Ers ei lansio yn 2021, mae Revolancer wedi newid byd gweithwyr llawrydd trwy ddatblygu ecosystem ar gyfer cyfnewid sgiliau. Mae'r platfform yn cynnig rhyddid i weithwyr llawrydd gyda'u gyrfa ac yn gweddnewid y ffordd y mae gwaith llawrydd yn cael ei weld a'i gyfnewid. Mae hefyd yn grymuso pobl hunangyflogedig i dyfu eu busnesau heb gyfyngiadau ariannol.

Syniad Karl Swanepoel yw'r platfform, ac mae taith Karl fel entrepreneur yn ddim llai na rhyfeddol. Gan ddechrau ar ei yrfa lawrydd yn 13 oed a gwerthu ei fusnes cyntaf yn 15 oed, sylweddolodd Karl yn gynnar fod y diwydiant llawrydd yn llawn heriau a’i fod yn aml yn dibrisio ei ased mwyaf - y gweithwyr llawrydd eu hunain. Y sylweddoliad hwn oedd y sbardun i'r syniad ar gyfer Revolancer. Cafodd Karl weledigaeth o blatfform lle gallai gweithwyr llawrydd gyfnewid gwasanaethau a chefnogi ei gilydd, a hynny heb yr angen am gyllideb gychwynnol fawr. Roedd newid y paradeim o fewn y byd llawrydd o un a roddai'r pwyslais ar arian i economi a ganolbwyntiai ar sgiliau yn gam beiddgar.

Heddiw, mae 100,000 bobl o dros 100 o wledydd yn defnyddio'r platfform, prawf bod ei rwyd rhyngwladol wedi'i daflu'n bell. Mae buddsoddwyr, fel SFC Capital, wedi'i gefnogi ac mae cyd-sylfaenydd Apple Steve Wozniak, wedi bod yn uchel ei glod gan gyfeirio at Revolancer fel "startup cŵl." Isod, mae Karl Swanepoel yn rhannu stori taith ei fusnes a'i gyngor i las-entrepreneuriaid.

 

Image removed.
 

Dywedwch wrthym am Revolancer.
Dangosodd fy mhrofiadau yn y diwydiant llawrydd fod yna fwlch sylweddol ynddo. Mae gweithwyr llawrydd yn aml yn cael eu dibrisio ac yn ei chael hi'n anodd cael at wasanaethau hanfodol. Cafodd Revolancer ei greu i greu amgylchedd tecach, mwy cydweithredol ar gyfer gweithwyr llawrydd. Wrth weld heriau'r diwydiant llawrydd â'm llygaid fy hunan, penderfynais fod angen mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol hyn. Tyfodd Revolancer o'm hawydd i greu gobaith a chyfle i weithwyr llawrydd ym mhobman.

Mae Revolancer yn fwy na phlatfform; Mae'n gymuned lle mae sgiliau a gwasanaethau'n cael eu masnachu, gan sbarduno cydweithio a thwf. Mae'n cynnig system gredyd unigryw, gan ganiatáu i weithwyr llawrydd gyfnewid gwasanaethau, gan osgoi'r rhwystrau ariannol sy'n nodweddiadol o blatfformau llawrydd traddodiadol.

Wrth iddo barhau i dyfu ac esblygu, mae Revolancer ar fin ailddiffinio'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn weithiwr llawrydd yn y byd cyflym a rhyng-gysylltiedig sydd ohoni heddiw.
 

Sut mae Revolancer yn chwyldroi'r profiad llawrydd nodweddiadol?
Mae gweithio llawrydd arferol yn golygu trafodion ariannol, sy'n gallu cyfyngu ar bethau. Mae Revolancer yn newid y ddeinameg hon trwy gyflwyno system gredyd. Mae gweithwyr llawrydd yn ennill credydau trwy eu gwasanaethau, ac maen nhw'n cael gwario'r credydau hynny ar wasanaethau eraill o fewn y platfform. Mae hyn yn annog diwylliant llawrydd mwy cefnogol gyda chymuned yn ganolog iddi.
 

Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi'ch helpu i dyfu?
Mae cefnogaeth y Rhaglen wedi bod yn allweddol. Cawsom gyngor strategol, yn enwedig ym maes marchnata a chynllunio ariannol, a oedd yn hanfodol pan oeddwn yn dechrau tyfu. Fe wnaeth eu harweiniad ein helpu i drechu'r heriau a'n hwynebodd, a ninnau'n dechrau yn ystod y pandemig, gan effeithio ar ein gallu i ehangu'n fyd-eang.
 

Pa anawsterau gawsoch chi a sut wnaethoch chi eu goresgyn?
Daeth dechrau yn ystod y pandemig â'i broblemau unigryw. Ond, fe welon ni hyn fel cyfle i gynnig atebion i weithwyr llawrydd yr oedd yr argyfwng wedi effeithio arnyn nhw. Y wers fwyaf ddysgon ni oedd pwysigrwydd ehangu'n fyd-eang, rhywbeth y gwnaethon ni ei osgoi i ddechrau. O edrych yn ôl, byddwn wedi gallu tyfu hyd yn oed yn gynt pe bawn wedi mynd yn fyd-eang yn gynharach.
 

Beth yw'ch breuddwydion ar gyfer Revolancer yn y dyfodol?
Ein nod yw parhau i ehangu'n fyd-eang, gan greu cymuned amrywiol a chynhwysol o weithwyr llawrydd. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella ein platfform, gan ei wneud yn fwy hygyrch a gwerthfawr i weithwyr llawrydd ledled y byd.
 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i entrepreneuriaid eraill?

● Gweld cyfleoedd a gweithredu arnynt, yn enwedig pan fydd argyfwng annisgwyl yn codi.

● Aros yn ffyddlon i'ch cenhadaeth a'ch gwerthoedd; y rheini fydd yn arwain eich busnes trwy gyfnodau cythryblus.

● Gofyn am adborth drwy'r amser a byddwch yn barod i newid os bydd newidiadau yn y farchnad yn gofyn am hynny.

● Gofalwch fod gennych dîm angerddol sy'n credu yn eich gweledigaeth o'ch cwmpas.

● Chwiliwch am help ac arweiniad gan arweinwyr profiadol yn y diwydiant



I ddysgu mwy am Revolancer, ewch i Revolancer.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page