Newyddion

Cronfa gwerth £11.7 miliwn i sbarduno buddsoddiad mewn busnes a swyddi ym Mhort Talbot

Welder

Bydd cronfa newydd gwerth £11.78 miliwn ar gael yn fuan i fusnesau ym Mhort Talbot a’r cyffiniau i’w helpu i dyfu, creu swyddi o ansawdd uchel, a denu buddsoddiad hir dymor.

Mae’r Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi wedi’i dylunio i gefnogi cwmnïau sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth medrus gyda chyflogau da sy’n cyd-fynd â thalentau’r gweithlu lleol.

Mae’r gronfa yn cynnwys £6.78 miliwn gan Lywodraeth y DU a £5 miliwn gan Tata Steel UK a bydd yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell Nedd a Phort Talbot i gryfhau’r economi lleol.

I sicrhau bod y gronfa yn cael yr effaith mwyaf posib, bydd cyfnod o ymgysylltu gyda busnesau yn cychwyn cyn i’r gronfa agor ar gyfer cynigion yn yr hydref. Bydd hyn yn siapio dyluniad y gronfa - gan sicrhau ei fod yn bodloni anghenion busnesau ac yn datgloi’r amodau ar gyfer twf economaidd hir dymor, creu swyddi, a denu buddsoddiad gan y sector preifat. Unwaith y mae’r ymgysylltu wedi’i gwblhau, yna bydd y gronfa yn destun cymeradwyaeth achos busnes gan Lywodraeth y DU. 

Y cyhoeddiad cyllid hwn yw’r diweddaraf gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraethau’r DU a Chymru, awdurdodau lleol, undebau a busnesau.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cronfa gwerth £11.7 miliwn i sbarduno buddsoddiad mewn busnes a swyddi ym Mhort Talbot - GOV.UK

Mae Busnes Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cymorth busnes i unigolion, busnesau presennol a chwmnïau cadwyn gyflenwi y mae proses bontio Tata Steel wedi effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys pecyn o gyngor ac arweiniad busnes i'ch helpu i baratoi eich achos busnes am gymorth ariannol drwy Gronfeydd Pontio Tata Steel a ariennir gan Lywodraeth y DU: Cymorth Busnes Cymru ar gyfer proses bontio Tata Steel | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.