Dyma barhau â’n cyfres o flogiau sy'n canolbwyntio ar fusnesau sydd wedi elwa ar gymorth Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, drwy edrych ar Leader Optec yn Llanelwy. 

Mae Leader Optec yn gwmni gweithgynhyrchu ceblau ffeibr optig sy'n darparu ceblau cysylltu cyflym ar gyfer y diwydiant canolfannau data, sef sector sydd wedi tyfu'n gyflym yn y blynyddoedd diweddar.

Dyma Paul Desmond o Leader Optec yn esbonio hanes ei fusnes a sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi cymorth i'r busnes dyfu. Mae hefyd yn cynghori pobl eraill ar eu taith entrepreneuraidd nhw.

 

Soniwch am Leader Optec.

Fe wnaethom ni sefydlu'r cwmni yn 1993 pan ddechreuais i gyda chyn-gydweithiwr i mi o Pilkington. Fe welsom ni fwlch yn y farchnad ar gyfer cydosod ceblau trwsio ffeibr optig ar gyfer y nifer gynyddol o rwydweithiau ffeibr.  Pan wnaethom ni ymgorffori'r busnes yn 2000, penderfynodd fy mhartner busnes gwreiddiol adael ac fe wnaeth fy nhad, Michael, ymuno â’r cwmni fel cyd-gyfarwyddwr.

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru ac Amcan 1, fe wnaethom ni sefydlu pencadlys ym Mharc Busnes Llanelwy, lle rydym yn gweithredu nawr. Cawsom ysgytwad emoisynol yn 2013, pan fu farw fy nhad. Cafodd ei gyfranddaliadau ef eu pasio ymlaen i fy chwaer, Laurie Summers, ac ymunodd hi â'r bwrdd. Mae gan Laurie 25% o gyfran, a fi sydd â’r 75% arall.

Yn y 25 mlynedd ddiwethaf, rydym wedi tyfu i gyflogi mwy na 40 o bobl, ac mae’r busnes yn parhau i dyfu. Mae’r byd yn symud yn sydyn, ac rydym wedi dilyn y datblygiadau o ran y dulliau cysylltedd, y technegau a’r prosesau diweddaraf, ac rydym wedi buddsoddi pan fo angen mewn offer, cyfarpar a hyfforddiant. Wrth i’r galw gan fusnesau a defnyddwyr am ddatrysiadau technoleg gwybodaeth yn y cwmwl barhau i dyfu, mae mwy o ganolfannau data yn cael eu hadeiladu, ac mae safleoedd sydd wedi cael eu sefydlu eisoes yn parhau i uwchraddio i dechnoleg cyflymach a mwy galluog. Rydym yn gweithredu mewn sector lle mae cyfleoedd enfawr, felly gallwn greu mwy o swyddi a thwf ar gyfer y cwmni hefyd.

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?

Rydym wedi cael cymaint o gerrig milltir a chymaint o gydnabyddiaeth dros y blynyddoedd. Rwy'n cofio croesi trothwy £1m o drosiant yn 2000, sef moment o falcher mawr. Yna, symud i’n safle newydd yn 2001 a chael agoriad swyddogol ar gyfer yr adeilad, gyda fy ngwraig a fy nhad yno. Yn 2016, fe wnaethom ni lansio ein portffolio o nwyddau Lite Linke mewn arddangosfa ryngwladol, felly roedden ni'n arddangos ein technoleg arloesol i gynulleidfa ryngwladol o gleientiaid posibl.

I gloi, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, daeth ein prentis peirianneg cyntaf, a chafodd radd ddosbarth cyntaf mewn peirianneg. Ac anrheg annisgwyl gan y staff i gyd oedd ein parti i ddathlu 25 mlynedd.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?

