Gasnewydd, Bisley Office Equipment, yn cofleidio newid ac arloesedd - nid yn unig yn ei gynnyrch, ond yn y ffordd y mae'n buddsoddi yn ei bobl. Gyda threftadaeth falch sy'n dyddio'n ôl i 1931, mae Bisley wedi bod yn adnabyddus ers amser maith am ei atebion storio dur.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r cwmni wedi ehangu i ddodrefn pren a thechnoleg clo clyfar i gwrdd â'r galw cynyddol am atebion storio deallus tra hefyd yn ymateb i anghenion cwsmeriaid sy'n esblygu a marchnad e-fasnach sy'n tyfu. Yn cefnogi'r trawsnewidiad hwn mae Rhaglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru, sy'n darparu hyd at 50% o gyllid tuag at gostau hyfforddi gweithwyr.

Manteisiodd Bisley ar y rhaglen am y tro cyntaf yn 2020 ac ers hynny mae wedi ei defnyddio i uwchsgilio ei weithlu ar draws sawl adran. Dywedodd Phil Westcott, Rheolwr Adnoddau Dynol y Grŵp:

Yn sgil y pandemig, fe welson ni newid yng ngalw cwsmeriaid am ein cyflenwad arferol, yn enwedig ym meysydd dodrefn swyddfa llai traddodiadol i gynhyrchion a oedd yn fwy addas i amgylchedd swyddfa desgiau poeth a swyddfeydd cartref dynamig.

Roedd hi’n hanfodol arallgyfeirio ac fel busnes, roeddem yn cydnabod yr angen i ddod yn fwy hyblyg ac ymatebol a datblygu ein harweinwyr rheng flaen trwy wella’r cyfarwyddiadau a diogelwch swyddi.

Mae’r cwmni wedi defnyddio modiwlau Training Within Industry (TWI), gan gynnwys Job Instruction, Job Relations, a Job Methods, a oedd yn arbennig o werthfawr wrth i Bisley ymdrechu i gael gweithlu mwy ystwyth i fodloni gofynion newidiol y busnes.

Esboniodd Phil:

Mae'r rhaglenni hyfforddi a fabwysiadwyd gennym yn caniatáu i ni uwchsgilio ein gweithlu presennol yn gyflym. Roedd y broses ymgeisio i gael mynediad at gyllid yn syml, gyda chefnogaeth werthfawr gan gysylltiadau allweddol Busnes Cymru.

Ers rhoi’r hyfforddiant ar waith, mae Bisley wedi gweld trawsnewidiad sylweddol yn ei weithrediadau. Mae'r gweithlu wedi dod yn fwy ystwyth ac yn fwy aml-sgiliog, gan alluogi'r cwmni i ymateb yn fwy effeithiol i anghenion busnes sy'n esblygu. Mae hyder staff wedi tyfu, galluoedd arwain wedi'u cryfhau, a chafwyd hwb i gynhyrchiant.

Ychwanegodd Phil:

Mae'r rhaglen wedi rhoi cyfle i bobl uchelgeisiol gamu i fyny; nid yn unig o fewn rolau arweinyddiaeth neu oruchwylio, ond hefyd trwy rymuso'r gweithwyr rheng flaen i wneud penderfyniadau a thyfu.

Fodd bynnag, mae'r gefnogaeth ariannol wedi bod o fudd mawr. Mae'n cefnogi busnesau drwy gyfnodau anodd pan fo cyllidebau'n dynn. Diolch i’r cyllid, roedd modd i ni ymgymryd â rhaglenni hyfforddiant diwydiant-benodol ac mae’r rheini, yn eu tro, wedi  darparu twf sgiliau amhrisiadwy ar draws ein gweithlu.

Mae'r datblygiadau hyn wedi cyfrannu at gyfradd trosiant staff isel ac wedi gosod y cwmni mewn sefyllfa i ehangu i farchnadoedd a meysydd cynnyrch newydd gyda hyder. Heddiw, mae portffolio y cwmni wedi ehangu i gynnwys cleientiaid byd-eang mawr gan gynnwys JP Morgan, Nike, Time Warner a Chanolfan Masnach y Byd Dubai.

Mae Bisley bellach wedi ymgorffori'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar draws sawl adran, gan gynnwys gweithgynhyrchu, gwasanaeth cwsmeriaid, logisteg, peirianneg a dylunio. Mae'r cwmni'n parhau i wneud cais am gymorth bob blwyddyn i gryfhau ei weithlu ymhellach ac mae'n argymell y rhaglen yn gryf i fusnesau eraill yng Nghymru.

Mae'r gefnogaeth gan Busnes Cymru wedi bod yn ardderchog - yn glir, yn ddefnyddiol ac yn effeithlon. Byddwn yn argymell y Rhaglen Sgiliau Hyblyg i unrhyw fusnes sy'n awyddus i uwchsgilio a buddsoddi yn ei bobl.

Mae'r gefnogaeth ariannol, y canlyniadau, a datblygiad galluoedd ein tîm i gyd wedi ein helpu i addasu a ffynnu mewn marchnad sy'n newid. Doedd dim rhaid meddwl ddwywaith cyn manteisio ar y rhaglen.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, ewch i Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth a chymorth i helpu'ch busnes i ddod o hyd i gyfleoedd, ac i siarad â chynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.