Wrth i dechnoleg feddygol ddatblygu, mae’r sector fferyllol yn allweddol i ddarparu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda – gan gadw’r goreuon yn y wlad a denu talentau o wledydd eraill y DU a’r byd.

Un busnes blaenllaw yn sector fferyllol Cymru yw CatSci, o Gaerdydd, a eginodd o gwmni sy’n ymgorfforiad bellach o bopeth mae meddygaeth fodern yn ei olygu, yn enwedig y frwydr yn erbyn Covid-19 – AstraZeneca.  

 

Mae CatSci wedi cael help Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. Mae’r AGP yn targedu cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu.  Cyllidir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.


 

 

Yma, bydd y Dr Mark Waring, Cyfarwyddwr Gweithrediadau CatSci yn y DU a Safle Caerdydd, yn rhannu hanes y cwmni gyda ni ac yn rhoi cyngor i fusnesau eraill sydd am dyfu a ffynnu.  

 

Dywedwch wrthon ni am CatSci 

Mae ein stori yn dechrau yn 2010, felly rŷn ni wedi bod yma am fwy na degawd llwyddiannus. Yn yr amser hwnnw, rŷn ni wedi tyfu’n sylweddol a’n hamcan yw tyfu mwy eto.

Un person sydd wedi bod yng nghanol datblygiad a thwf CatSci yw’r Dr Ross Burn, ein Pennaeth.  Ross yw’r grym sydd wedi sbarduno’n llwyddiant, gan fowldio ethos y cwmni ac arwain ein twf.

 

Ar ôl ennill ei PhD yn 2007, ymunodd Ross ag AstraZeneca fel Uwch Fferyllydd Dadansoddol mewn Prosesau Ymchwil a Datblygu. Roedd ei arbenigedd fel dadansoddydd a’i feddylfryd entrepreneuraidd yn hanfodol i greu CatSci yn 2010. Gwnaed Ross yn Bennaeth yn 2015 ac ers hynny, mae wedi arwain y cwmni o fod yn gwmni sgrinio catalyddion i fod y partner arloesi arobryn ar gyfer datblygu meddyginiaethau y mae heddiw.  

Mae Ross wedi gwneud CatSci yn gwmni sy’n rhoi’r gweithiwr yn gyntaf ac sy’n trysori ei dîm talentog. Mae’n meithrin diwylliant yn y cwmni sy’n mynnu gwelliant, ac yn datblygu’r unigolyn a’r cwmni. Ei nod yw gweld CatSci yn tyfu i fod y prif bartner ar gyfer datblygu a chynhyrchu meddyginiaethau newydd. Fel prawf o’i ysbryd arloesi ac entrepreneuraidd, cafodd Ross ei roi ar Restr Pobl Bwerus 2021 y Gwneuthurwyr Meddyginiaethau – sef rhestr o bobl yn y diwydiant fferyllol sy’n ysbrydoli.

 

Felly beth dyn ni’n wneud yma yn CatSci? Rŷn ni’n ymroi i chwalu’r ‘silos’ yn y byd datblygu cyffuriau er mwyn gallu darparu moddion sy’n newid bywydau i gleifion yn gynt.

Rŷn ni’n cynnig atebion addas o ansawdd uchel i helpu datblygwyr cyffuriau o ddechrau i ddiwedd y broses fferyllol.  Rŷn ni’n helpu’n cwsmeriaid i drechu heriau gwyddonol a gweithgynhyrchiol cymhleth, gan ychwanegu at werth strategol eu taith o’r moleciwl i’r moddion.

 

Ar y dechrau, dim ond pum gweithiwr oedd gan CatSci; bellach, rŷn ni’n cyflogi dros 100 ac yn gweithio gyda mwy na hanner y prif ddeg cwmni fferyllol a phedwar o’r pum prif gwmni.  Rŷn ni am barhau i dyfu yn y pencadlys yng Nghaerdydd. Mae gennym ail safle yn Dagenham sy’n cael ei ddatblygu fel canolfan ddadansoddi ragorol.

