Ym mis Tachwedd 2015 cydnabuwyd Evabuild fel y cwmni a oedd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau Fast Growth 50.

Ar ôl cofrestru ar y rhaglen ym mis Awst 2015, nodwyd cymorth ym meysydd gwell cyfathrebu â gweithwyr safle drwy ddatblygu ap symudol ac adolygu adnoddau TGCh a phrosesau a rheolaethau ariannol mewnol.

Mae ymyrraeth y Rhaglen Cyflymu Twf wedi galluogi pwyllgor gweithredol y cwmni i ganolbwyntio'n fwy ar dyfu'r busnes yn gyflym a datblygu ei nodau strategol, sy'n cynnwys datblygu cynnyrch newydd y gellid ei allforio. Cynorthwywyd Evabuild drwy ddod â'r cwmni a thîm arloesi Llywodraeth Cymru at ei gilydd. Hyd yma mae'r cwmni wedi creu un swydd newydd ac un brentisiaeth.