
Mae IQ Endoscopes, cwmni technoleg feddygol yng Nghas-gwent, wedi bod yn arwain y ffordd yn y sector gofal iechyd gyda'i endosgopau hyblyg arloesol.
Wrth baratoi i lansio eu cynnyrch ym marchnad y DU, mae'r cwmni wedi canolbwyntio ar ddatblygu ei weithlu drwy'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg, gan sicrhau bod eu staff yn gwbl gymwys cyn y lansiad. Gall busnesau yng Nghymru dderbyn hyd at 50% o gyllid tuag at gostau hyfforddi drwy'r rhaglen hon a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae IQ Endoscopes wedi elwa. Meddai Gemma Banks, Rheolwr AD yn IQ Endoscopes:
Fel busnes bach, rydyn ni wedi elwa'n fawr ar y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Mae'r cymorth hwn wedi bod yn hanfodol wrth fynd i'r afael â bylchau sgiliau ym maes peirianneg feddygol ac iechyd a diogelwch wrth i ni bontio o fod yn fusnes cychwynnol i fod yn fusnes sy’n fasnachol barod.
Ers ei sefydlu bedair blynedd yn ôl, mae IQ Endoscopes wedi gwneud camau breision ers y dyddiau cynnar hynny, pan gafwyd y syniad syml o wella darpariaeth endosgopi, i'r busnes y mae erbyn heddiw.
Ychwanegodd Gemma:
Mae ein tîm wedi tyfu o bedwar i 30 aelod o staff, a gyda'r twf hwn, rydyn ni wedi bod yn awyddus i sicrhau bod gennym ni’r sgiliau cywir ar waith. Rydyn ni wedi cyflogi arbenigwyr ac wedi uwchsgilio staff presennol i lenwi bylchau sgiliau.
Daeth Rhaglen Sgiliau Hyblyg i’n helpu gyda’r gwahanol feysydd hynny o fewn y busnes, gan gynnig hyfforddiant ychwanegol i gydweithwyr presennol.
Er enghraifft, roedden ni wedi nodi’r angen i wella iechyd a diogelwch yn ein hamgylchedd labordy. Trwy'r rhaglen, fe wnaethom ni ddarparu hyfforddiant technegol a chymhwyster i'n technegydd labordy. Mae'r hyfforddiant hwn wedi rhoi hwb i'w hyder a'i alluogi i weithredu strategaethau newydd, gan wneud y labordy yn lle mwy diogel.
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi bod yn allweddol yn nhwf busnes IQ Endoscopes.
Dyma Gemma eto:
Mae'r cyllid wedi ein helpu i ddarparu'r sgiliau angenrheidiol i’n staff, sy’n ein galluogi i ddatblygu ein gweithlu a thyfu.
Mae'r rhaglen wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer cadw staff ac mae'n ymgorffori ein gwerth craidd o rymuso. Rydyn ni am i'n staff deimlo eu bod yn perchnogi eu rolau, a thrwy gynnig cyfleoedd i feithrin eu harbenigedd a'u hyder, rydyn ni’n gweld gwir werth yn eu gwaith.
Ychwanegodd Gemma i gloi:
Mae Busnes Cymru wedi bod yn hynod gefnogol gan ddod o hyd i hyfforddiant sy'n gweddu i'n hanghenion busnes. Fel busnes newydd, rydyn ni’n addasu'n gyson i fodloni gofynion busnes, ac mae'r rhaglen hon wedi hwyluso hynny.
Os ydych chi'n fusnes newydd neu'n fusnes bach yng Nghymru, rwy'n argymell yn gryf eich bod yn estyn allan. Mae'n gyfle gwych i sicrhau cyllid ar gyfer datblygu staff. Gall hyd yn oed sgwrs fod yn gychwyn ar bethau mawr.
Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, ewch i Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru.
Mae Busnes Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth a chymorth i helpu'ch busnes i ddod o hyd i gyfleoedd, ac i siarad â chynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.