Mae gennym chwe labordy ar y ddau safle sy’n defnyddio’r offer gorau diweddaraf. Hefyd, mae Keensight Capital newydd fuddsoddi arian mawr ynom, gan roi’r modd i ni ehangu’n cyfleusterau, gwasanaethau, labordai a’n gweithlu.  

 

Rŷn ni’n hynod o uchelgeisiol ac rŷn ni’n edrych ar dwf o bersbectif tymor hir. Rŷn ni’n gobeithio creu neu gynnal 500 o swyddi uchel eu gwerth – gan gryfhau safle’r DU fel y lleoliad gorau yn y byd am wasanaethau o’r radd flaenaf ar gyfer datblygu cynnyrch fferyllol.  

Mae gan fwyafrif aelodau’n timau technegol, masnachol a rheoli raddau PhD ac rŷn ni’n gweithio’n galed i ddenu’r talentau gorau a chreu’r amodau iddynt allu ffynnu.  Mae pwrpas CatSci yn sbardun i ni i gyd: cael moddion newydd i ddwylo’r cleifion sydd eu hangen.

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?
Rŷn ni’n hynod falch o lawer o bethau y mae CatSci wedi’i wneud hyd yma.  Un o’r llwyddiannau mwyaf hyd yma yw ennill Gwobr y Frenhines am Fenter: Masnachwr Rhyngwladol 2022 a wobrwyodd gwaith caled, talent ac ymroddiad tîm cyfan CatSci. Gwnaeth y wobr gydnabod ein hymroddiad di-flino i ddatblygu meddyginiaethau’n gynt a’n cadarnhau fel partner arloesi o fri rhyngwladol ar gyfer datblygu meddyginiaethau.

Rŷn ni wedi ennill llawer o wobrau eraill hefyd.  Yn y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni wedi ennill Gwobr Llesiant y Gweithle Gwobrau Busnes Cymru, Gwobr Busnes y Flwyddyn (25+ o weithwyr) Gwobrau Busnes Inspire a Gwobr Allforiwr y Flwyddyn Bionow.  Roedden ni hefyd ar restr fer am ddwy o Wobrau Rhagoriaeth Busnesau Prydain Lloyds Bank: Gwobr Allforiwr y Flwyddyn a Gwobr Pencampwr Amrywiaeth, a dwy o Wobrau Busnes Caerdydd: Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn a Busnes Technoleg y Flwyddyn.  

 

Yn ogystal â’r gwobrau ac fel dw i eisoes wedi sôn, testun balchder arall oedd buddsoddiad sylweddol Keensight Capital, cwmni ecwiti preifat pwysig. Diolch i’r buddsoddiad hwn, byddwn yn gallu bwrw ymlaen â’n cynlluniau ehangu uchelgeisiol a chyflymu’n twf er mwyn i ni allu parhau i gynnig mwy o’r gorau i’n cwsmeriaid a meddyginiaethau o’r radd flaenaf i’n cleifion ledled y byd.

 

 

Pa heriau y mae’ch busnes wedi’u hwynebu?
Yn 2016, gwnaethon ni newid strategaeth ein busnes a newid o fod yn gwmni sgrinio catalyddion yn unig i gynnig gwasanaethau datblygu cyffuriau cynhwysfawr fyddai’n ateb y gofyn. Roedd hynny’n her gan y bu’n rhaid ail-drefnu’r cwmni a denu busnes newydd.

Penderfynon ni dargedu’r Unol Daleithiau. Roedd hynny’n golygu ennyn ffydd a hyder marchnad gystadleuol oedd eisoes yn llawn, er bod neb yno’n gwybod amdanom.

 

Roedd pandemig Covid-19 wrth reswm yn gyfnod aruthrol o anodd am lawer o resymau. A neb yn cael teithio dramor ac ofn ymhlith llawer y byddai golwg economaidd y byd yn newid, cafodd prosiectau eu canslo a’u gohirio.  

