
Gyda chymorth Busnes Cymru, mae meithrinfa ddwyieithog yng Nghasnewydd wedi diogelu cyllid a lleoliad newydd i helpu i yrru ei adferiad a’i ehangiad yn dilyn tân trychinebus.
Gadawyd Wibli Wobli, meithrinfa Gymraeg gyntaf y ddinas, yn deilchion ar ôl i dân ar Ystâd Ddiwydiannol y Wern achosi difrod mawr, gan ei gorfodi i gau a gadael teuluoedd heb ofal plant. Roedd y feithrinfa, sy’n darparu ar gyfer dros 100 o blant rhwng sero a phump oed, yn wynebu ansicrwydd wrth i’r perchennog, Natasha Baker, chwilio am atebion.
Chwaraeodd Busnes Cymru ran allweddol wrth gynorthwyo a chynghori Natasha yn ei hymdrechion i achub y busnes, gan drafod strategaethau ac opsiynau o ran lleoliad. Gyda chymorth a chefnogaeth arbenigol, llwyddodd i ddiogelu safle newydd ym Mharc Busnes Parc Cleppa, a chafodd gwerth £25,000 o gyllid gan Raglen Gymorth UK Steel Enterprise Limited (UKSE) i Gymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu 10 o swyddi newydd a 30 lle ychwanegol yn y feithrinfa.
Roedd Wibli Wobli eisoes wedi gweithio gyda Busnes Cymru i ddatblygu cynllun busnes cadarn, i fanteisio ar ffynonellau cyllid fel UK Start Up Loans a Banc Datblygu Cymru, ac i sefydlu polisïau AD. Bu’r sylfeini hyn yn hanfodol wrth hwyluso ymateb cyflym ac effeithiol i’r argyfwng.
Wrth siarad am y cymorth a fu’n hanfodol i ddychweliad y meithrinfeydd, dywedodd Natasha:
Ar ôl y tân, bu angen i mi ddechrau’r broses o’r newydd. Doedd dechrau o’r dechrau ddim yn syniad deniadol o gwbl, ond roedd y cymorth a gefais i gan Busnes Cymru yn ystod y cyfnod cynnar wedi rhoi cynllun cadarn i mi i helpu i ddod o hyd i leoliad newydd diogel. Gyda’n safle newydd mwy o faint, gallwn ni dderbyn plant o dan ddwy oed nawr, sy’n rhywbeth nad oedd modd ei wneud yn y cyfleuster blaenorol.
Rydyn ni wedi cael cymorth mor gadarnhaol ein bod ni’n disgwyl croesawu rhagor o gofrestriadau. Mae hi’n rhoi cymaint o foddhad gwybod bod yr hyn rydyn ni wedi gweithio mor galed i’w greu yn cael ei werthfawrogi gan deuluoedd.
Gyda’r busnes yn sefydlog ac yn tyfu, mae Natasha’n ystyried ehangu eto, gyda chynlluniau i agor ail safle yng Nghaerdydd. Mae Busnes Cymru’n parhau i ddarparu cymorth strategol wrth i Wibli Wobli edrych i ehangu ei ddarpariaeth addysg ddwyieithog y blynyddoedd cynnar ar draws Cymru.
Mae gallu’r feithrinfa i ymadfer yn sgil trychineb yn dangos pwysigrwydd arweiniad busnes a chynllunio ariannol arbenigol wrth sicrhau gwytnwch a llwyddiant hirdymor yn y sector gofal plant.
Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Rashad Ismail:
Rydw i’n rhyfeddu at y cynnydd y mae Natasha wedi ei wneud mewn byr o dro. Mae hi wedi bod mor ddiwyd trwy gydol y broses, a hyd yn oed yn wyneb adfyd, mae hi wedi dod allan ohoni gymaint yn gryfach. Mae Wibli Wobli yn paratoi ar gyfer twf o fewn y lleoliad newydd, gan roi cyfle i fwy o blant i ddysgu a siarad Cymraeg, ac ehangu’r tîm i ddarparu ar gyfer y twf yma.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru.
Ewch i Hafan | Busnes Cymru/ neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg - we welcome calls in Welsh.
Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru