Mae Keto Pro, a sefydlwyd gan Richard Smith, yn esiampl o arloesi yn y diwydiant iechyd a lles. Wedi datblygu o drafferthion iechyd Richard gyda diabetes Math 2, mae Keto Pro wedi datblygu o un siop yng Nghastell-nedd i fusnes proffidiol ar-lein gyda throsiant o dros £1m. Fel pencampwr cryfhau corffolaeth dynion Prydain ac Ewrop, mae Richard yn dod â llawer o wybodaeth a phrofiad personol i'r busnes.   

Mae'r deiet keto, a nodweddir gan ei ddull braster uchel, protein cymedrol a charbohydrad isel, yn hyrwyddo colli pwysau, yn gwella lefelau egni, ac yn gwella rheolaeth siwgr yn y gwaed, gan ei wneud yn ffordd o fyw poblogaidd i bobl sydd am well eu hiechyd. Mae Keto Pro yn cynnig ystod eang o gynhyrchion sy'n addas ar gyfer keto ac yn ymgysylltu â'i gymuned trwy gynnwys addysgol, gweithdai, a sianel YouTube boblogaidd. Ethos canolog y busnes yw creu ffordd o fyw keto i bawb.   

Mae taith Keto Pro o argyfwng iechyd personol i fusnes ffyniannus yn enghraifft bwerus o sut y gall angerdd, gwytnwch a chefnogaeth strategol greu effaith barhaol. Mae ymroddiad Richard Smith i rannu manteision deiet Keto wedi trawsnewid ei fywyd ac wedi gosod Keto Pro fel arweinydd ym maes iechyd a lles. 

 

Image removed.

 

Buom yn trafod gyda Richard i ddysgu mwy am ei daith o gychwyn busnes i frand e-fasnach llwyddiannus 

 

Dywedwch wrthym am darddiad Keto Pro.
Daeth y busnes i fodolaeth oherwydd fy nhaith bersonol gyda'r deiet Keto, wnaeth wella fy iechyd yn sylweddol. Gan gydnabod yr her o ddod o hyd i gynhyrchion Keto o safon, dechreuais gyda siop yng Nghastell-nedd, a oedd yn llwyddiant mawr, ac yna gwnaethom ehangu ar-lein. Ein cenhadaeth yw gwneud ffordd o fyw Keto yn hygyrch i bawb, gan ddarparu ystod o gynhyrchion ac adnoddau addysgol i gefnogi anghenion iechyd ein cwsmeriaid.  

  

Pa heriau rydych chi wedi'u hwynebu, a sut wnaethoch chi eu goresgyn
Ar y cychwyn, wnes i ddim sylweddoli gofynion rhedeg busnes. Roedd rhaid imi ddysgu rheoli arian, yn enwedig rheoli costau a llif arian. Gydag arweiniad gan ein rheolwr perthynas Rhaglen Cyflymu Twf, fe wnaethom fireinio ein strategaethau ariannol, gan ein galluogi i dyfu yn llwyddiannus. Roedd y pandemig, yn rhyfedd iawn, yn cynnig cyfleoedd inni dyfu wrth i'n gwefan ddenu mwy o gwsmeriaid yn chwilio am atebion iach.  

  

Gan edrych yn ol ar eich taith, beth fyddech chi wedi'i wneud yn wahanol?
Pe bawn i'n gallu dechrau eto, byddwn i'n canolbwyntio mwy ar gynllunio a threfnu safle busnes pwrpasol yn gynt. Ar un cyfnod, roedd ein tŷ ni'n llawn bocsys o gynnyrch, ac roedd rhaid i ni wasgu heibio iddyn nhw i fynd i fyny'r grisiau!   

  

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt y busnes hyd yma?
Ein cerrig milltir mwyaf arwyddocaol oedd datblygu ein brand ein hunain a chyrraedd trosiant o £1m. Mae gwybod ein bod yn helpu mwy o bobl i ddechrau ar ffordd iachach o fyw yn deimlad gwych, yn enwedig gan fy mod wedi wynebu fy heriau iechyd fy hun. Yr effaith honno yw'r hyn sy'n fy ysgogi bob dydd.  

  

Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi eich helpu i dyfu?
Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn allweddol yn ein datblygiad, o gynllunio ariannol i ehangu ein presenoldeb ar-lein. Mae eu cefnogaeth wedi ein helpu i lywio heriau gweithredol ac arwain at dwf sylweddol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n rheolwr perthynas i fireinio ein strategaethau marchnata ymhellach a pharhau â'n hehangu.   

  

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid?  

  • Dechreuwch gyda chynllun cadarn ond byddwch yn barod i addasu. 
     
  •  Rhaid gweithio'n galed; byddwch yn barod am oriau hir a heriau.  
     
  • Chwiliwch am gyngor a chefnogaeth gan raglenni fel y Rhaglen Cyflymu Twf. Mae dod o hyd i gymorth busnes o ansawdd da yn hanfodol gan na allwch wybod popeth.    

  

Dysgwch fwy amKeto Pro yma.  

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.  

Share this page

Print this page