Gyda chyfran dda o’n gwaith yn dod o America, roedd y pandemig yn golygu dim tripiau na sioeau masnach rhyngwladol i ddod i nabod ein cleientiaid. Hefyd, doedden ni ddim yn gallu gwahodd cleientiaid i’n safleoedd ni i wneud penderfyniadau.  Er hynny, aethon ni ati’n gyflym i greu labordy diogel rhag Covid a chadw’n sylw’n ddiwyro ar anghenion y cwsmer. O ganlyniad, cawsom ailddechrau heb fawr o drafferth. Roeddwn i’n arbennig o falch nad oedd rhaid rhoi staff ar ffyrlo. Hefyd, gwnaethon ni ddatblygu arfau digidol i leihau effeithiau’r pandemig, gan gynnwys taith 360° ar-lein o’r safle i bobl allu ymweld â’n cyfleusterau o bell.

 

Wrth i CatSci dyfu, rŷn ni wrthi beunydd yn esblygu’n galluoedd yn unol ag anghenion a disgwyliadau’n cwsmeriaid. O’r herwydd, bu’n rhaid cynyddu’r gweithlu a gwella’n cyfleusterau a’n cynnyrch ond gan gynnal ansawdd uchel y gwasanaethau roedden ni’n adnabyddus am eu darparu.

Er yr heriau hyn a diolch i’n hystwythder, ein strategaeth arloesi a rhyngwladoli a’n hangerdd dros ddatblygu meddyginiaethau (ac i’r tîm sydd gennym i fynd i’r afael â hyn oll!), testun balchder i ni yw ein bod bellach yn gwasanaethu 13 gwlad. Eleni, gwnaethon ni fentro i Japan – yr ail farchnad fwyaf ar gyfer arloesedd fferyllol – ac rŷn ni newydd ennill ein prosiect cyntaf â chwsmer yn Japan.

 

Petaech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rŷn ni’n falch o daith a datblygiad CatSci, ond un wers y gwnaethon ni ei dysgu’n fuan oedd bod rhaid mynd ati ar unwaith i gael hyd i gwsmeriaid. Waeth pa mor wych yw’ch cynnyrch neu’ch gwasanaethau, fydd neb yn eich ffonio ar y diwrnod cyntaf. Bydden ni hefyd wedi penodi Prif Swyddog Ariannol yn gynt, gan fod swydd honno’n yn angenrheidiol i ddeall materion ariannol y busnes ac i roi strategaeth dwf y cwmni ar waith.

 

Sut mae AGP Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes
Rŷn ni wedi cael help amrywiaeth o ymgynghorwyr a chynghorwyr trwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru – ac mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy i ni a’n gallu i dyfu. Maen nhw wedi’n cynghori ar lawer o bynciau, gan gynnwys datblygu a marchnata, adeiladu tîm a datblygu’r unigolyn, dulliau gweithio ‘main’ a mentora cefnogaeth i’n tîm ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi’n helpu hefyd gyda theithiau masnach a chynadleddau. Rŷn ni hefyd yn benderfynol o greu gweithlu amrywiol a chynhwysol. Rŷn ni wedi diweddaru’n strategaeth amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant i fod yn fwy cynhwysol a hygyrch gan gyflwyno polisïau newydd blaengar yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.  

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau ar eu taith? 

  • Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi’n ei wneud yn dda a sut byddech chi’n ei roi ar y farchnad. Peidiwch â cheisio bod yn bopeth i bawb, yn enwedig ar y dechrau.
  • Cadwch y cwsmer ym mlaen eich meddwl; meddyliwch amdano ym mhob cam, siaradwch ag e’ a gwrandewch arno i ddeall sut y gallwch chi roi’r gwerth mwyaf iddo, nawr ac yn y dyfodol. 
  • Eich tîm yw’ch ased mwyaf. Dewch â nhw gyda chi ar eich taith.
  • Gofalwch fod gennych weledigaeth glir ar gyfer tyfu ac uchelgais fawr.

Cymerwch gymaint o ddyled ag y medrwch cyn ildio ecwiti – ceisiwch ddeall faint o fuddsoddi sydd ei angen arnoch, pryd bydd ei angen arnoch ac i beth.


 

I ddysgu mwy am CatSci, cliciwch yma.


Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
 


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan. Caiff ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page