Hanes llwyddiant

Ramsay and White yn defnyddio Twf Swyddi Cymru+ i recriwtio a hyfforddi staff newydd

Rachel Morley, Partner at Ramsay and White

Mae Ramsay and White, cwmni cyllid eiddo blaenllaw wedi'i leoli yn Ne Cymru, yn defnyddio rhaglen Twf Swyddi Cymru+ i gyflogi a hyfforddi staff newydd.

Yn arbenigo mewn cyllid eiddo i fuddsoddwyr, mae'r cwmni wedi ehangu’n sylweddol ers ei sefydlu yn 2018, gyda hynny’n cael ei yrru gan bobl ifanc sy'n dod trwy'r busnes. Mae recriwtio craff wedi helpu twf y cwmni trwy ganolbwyntio ar fuddsoddi yn natblygiad gweithwyr.

Mae recriwtio a hyfforddiant wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth rhaglen Twf Swyddi Cymru+ a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd â'r nod o ddod â thalent newydd i ddiogelu eu busnes i'r dyfodol.  

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i fusnesau recriwtio a hyfforddi staff, a gall busnesau yng Nghymru dderbyn hyd at 50% o gostau cyflogaeth pob person ifanc drwy'r rhaglen hon am y chwe mis cyntaf.

Meddai Paul Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Ramsay and White:

Mae ein busnes wedi tyfu'n organig, gyda llawer o'n haelodau iau yn dechrau heb unrhyw brofiad yn y diwydiant. Rydyn ni wedi eu hyfforddi i ddod yn gynghorwyr morgeisi, cynghorwyr ariannol, a rheolwyr achos. Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ wedi bod yn allweddol yn y broses hon, gan ein galluogi i ddarparu'r hyfforddiant a'r gefnogaeth angenrheidiol.

Mae'r rhaglen hefyd wedi cefnogi ein hymdrechion recriwtio. Mae hyn wedi bod yn arbennig o fuddiol i'n gweithwyr iau, sydd wedi dangos twf a datblygiad enfawr ers dilyn y rhaglen.

Mae Rachel Morley, Partner yn Ramsay and White, hefyd wedi bod yn sbardun pwysig ac wedi cefnogi'r recriwtiaid ifanc sy'n dod drwy Twf Swyddi Cymru+, ac sydd wedi symud ymlaen i brentisiaethau. Ychwanegodd:

Rydyn ni wedi cael unigolion yn dod drwy'r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ac yn symud ymlaen i brentisiaethau, ac mae llawer wedi dod yn weithwyr parhaol.

Mae'r hyfforddiant wedi newid bywyd llawer o'n gweithwyr. Mae wedi rhoi cyfle iddyn nhw adeiladu eu gyrfaoedd a thyfu o fewn y cwmni. Rydyn ni wedi gweld unigolion yn symud ymlaen o fod yn rheolwyr achos i fod yn bartneriaid, diolch i'r gefnogaeth a ddarperir.

Mae'r potensial ar gyfer twf o fewn y cwmni yn enfawr. Gall gweithwyr ennill cymwysterau i ddod yn froceriaid neu symud i rolau rheoli. Mae hyn wedi rhoi cyfle i Ramsay and White gynnig gyrfa i unigolion, nid dim ond cyflogaeth.

I gloi meddai Rachel Morley: 

Dechreuais fel rheolwr achos fel y gwnaeth ein recriwtiaid diweddaraf. Wnes i ddim meddwl rhyw lawer am y peth ar y pryd, swydd chwe mis i mi efallai. Nawr, rwy'n eistedd yma fel un o'r partneriaid yn Ramsay and White. Mae'r potensial yn enfawr pan fyddwch chi'n ymuno â’r diwydiant, ac mae'r rhaglen wedi newid fy mywyd. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc adeiladu eu gyrfaoedd a thyfu o fewn y cwmni.

Am ragor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+ ac am brentisiaethau, ewch i Busnes Cymru: Twf Swyddi Cymru+ | Busnes Cymru.

Mae Busnes Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth a chymorth i helpu'ch busnes i ddod o hyd i gyfleoedd, ac i siarad â chynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.