Yn 2012, cychwynnodd Richard Selby a Justin Marriott ar fenter i drawsnewid y diwydiant dur. Eu nod oedd sefydlu cwmni oedd yn blaenoriaethu gwasanaeth eithriadol ac atebion arloesol.

Dechreuodd taith Pro Steel Engineering yn syml yn ystafell flaen Selby, gan gynyddu'n gyflym i gwmni mawr gyda throsiant o dros £10m. Mae llwybr twf y cwmni yn dangos ei hymrwymiad i arloesi, gan groesawu ac addasu yn gyson i heriau newydd yn y farchnad. Heddiw, mae Pro Steel Engineering o Bont-y-pŵl wedi ailddiffinio safonau'r diwydiant mewn saernïo a pheirianneg dur, gyda chymorth y gefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
 

Yma, mae'r sylfaenydd Richard Selby yn rhannu taith, heriau, a dyheadau y cwmni ar gyfer y dyfodol, ynghyd â'r hyn y mae'n credu yw hanfod llwyddiant rhyfeddol Pro Steel.


Image removed.


 

Dywedwch wrthym am Pro Steel Engineering.
Yn ei hanfod, mae Pro Steel yn cynnig atebion o ran strwythurau dur cynhwysfawr, yn amrywio o ymgynghoriad cychwynnol i weithredu prosiect. Mae ein gweithrediadau yn cwmpasu prosiectau amrywiol, gan gynnwys cydrannau cymhleth ar gyfer warysau awtomataidd a mentrau ar raddfa fawr yn y sectorau hedfan a seilwaith chwaraeon. Nodwedd Pro Steel yw ein dull sy'n canolbwyntio ar atebion, lle nad nod yn unig yw gwasanaeth personol a datrys problemau, ond safonau a osodwn ym mhob prosiect.

Mae ein tîm yn ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol ac arloesol. Mae pob aelod o'r tîm yn dod ag arbenigedd unigryw, gan gyfrannu at ymdrech ar y cyd sy'n gyrru'r cwmni tuag at gyflawni campau rhyfeddol ym mhob prosiect a gyflawnir.


Beth fu rhai o'r heriau mwyaf sylweddol rydych chi wedi'u hwynebu yn eich twf, a sut wnaethoch chi eu goresgyn?
Rydym wedi wynebu heriau amrywiol, yn enwedig o ran staffio a sgiliau. Fe wnaeth y prinder sgiliau yn y diwydiant ein hysgogi i arloesi yn ein strategaethau recriwtio. Rydym wedi partneru â sefydliadau addysgol lleol ar gyfer prentisiaethau ac wedi cysylltu â charchardai lleol ar gyfer rhaglenni hyfforddi, sydd wedi bod yn hanfodol wrth fynd i'r afael ag anghenion ein gweithlu.

Rydym yn cysylltu'n rhagweithiol â chyn-filwyr, sydd angen cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd yn aml pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i ysgogi pobl sydd mewn diweithdra hirdymor i mewn i waith.

Mae recriwtio menywod i'r tîm bob amser yn her ond yn rhywbeth rydyn ni'n ei drin fel blaenoriaeth. Rydym yn gweithio gydag ysgolion lleol yn Nhorfaen i wella canfyddiad pobl o'r sector ac annog pobl o bob cefndir i ymuno â'n diwydiant. Rydym yn angerddol am addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc yn ein cymunedau lleol am yr holl gyfleoedd y gallwn eu cynnig yn y sector hwn, ac rydym yn gweld y gwaith hwn yn rhan annatod o greu talent ar gyfer y dyfodol.
 

A allwch ddweud wrthym sut mae arallgyfeirio wedi ategu eich twf?
Ers sefydlu, mae Pro Steel wedi ehangu'n strategol i farchnadoedd amrywiol, gan fanteisio ar sectorau a chyfleoedd newydd. Mae ein twf wedi'i nodweddu gan barodrwydd i archwilio meysydd anghyfarwydd, o brosiectau seilwaith mawr i gymwysiadau diwydiannol arbenigol. Nid yw'r arallgyfeirio hwn yn ddaearyddol yn unig ond hefyd yn yr amrywiaeth o brosiectau rydym yn ymgymryd â hwy, gan sicrhau gwytnwch a gallu i addasu mewn diwydiant sy'n symud yn gyflym.
 

Allwch chi rannu rhai o'ch contractau a'ch prosiectau blaenllaw rydych chi fwyaf balch ohonyn nhw?
Un o'n llwyddiannau mwyaf yw creu'r ddraig goch 22 tunnell yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, symbol o'n crefftwaith a'n harloesedd. Mae ein prosiectau nodedig eraill yn cynnwys ein cyfraniadau i'r stadia Olympaidd a Twickenham yn Llundain ac atyniad diweddar y Stadiwm SCALE yng Nghaerdydd. Mae'r prosiectau hyn nid yn unig yn arddangos ein galluoedd technegol ond hefyd ein gallu i greu adeiladau unigryw a heriol.
 

Beth yw agwedd Pro Steel tuag at gynaliadwyedd?
Mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o ethos Pro Steel. Rydym wedi ymgymryd â llawer o fentrau rhagweithiol, megis trosglwyddo i ffynonellau ynni gwyrdd a lleihau ein hôl troed carbon. Mae hyn yn bwysig i ni, gan ein bod am arwain drwy esiampl yn y sector a dangos ein hymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol. Rydym yn bwriadu canolbwyntio ar brosiectau ynni adnewyddadwy a strategaethau datgarboneiddio, gan gynrychioli ein camau sylweddol nesaf tuag at arweinyddiaeth yn y diwydiant ac arferion cynaliadwy.
 

Sut mae cefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi dylanwadu ar dwf a datblygiad Pro Steel?
Mae ein hymwneud â'r Rhaglen Cyflymu Twf yn rhychwantu dros saith mlynedd, ac mae eu cefnogaeth wedi newid ein sefyllfa. Mae'r ystod o wasanaethau a ddarperir gan y Rhaglen Cyflymu Twf, o gymorth allforio i gymorth strategaeth recriwtio, wedi chwarae rhan hanfodol yn ein datblygiad a'n llwyddiant.

Mae cefnogaeth y Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn sylfaenol yn ein twf. Mae'r gefnogaeth amlochrog wedi ein galluogi i archwilio marchnadoedd newydd, croesawu technolegau arloesol, a chryfhau ein safle yn y dirwedd fyd-eang gystadleuol.

 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid?

Cymerwch gyngor ond dilynwch eich greddf.

 

Dysgwch fwy am ProSteel, yma.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


 

Share this page

Print this page