Dros y ddwy flynedd i dair ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi mewn addysg fusnes a ffurfioli strategaeth. Hyd at yr adeg honno, canolbwyntio ar yr anghenion o ddydd i ddydd oedden ni. Petawn i’n gael fy amser eto, byddwn wedi canolbwyntio ar weledigaeth ar gyfer y tymor hir, ac mae’n siŵr y byddai hynny wedi addasu llawer o’r penderfyniadau y byddwn wedi eu gwneud, yn bennaf wrth recriwtio.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael cymorth gwych gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae ein cyfarwyddwr gwerthiant, Mike Lenihan, wedi cael ei fentora drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru gan Richard Forde Johnston, a roddodd hyfforddiant gwerthu i’r tîm gwerthu. Roedd hyn yn delio â datblygu busnes, rheoli cyfrifon, cadw cwsmeriaid a gwerthu datrysiadau. Ers hynny, mae’r busnes wedi gwneud tua 5% o dwf yn y gwerthiant.

Cafodd ein swyddog marchnata ei gefnogi gan Nick Mason, mentor Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Fe wnaeth ei helpu i sefydlu cynllun marchnata clir ar gyfer y cwmni a’n cynnyrch Lite Linke. 

Fe wnaeth Nick ein hannog i edrych ar y neges farchnata yn hytrach na dim ond y cynnyrch er mwyn canfod beth roeddem yn ceisio ei gyfleu i'r cleient. Crewyd deunyddiau marchnata mwy slic, yn canolbwyntio lai ar fanylion. Ers hynny, rydym wedi creu dwy wefan newydd, mae un yn seiliedig ar e-fasnach ac mae wedi talu amdani’i hun ddwywaith drosodd. Roedden ni'n teimlo bod gwaith Nick yn hanfodol i baratoi'r cwmni ar gyfer y dyfodol.

Cefais fy mentora gan Geoff Andrews, sef yr ymgynghorydd cyntaf i ni weithio ag ef o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Y peth cyntaf dan sylw oedd ein gweledigaeth fel cyfarwyddwyr, a sut i gynllunio i wireddu'r weledigaeth honno. Hyd at y pwynt hwn, gweledigaeth 12-18 mis oedd yr hiraf gennyf, felly y cynllun oedd ymestyn hynny yn gynllun pum mlynedd a dechrau meddwl am gynllunio ar gyfer olyniaeth hefyd.

Roedd y mentora drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn digwydd hanner diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 10 wythnos, gan roi digon o amser i strwythuro’r cynllun ac adolygu a gwneud newidiadau angenrheidiol. Parhaodd Geoff i weithio gyda ni am hanner diwrnod bob pythefnos hyd nes i’r prosiect gael ei gwblhau. 

Heb y cymorth penodol hwn, ni fyddai'r cwmni wedi symud ymlaen oherwydd fe wnaethom ni sefydlu strwythur rheoli cryfach.

 

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni heddiw?

● Rhaid derbyn pethau. Nid y flwyddyn gyntaf o'r busnes sy’n anodd, ond y 25 mlynedd gyntaf. Yna, mae pethau’n mynd yn anoddach! Felly, derbyniwch fod pethau’n wastad yn heriol i'r rhan fwyaf o sectorau busnes, ac mae’n hawdd i gymhelliant a brwdfrydedd personol leihau dros amser.

● Trefnwch i gael mentor a fydd yn gadael i chi wyntyllu pethau ond a fydd yn eich tynnu'n ôl at eich strategaeth hefyd.

● Rhaid i chi gael gwledigaeth ar gyfer y tymor hir – mor fyr â phum mlynedd, mor hir â 25 mlynedd. Un boblogaidd yw adeiladu busnes er mwyn ei werthu. Drwy gael gweledigaeth gallwch chi ofyn y cwestiynau: “A fyddaf yn cyflawni hyn gyda fy staff cyfredol, gyda fy mhortffolio cyfredol o nwyddau neu wasanaethau, gyda fy sylfaen cleientiaid/marchnad cyfredol?”

 

Dysgu mwy am Leader Optec.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page