Yn swatio yn nhref hardd Trefynwy, mae hynt Milking Solutions wedi bod yn rhyfeddol, gan fynd o fod yn gwmni mewnforio sy'n gwasanaethu'r DU i fod yn wneuthurwr ac allforiwr byd-eang o fri sy'n cyflenwi darnau peiriannau godro. Heddiw, mae ystod cynhyrchion y cwmni yn cynnwys offer godro ar gyfer gwartheg, defaid, geifr a chamelod. Yma, mae Kevin Graham, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn rhannu'r daith ddifyr a drawsnewidiodd fusnes bach yng Nghymru yn arweinydd byd-eang yn ei farchnad arbenigol ddewisol. 

 

Image removed.

[Kevin Graham a thîm Milking Solutions] 

 

Dywedwch wrthon ni am Milking Solutions Ltd.
Yn Milking Solutions, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud mwy na gweithgynhyrchu darnau peiriant godro yn unig; rydyn ni'n ymwneud â chynnal hirhoedledd y peiriannau hyn hefyd. Cawson ni ein sefydlu yn 2003, ac ar y cychwyn ein ffocws oedd mewnforio a dosbarthu brand Ewropeaidd penodol o beiriant godro. Fodd bynnag, o ganlyniad i newid ym mholisïau dosbarthu ein prif gyflenwr, fe wnaethon ni symud i gyfeiriad gwahanol fel gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr byd-eang. Rydyn ni'n cyflogi 15 o bobl ac yn cynnal trafodion mewn sawl iaith, gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg, gan wasanaethu tua 40 o wledydd ledled y byd. Mae ein gwerthiant blynyddol yn fwy na £2 filiwn. 
 
Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu yn ystod y trawsnewidiad hwn?
Mae ein taith wedi bod yn llawn heriau. I ddechrau, cafodd ein prif gyflenwr ei gaffael gan gwmni Americanaidd, ac arweiniodd hynny at derfynu ein contract mewnforio. Roedd hwn yn bwynt arbennig o isel inni gan ei fod yn golygu colli ein prif farchnad a'n prif gyflenwr. Fe wnaethon ni wynebu llu o rwystrau a risgiau o'r cychwyn cyntaf. Yn ffodus, roedden ni wedi hen sefydlu erbyn inni orfod llywio cymhlethdodau Brexit a'r ansicrwydd a achoswyd gan bandemig COVID. Yn hytrach na gadael i'r heriau hyn ein rhwystro ni, fe wnaethon ni fachu ar y cyfle i'w defnyddio nhw i sbarduno arloesi a newid cyfeiriad ein model busnes.

 
Sut rydych chi wedi addasu i'r heriau hyn?
Pan wynebon ni'r ergyd yn sgil terfyniad y contract mewnforio, wnaethon ni ddim ystyried bod drws wedi cau ond yn hytrach bod ffenestr wedi agor ar gyfleoedd newydd. Roedden ni'n gwybod bod nifer o gwmnïau mewn sefyllfa debyg yn fyd-eang, a oedd wedi canfod yn sydyn eu bod heb gyflenwr uniongyrchol ar gyfer darnau sbâr hanfodol. Gwelson ni fwlch yn y farchnad a phenderfynu ei lenwi ein hunain. 
 
Aethon ni ati mewn modd strategol i lunio cynllun busnes uchelgeisiol i symud i ffwrdd o fod yn fewnforiwr a dosbarthwr i'r DU i fod yn wneuthurwr ac allforiwr byd-eang. Canolbwyntiodd y cynllun hwn ar ddatblygu catalog cynhwysfawr o gynhyrchion mewn sawl iaith a llwyddo i ddatblygu sylfaen cwsmeriaid gadarn. Roedd y cyllid cychwynnol yn hanfodol i'n cynllun, ac fe lwyddon ni i sicrhau hyn drwy Cyllid Cymru, Banc NatWest, y cynllun gwarantu benthyciadau i fusnesau bach, buddsoddwr mewn gweithwyr, a disgowntio anfonebau drwy Fanc Lloyds. Fe wnaethon ni ddefnyddio ein warws yn Nhrefynwy i ddarparu'r sicrhad angenrheidiol i'n galluogi i fenthyca'r arian. 
 
Roedd ein strategaeth yn uchelgeisiol ond wedi'i llunio'n ofalus. Roedd angen y galw sy'n deillio o farchnad fyd-eang arnon ni er mwyn cyfiawnhau gweithgynhyrchu mewn swmp, felly roedd allforio yn rhan hanfodol o'r cynllun o'r cychwyn cyntaf. Roedd angen inni allu sicrhau meintiau elw uchel er mwyn clirio benthyciadau a gwneud lle ar gyfer datblygu cynhyrchion. Profodd y penderfyniad i weithgynhyrchu o dan is-gontractau i fod yn ddewis effeithlon a chost-effeithiol, gan ddefnyddio hawliau wedi'u caffael a pheiriannau gwreiddiol ar gyfer gweithgynhyrchu darnau sbâr. 
 
