
Mae 15 Gorffennaf 2025 yn nodi dengmlwyddiant dathlu Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd (WYSD) am y tro cyntaf yn 2015. Mae thema Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd 2025 yn canolbwyntio ar rymuso ieuenctid trwy ddeallusrwydd artiffisial a sgiliau digidol.
Wrth i'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol ail-lunio economïau trwy ddeallusrwydd artiffisial (AI), rhaid i Addysg a Hyfforddiant Technegol a Galwedigaethol (TVET) esblygu i arfogi pobl ifanc â sgiliau i’w paratoi ar gyfer y dyfodol.
Gwahoddir llywodraethau, addysgwyr, ieuenctid, llunwyr polisïau a datblygwyr technoleg i ddod at ei gilydd ac:
- eirioli dros AI moesegol, cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar bobl mewn Addysg a Hyfforddiant Technegol a Galwedigaethol
- cydweithio yn fyd-eang i rannu arferion gorau ac ariannu hyfforddiant sgiliau digidol
- cefnogi arloesi ar lawr gwlad sy'n cynyddu cyflogadwyedd ieuenctid
- chwyddo lleisiau ieuenctid wrth wneud penderfyniadau am ddyfodol gwaith
- bod yn rhan o lunio dyfodol cynhwysol, moesegol a grymusol i bob person ifanc trwy AI a sgiliau digidol
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: World Youth Skills Day
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau ledled Cymru i adeiladu gweithlu cryfach a mwy medrus. Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu hyd at 50% o'r costau hyfforddiant achrededig, gydag uchafswm gwerth o £50,000 fesul cais. P'un ai ydych chi eisiau llenwi bylchau sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm.