Chwyldro yng ngofal y geg: Brushbox, gwasanaeth bocs tanysgrifio brwshys a phast dannedd cyntaf y DU, sy’n cludo cynhyrchion i’ch stepen drws pan fyddwch chi eu hangen. Sefydlwyd y cwmni ym mis Mawrth 2017, a dechreuodd weithredu ar 15 Ionawr 2018. Yn ei flwyddyn gyntaf, nod y cwmni o Gaerdydd yw sicrhau mwy o danysgrifiadau na’r 5,000 a gafodd y gwasanaeth raseli Cornerstone.
Y person a gafodd y syniad am fenter ar-lein Brushbox yw’r cyn-gynghorydd ariannol Mike Donovan. Nod y gwasanaeth, sy’n cael cefnogaeth ariannol gan y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Martyn Williams ymysg eraill, yw datblygu i fod yn frand ar-lein gorau’r byd am gynhyrchion gofal y geg. Bydd ei wasanaeth tanysgrifio yn cludo cynhyrchion gofal y geg i gartrefi cwsmeriaid, gan gynnwys brwshys a phast dannedd bob deufis – gyda’r opsiwn i dderbyn edau ddeintiol a glanhawyr tafod hefyd. Mae’r brwshys a gynigir yn wahanol iawn i’r rhai a welwch chi ar y silff yn yr archfarchnad a gall cwsmeriaid ddewis o blith rhai ‘safonol’ neu rai bambŵ crwm a llyfn.
Meddai Mr Donovan: “Fe sefydlais i Brushbox gyda’r nod o newid y ffordd mae pobl yn meddwl am eu dannedd ac yn gofalu amdanyn nhw. Rydyn ni’n wasanaeth bocs tanysgrifio iechyd y geg sy’n cludo cynhyrchion deniadol yn syth i’ch stepen drws, gan gynnig cyfleustra, fforddiadwyedd ac, yn bwysicaf oll, iechyd da. Mae dannedd yn bwysig i ni i gyd, ond amcangyfrifir nad yw 70% ohonom ni yn y DU yn newid ein brwsh dannedd pan ddylen ni wneud hynny, a gall y canlyniadau fod yn eitha dychrynllyd. Ar gyfer y rhai â bywydau prysur sy’n poeni am eu lles eu hunain a lles eu teulu, gallan nhw gofrestru i gael tawelwch meddwl a ffordd syml a chyfleus o sicrhau ceg iach a gwên hardd.”
Gyda’i fodel 'Prynu 1, Rhoi 1', mae’r cwmni wedi meithrin partneriaeth â’r elusen ddeintyddol ryngwladol Dentaid i ddarparu brwshys dannedd ar gyfer ei fenter BrightBites, sy’n darparu rhaglenni addysg iechyd y geg i ysgolion ledled y DU. Meddai Mr Donovan, 36 oed, sy’n dad i dri o blant: “Rydyn ni’n bwriadu gwneud newid sylweddol i wella iechyd y geg i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” Meddai Dr Richard Vangasse, deintydd a phartner yn Restore Dental Group, nad yw’n gysylltiedig â Brushbox: “Mae Brushbox yn ffordd wych a syml o sicrhau eich bod chi’n newid eich brwsh dannedd pan ddylech chi wneud hynny. Bydd pob deintydd yn dweud wrthych chi fod hyn yn gwbl hanfodol."
Mae Brushbox yn darparu bocsys i oedolion a phlant ac yn gallu darparu cynhyrchion ar gyfer hyd at bedwar person mewn bocs – cymysgedd o blant ac oedolion. Bydd y cynhyrchion yn cael eu hanfon atoch bob yn ail fis, yn unol ag argymhelliad deintyddion. Ar gyfer un person, pris tanysgrifiad yw £3.49 y mis, neu £3.99 ar gyfer yr opsiynau bambŵ, gyda’r edau ddeintiol a’r glanhawyr tafod yn costio £1.00 y mis yn ychwanegol. Mae’r prisiau’n gostwng os oes cynhyrchion i fwy nag un person mewn bocs.
Twf busnes
Mae’r busnes wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti o £245,000 ar gyfer cyfalaf gweithio cychwynnol, marchnata, datblygu cynhyrchion newydd a thwf strategol.
Mae Brushbox yn rhan o raglen ‘Entrepreneurial Spark’ NatWest, sef y rhaglen gyflymu fwyaf yn y byd ar gyfer busnesau newydd a busnesau twf.
Ymyrraeth Cyflymu Twf.
Mae Brushbox yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru hefyd, a gynlluniwyd ar gyfer cwmnïau twf uchel sy’n ehangu’n gyflym.