Yn ôl y cyngor safonol, dylai busnesau ddatblygu marchnad ddomestig gref yn gyntaf cyn ceisio allforio. Er bod hwn yn gyngor cadarn, nid oedd yn cyd-fynd â'n model ni. Oherwydd ein hanghenion ni o ran symiau gwerthiant a'n hymrwymiadau ariannol sylweddol, roedden ni'n gwybod y byddai'n rhaid inni weithredu'n gyflym. Nod ein strategaeth oedd ailadeiladu ein presenoldeb ym marchnad y DU, a sefydlu marchnad allforio gadarn ar yr un pryd. 
 
Mae'n hanfodol credu ynoch chi'ch hun wrth gychwyn ar her o'r fath. Mae wedi bod yn daith hir sydd wedi golygu gwneud llawer o waith caled, ond mae'r canlyniad wedi bod yn rhyfeddol, a dweud y lleiaf. Heddiw, rydyn ni yn y sefyllfa ddiogel o fod â mwy na 100 o gyflenwyr a chwsmeriaid mewn sawl gwlad ledled y byd, ac mae'r busnes yn ffynnu. Mae teyrngarwch gweithwyr wedi bod yn hollbwysig ar hyd y daith hon. Fe wnaethon ni sicrhau hyn drwy gynnig cyfranddaliadau yn y cwmni am ymrwymiad i barhau gyda'r cwmni am o leiaf dwy flynedd. Nawr, mae gennyn ni dîm ffyddlon o weithwyr proffesiynol penderfynol, medrus iawn a phrofiadol. Nhw sydd wedi datblygu'r busnes hwn i fod yn chwaraewr bach ond nerthol ar y llwyfan fyd-eang, ac rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw. 
 
Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt y busnes hyd yma?
Y foment rydyn ni fwyaf balch ohoni yw pan wnaethon ni sylweddoli, o'r diwedd, bod ein gweledigaeth a'n symud strategol, oddi wrth fewnforio tuag at weithgynhyrchu ac allforio, yn mynd i weithio. Pan welson ni'r golau ym mhen draw'r twnnel yn ymddangos – ac wedyn ei weld yn mynd yn fwy disglair cyn inni redeg allan o arian – roedd e'n deimlad o ryddhad a llawenydd mawr. O hynny ymlaen, fe wnaethon ni fwrw ymlaen â gwneud y gwaith yn iawn, a daeth llwyddiant yn sgil hynny. 
 
Rhan allweddol o'n hethos busnes yw cyfrannu at yr economi gylchol. Drwy ddarparu darnau sbâr sy'n estyn oes y peiriannau godro presennol – mae rhai ohonyn nhw'n 50 mlwydd oed – rydyn ni'n lleihau gwastraff ac yn helpu ein cwsmeriaid i fod yn fwy cynaliadwy. Mae'n bosibl ailadeiladu ein hoffer godro newydd yn llwyr, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu darnau sbâr ar eu cyfer ymhell i'r dyfodol. 
 
Sut mae cymorth gan Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae'r gefnogaeth aml-ddimensiwn gan Busnes Cymru a Cyllid Cymru wedi bod yn amhrisiadwy ar hyd ein taith. Fe wnaeth y Rhaglen Cyflymu Twf ein helpu o ran gwneud cynlluniau ariannol a mireinio ein strategaethau marchnata a'n sgiliau rheoli. Roedd hynny'n hanfodol inni wrth inni fynd drwy broses gyflym o newid cyfeiriad ein model busnes. Darparodd Cyllid Cymru y gefnogaeth ariannol yr oedd ei hangen arnon ni ar gyfer datblygu cynhyrchion newydd.  
 
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid? 
 
Breuddwydiwch, a chredwch ynoch chi'ch hun. 
Mae arbenigo mewn maes penodol yn dda, a dylech anelu at fod y gorau. 
Nodwch beth nad ydych chi'n ei wybod a mynnwch gyngor a chefnogaeth. 
Peidiwch â gweithio'n galed yn unig; gweithiwch yn glyfar ar y peth iawn. 
Dewch o hyd i'r hyn sydd wir yn bwysig o ran sicrhau llwyddiant eich busnes, a chanolbwyntiwch arno. 
Mae'n rhaid i chi fod yn dda yn eich maes, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i redeg busnes hefyd. Maen nhw'n ddau beth gwahanol. 
Fe ddaw llwyddiant os daliwch ati i'w wneud yn iawn, ond byddwch yn amyneddgar. 
Peidiwch â dibynnu ar un cyflenwr neu un farchnad yn unig; mae arallgyfeirio yn allweddol i fod yn wydn. 
 
Rhagor o wybodaeth am Milking Solutions
 
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

 

Image removed.

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Share this page

Print this page