Hanes llwyddiant

Dylunio ar gyfer effaith: sut yr helpodd y Rhaglen Cyflymu Twf yr asiantaeth ddigidol Spindogs i droi cyflawni isel o ran carbon yn fantais gystadleuol

Spindogs

"Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi ein helpu ni i grisialu ein syniadau a throi cynaliadwyedd o'r 'peth iawn i'w wneud' i fod yn gynllun gweithredu clir sy'n ennill gwaith. Mae eu cymorth nhw wedi gwneud ein prosiectau ni’n wyrddach a’n busnes yn gryfach."

Sefydlwyd Spindogs yng Nghaerdydd tra roedd y tîm yn dal yn y brifysgol. Tyfodd dros ddau ddegawd i fod yn asiantaeth trawsnewid digidol flaenllaw. Heddiw, mae'r cwmni'n darparu rhaglenni marchnata brand, gwe a digidol ar raddfa fawr i gleientiaid ym meysydd moduro, technoleg ariannol, llywodraeth a thai cymdeithasol, gan wasanaethu cleientiaid sy’n cynnwys Hyundai, Hodge Bank, CThEF, y GIG, a Peabody. Gyda throsiant o £4.6m ac enw da am ymdrin â phrosiectau sensitif, trwm o ran data, mae Spindogs hefyd yn integreiddio meddwl carbon isel ym mhob cam cyflawni. Yma, mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Liam Giles yn rhannu sut y gwnaeth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru helpu i gyflymu eu taith i leihau carbon a throi gwerth cymdeithasol yn werth masnachol.

Pa broblem rydych chi’n ei datrys, a pham mae cynaliadwyedd o bwys yn hyn o beth?

Rydyn ni'n dileu’r boen o gyflawni newid cymhleth; popeth o ail-leoli brand i lwyfannau digidol aml-safle, sy'n gyforiog o ddata. Mae’r sector digidol yn cyfrif am dros 3% o allyriadau byd-eang. Ein cenhadaeth ni yw creu cynhyrchion ac ymgyrchoedd sy'n perfformio'n uchel ac sy’n isel o ran carbon, fel nad oes rhaid i gleientiaid ddewis rhwng profiad ac effaith.

Sut y bu RCT o gymorth i chi ar eich taith i leihau carbon?

Helpodd RCT ni i fabwysiadu dull strwythuredig a mesuradwy. Yn gyntaf, dyma nhw’n ein helpu ni i sefydlu mesuriadau gwaelodlin ar draws Cwmpas 1, 2, a 3, sy'n cynnwys ynni swyddfa, teithio, a gweithio o bell, yn ogystal â'r allyriadau sy'n gysylltiedig â chynnal a chyflawni. O'r fan honno, dyma ni’n llunio’n cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â thargedau cydnabyddedig, gydag adolygiadau rheolaidd trwy ein Grŵp Llywio Cynaliadwyedd mewnol i'n cadw ni’n atebol.

Ein nod sefydliadol yw cyflawni Sero Net o ran allyriadau Cwmpas 1 a 2 erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2025–26. Rydyn ni’n mynd i'r afael â Chwmpas 3 trwy ymgysylltu â chyflenwyr ac effeithlonrwydd parhaus yn y ffordd rydyn ni’n dylunio, adeiladu, cynnal a chadw cynhyrchion. Lleddfir unrhyw allyriadau na ellir eu hosgoi trwy raglenni ardystiedig.

Beth oedd yr heriau mwyaf?

Roedd casglu data yn y cyfnodau cynnar - yn enwedig o gwmpas Cwmpas 3 -yn gymhleth. Hefyd, mae’n anodd ymgorffori newid wrth dyfu’n gyflym. Rôl RCT yw dod â'r arbenigedd cywir ar yr adegau cywir fel y gallwn ni gynnal momentwm heb golli ffocws.

Pa newidiadau ymarferol rydych chi wedi eu gwneud?

Mae ein holl lwyfannau cleientiaid wedi eu cynnal ar seilwaith yn y cwmwl sydd wedi’i bweru gan ynni adnewyddadwy, gan sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd ein gwaith. Rydyn ni wedi optimeiddio’r gwaith o gyflawni asedau ac wedi mabwysiadu egwyddorion dylunio dan arweiniad perfformiad i leihau’r data a drosglwyddir, gan leihau'r defnydd o ynni heb gyfaddawdu profiad y defnyddiwr. Trwy gofleidio agwedd at gydweithio o bell yn gyntaf, rydyn ni hefyd wedi lleihau teithio yn sylweddol, gan leihau allyriadau wrth gynnal gwaith tîm di-dor. Yn olaf, rydyn ni wedi symleiddio ein llifoedd gwaith adeiladu a defnyddio, gan eu gwneud nhw’n fwy darbodus i osgoi gofynion cyfrifiadurol diangen a'r gwastraff adnoddau sy'n deillio o ail-weithio. Gyda’i gilydd, mae'r newidiadau hyn wedi ein helpu ni i gyflawni prosiectau digidol sy'n effeithlon ac sy’n isel o ran carbon.

Budd diwylliannol yw’r un mwyaf: mae cyflawni carbon isel yn rhan o'n diffiniad ni o "ansawdd", nid yn ategiad ato. Y newid meddylfryd hwnnw sy’n cynnal cynnydd.

Ble mae cymorth y RCT wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf?

Bu’r RCT yn seinfwrdd ac yn gymorth arbenigol wrth gefn. Maen nhw wedi ein helpu ni i grisialu syniadau, rhoi prawf straen ar ein cynllun, a chefnogi rhaglenni newid allweddol, yn fwyaf arbennig gweithredu ISO 9001 ac ISO 27001. Cefnogodd RCT hefyd waith caffael a gryfhaodd ein galluoedd, sy'n hanfodol ar gyfer darparu digidol cymhleth, carbon isel ar raddfa.

Ydy’r gwaith lleihau carbon wedi’ch helpu chi i ennill contractau pwysig?

Ydy, yn enwedig lle mae gwerth cymdeithasol a chynaliadwyedd yn feini prawf gwerthuso craidd. Bellach mae ein dull ni’n elfen allweddol o ymatebion caffael, ac mae wedi ein helpu ni i sicrhau enillion sylweddol yn y sectorau cyhoeddus a thai. Ymhlith y llwyddiannau diweddar mae cydweithrediadau â Peabody Homes, CThEF, Swyddfa'r Cabinet, a Magenta Housing, yn ogystal â phrosiectau mawr eraill yn y GIG a llywodraeth leol. Mae prynwyr yn chwilio’n fwy ac yn fwy am bartneriaid sy'n gallu dangos cynlluniau credadwy, llywodraethu cadarn, a dulliau cyflawni ymarferol. Helpodd cymorth RCT ni i dynhau pob un o’r tri.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n tyfu ac sy'n dechrau eu taith i Sero Net?

Dechreuwch gyda gwaelodlin a chynllun syml, ac wedyn ewch ati i’w ail-wneud dro ac ar ôl tro. Gwnewch gynaliadwyedd yn rhan o’ch rhestrau gwirio cyflawni, ac nid yn sgil brosiect. A defnyddiwch gymorth RCT i gyflymu a dileu risg y daith, boed hynny'n ganllawiau arbenigol, yn fframweithiau, neu’n gysylltiadau.

Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gefnogi eich busnes chi.

Dysgwch ragor am Spindogs.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.