
Ledled Ewrop, anogir 700 miliwn o Ewropeaid a gynrychiolir gan 46 o aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop i ddysgu mwy o ieithoedd, beth bynnag eu hoedran. Mae Cyngor Ewrop yn argyhoeddedig bod amrywiaeth ieithyddol yn ffordd o sicrhau gwell dealltwriaeth ryngddiwylliannol, ac yn elfen allweddol o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein cyfandir. Felly, mae Cyngor Ewrop yn hyrwyddo amlieithedd dros Ewrop gyfan.
Drwy fenter Cyngor Ewrop, rydyn ni wedi dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop ar 26 Medi bob blwyddyn ers 2001.
Thema eleni yw ‘Mae ieithoedd yn agor calonnau a meddyliau!
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: European Day of Languages > Home
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim.