Sefydlwyd Accelero gan dri recriwtiwr technoleg profiadol a oedd wedi gweithio gyda'i gilydd ers blynyddoedd. Fe’i lansiwyd yn 2022 gydag uchelgais glir: adeiladu rhywbeth gwell na'r gwasanaethau recriwtio trafodaethol yr oedden nhw wedi gweld yn rheoli'r farchnad. Mae’r cwmni wedi'i leoli yng Nghaerffili, ac yn darparu gwasanaethau recriwtio technoleg a newid busnes arbenigol i fusnesau ledled y DU. Mewn dim ond pedair blynedd, mae Accelero wedi tyfu o fod yn fusnes newydd gwerth £300k i fusnes £1m, gan gefnogi dros 100 o sefydliadau a helpu mwy na 500 o ymgeiswyr i sicrhau rolau sydd wedi newid eu bywydau. Yma, mae'r cyd-sylfaenwyr Alistair Cooke, Ben Woodward a Jordan Biddle yn rhannu sut y gwnaeth cymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru eu helpu nhw i lywio un o'r marchnadoedd recriwtio anoddaf ers tro a dod drwyddi yn gryfach, gyda rhagor o ffocws ac yn barod ar gyfer y cam twf nesaf.
Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau Accelero?
Roedd y tri ohonom ni wedi gweithio gyda’n gilydd ers blynyddoedd cyn lansio Accelero. Roedden ni’n gwybod bod gennym ni’r cyfuniad cywir o brofiad, uchelgais a diwylliant i adeiladu rhywbeth gwell: partner recriwtio sy'n mynd yr ail filltir o ran darparu ansawdd gwasanaeth i gleientiaid ac ymgeiswyr. Partner talent dan arweiniad sylfaenwyr, sy’n rhoi cwsmeriaid yn gyntaf, ydyn ni. Cenhadaeth syml sydd gennym ni: rhoi mynediad llyfn i sefydliadau at dalent o ansawdd uchel a hynny wrth ddarparu profiad recriwtio sy'n teimlo fel partneriaeth, yn hytrach na thrafodiad.
Pa heriau a gawsoch chi wrth dyfu’r busnes?
Ar y dechrau, cydbwyso cyflawni â thwf, adeiladu gwelededd brand a llywio tirwedd recriwtio gynyddol anodd ei rhagweld, oedd ein heriau mwyaf. Rydyn ni wedi tyfu trwy'r farchnad recriwtio fwyaf heriol ers tro ym marn llawer, sef o ganol 2023 hyd heddiw, yn sgil diswyddiadau ledled y diwydiant ac ansicrwydd economaidd. Bu cadw gwydnwch a ffocws yn ystod y cyfnod hwnnw’n dipyn o gamp.
Sut mae RCT wedi cynorthwyo taith eich twf chi?
Helpodd RCT i finiogi ein safle yn y farchnad, fel partner talent strategol i gleientiaid ac yn ddewis gyflogwr i recriwtwyr yn ne Cymru. Bu'r cymorth mwyaf effeithiol ym maes brandio, marchnata a chanllawiau strategol lefel uwch o amgylch ein cyfeiriad un i dair blynedd. Helpodd hyn ni i feddwl yn fwy, gweithredu’n gynt a gosod ein hunain yn glir mewn marchnad orlawn.
Rydyn ni hefyd wedi symud i ddwy farchnad newydd: Gwerthiant a Pheirianneg, cryfhau ein strategaeth arallgyfeirio. Deilliodd yr ehangu hwn yn uniongyrchol o drafodaethau strategol dan arweiniad RCT ac mae wedi agor marchnadoedd gwerth uchel sy'n tyfu'n gyflym i ni.
Ydych chi wedi gweld twf yn nifer eich staff ers gweithio gyda RCT?
Ers gweithio gyda RCT, rydyn ni wedi creu saith swydd newydd. Mae'r twf hwn wedi caniatáu inni gryfhau ein hadrannau arbenigol ar draws Peirianneg Meddalwedd, Cynnyrch, DevOps, Cwmwl, TG, Rhwydweithio, Seiberddiogelwch a Newid.
Pa gerrig milltir rydych chi’n fwyaf balch o’u cyflawni?
Mae sicrhau trosiant dros £1m wedi rhoi boddhad anhygoel. Rydyn ni wedi mynd o £300k ym mlwyddyn un i £500k ym mlwyddyn dau, £600k ym mlwyddyn tri a £1m ym mlwyddyn pedwar. Mae cefnogi dros 100 o sefydliadau, gan gynnwys rhai o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru a'r DU, wedi bod yn anhygoel. Helpu dros 500 o ymgeiswyr sicrhau rolau sy’n newid bywydau yw’r peth pwysig. Chwaraeodd cymorth RCT o amgylch strategaeth a brandio ran fawr yn y cyflawniadau hyn.
Pa ran mae cynaliadwyedd wedi’i chwarae yn eich twf chi?
Rydyn ni wedi dechrau integreiddio cynaliadwyedd yn y ffordd rydyn ni'n gweithredu, o leihau ein defnydd o ynni swyddfa i ddigido prosesau mewnol i leihau gwastraff papur. Cefnogodd RCT ni gyda sgyrsiau strategol ynghylch twf cyfrifol, gan ein helpu ni i ddiffinio amcanion realistig ond uchelgeisiol ar gyfer y ddwy i dair blynedd nesaf. Ein nod yw dod yn fusnes recriwtio effaith isel, wedi'i alluogi gan dechnoleg ac i hyrwyddo cynaliadwyedd gyda'r partneriaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?
Cefnogwch eich hunain yn gynt. Cyflogwch yn gynt. A pheidiwch ag aros am yr amodau perffaith: momentwm yw popeth. Daliwch ati. Os ydych chi wir yn credu yn y genhadaeth, mae dyfalbarhad yn hollbwysig. Mae adeiladu busnes yn waith anodd a didosturi, ond os cadwch chi’ch ffocws, eich disgyblaeth a’ch gwydnwch, bydd e’n talu ar ei ganfed. Sicrhewch fod gennych chi dîm arbennig o’ch cwmpas chi, y mae eu cryfderau nhw’n ategu’ch rhai chi.
Sut y byddech chi’n cynghori busnesau i gael y budd mwyaf o RCT?
Byddwch yn glir am eich prif flaenoriaethau a chanolbwyntio cymorth RCT ar y rhain. A chofiwch: yn yr un modd â phopeth mewn bywyd, cewch chi allan beth rowch chi i mewn. Mae RCT wedi bod yn gaffaeliad o ran ein helpu ni i fod y busnes rydyn ni heddiw, ac rydyn ni’n gyffrous am beth sydd o'n blaenau.
Dysgwch ragor am sut gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.
Dysgwch ragor am Accelero.