Gall fod sawl ffactor sy’n ysgogi rheolwyr i brynu’r cwmni (MBO) y maent yn gweithio iddo.  Roedd yr hyn a ysgogodd y tîm arwain yn Minerva, gwneuthurwyr mowldiau clust wedi’u teilwra o Gaerdydd, i wneud hynny yn glir, sef sicrhau dyfodol disglair i’r busnes.

Ers cwblhau’r MBO yn llwyddiannus yn 2017, mae Minerva wedi bod ar ei ennill drwy dyfu a buddsoddi yn ei waith ymchwil a ddatblygu i sicrhau ei fod ar flaen y gad o ran newid yn y sector.

 

Mae Minerva wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf (RhCT) Busnes Cymru. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth wedi’i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol, sy’n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae Nicola Watkins, sy’n rhan o’r tîm arwain a lywiodd y pryniant gan y rheolwyr, yn esbonio sut y daeth at ei gilydd, yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu a sut mae’r cwmni wedi newid ei ddiwylliant wrth iddo oresgyn heriau fel pandemig COVID-19.

 

 

 

 

Soniwch ychydig  am Minerva
Rydym yn fusnes sydd â gwreiddiau hanesyddol ac rydym yn falch o’r gwreiddiau hynny. Cawsom ein sefydlu tua’r un adeg y daeth y GIG i fodolaeth, ac ers hynny, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r GIG i wella bywydau pobl sydd â heriau clywed.

Er ein bod wedi bod o gwmpas ers degawdau, arloesi yw un o’n cryfderau craidd. Rydym yn datblygu ac yn gweithgynhyrchu mowldiau wedi’u teilwra ar gyfer cymhorthion clyw sy’n cael eu defnyddio gan y GIG a chwmnïau cymorth clyw preifat. Mae gennym hefyd adran amddiffynyddion clyw wedi’u teilwra sy’n dylunio ac yn gwneud clustffonau wedi’u teilwra ar gyfer sectorau masnachol, pobl ym maes chwaraeon a’r diwydiant adloniant. Rydym yn fusnes arloesol, a dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen wrth fabwysiadu prosesau argraffu 3D a deallusrwydd artiffisial.

 

Bu hwn yn gyfnod o newid sylweddol inni. Fel tîm rheoli, gwnaethom brynu’r  cwmni drwy MBO yn 2017. Y flwyddyn ganlynol ymunon ni â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ac ers hynny, mae’n gweithlu wedi tyfu 36%, gydag 16% o’r twf hwnnw’n digwydd ers COVID-19. Mae ein tîm bellach yn cynnwys 42 o bobl. Mae RhCT Busnes Cymru wedi bod yn allweddol i’r twf hwnnw. Mae ein gwaith arloesol wedi arwain at gyfleoedd i bobl iau ymuno â’r busnes er mwyn inni allu edrych ymlaen at y dyfodol a bod yn hyderus wrth inni gynllunio ar gyfer olyniaeth.

 

Rydym ar daith foderneiddio, ac rydym yn disgwyl y bydd integreiddio technoleg deallusrwydd artiffisial yn gwella’n heffeithlonrwydd, yn lleihau ein costau cynhyrchu ac yn gwella ansawdd ein cynnyrch ymhellach. Rydym hefyd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y galw cynyddol am gymhorthion clyw mwy datblygedig a chynnyrch i amddiffyn y clyw mewn lleoliadau diwydiannol. Rydym yn disgwyl mai cynnyrch o’r math hwnnw fydd yn ysgogi’n twf yn y blynyddoedd nesaf.

Diolch i’r datblygiadau hyn, credwn fod Minerva mewn sefyllfa dda i barhau i dyfu a llwyddo yn y blynyddoedd i ddod. 

 

Beth rydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?
Ar ôl cwblhau’r MBO, ni allem fod wedi rhagweld yr heriau. I gwmni fel ein un ni, roedd y pandemig, wrth gwrs, yn rhwystr enfawr. Ond fe wnaeth hefyd roi hwb i’n hymdrechion i arloesi. Roedden ni’n cynnwys ein staff mewn penderfyniadau pwysig, ac mae hynny wedi cryfhau Minerva ac wedi rhoi’r arfau inni ymdopi â heriau’r dyfodol.

Rydym wedi dod allan o’r pandemig gyda gweithlu mwy hyblyg ac un sy’n ymwneud yn fwy â’r penderfyniadau. Pan sylweddolon ni mai ein marchnad fwyaf fyddai’n cymryd yr amser hiraf i adfer, roedden ni’n gwybod bod yn rhaid inni dorri costau er mwyn goroesi. Felly cafodd pob gweithiwr bleidlais er mwyn dylanwadu ar lwybr y cwmni at y dyfodol - ac fe ddewison nhw leihau eu horiau 25% dros dro yn hytrach na gweld cydweithwyr yn cael eu diswyddo. Dangosodd hynny eu hymrwymiad i'r busnes ac mae wedi cyfrannu at feithrin diwylliant mwy ystwyth ac ymroddedig.

 

Rydym hefyd wedi cael cydnabyddiaeth am ein gwaith a chawsom ein henwi’n Gwneuthurwyr y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2020. Mae’r math yma o beth yn ffordd wych o’n hatgoffa ein bod ni’n gwneud y pethau iawn.

 

Pa heriau y mae’ch busnes wedi’u hwynebu
Yn gyntaf, roedd yr MBO yn her inni. Roedden ni i gyd wedi gweithio gyda’n gilydd yma ers blynyddoedd lawer, a phan benderfynodd y perchennog werthu, roedd hi’n amlwg bod gennym i gyd weledigaeth a nod cyffredin ar gyfer y cwmni hwn. Doedden ni ddim eisiau gweld y cwmni’n diflannu na  cydweithwyr yn colli eu swyddi. Felly wnaethon ni weithio gyda Banc Datblygu Cymru i ariannu’r pryniant a buddsoddi ein harian ein hunain. Rydym ni i gyd yn falch o ba mor bell mae Minerva wedi dod ers hynny.

Wrth gwrs, ar ôl cwblhau’r MBO, cyrhaeddodd pandemig COVID-19. Cyn gynted ag y digwyddodd hynny, caeodd y farchnad iechyd ar gyfer ein cynnyrch ar unwaith. Fe wnaethon ni ddefnyddio’r cynllun ffyrlo cyn dechrau ar gamau i gynllunio ar gyfer sefyllfa lle byddai’r farchnad yn cau am gyfnod estynedig. Fel y soniais, aeton  ni ati’n gyflym i ailstrwythuro a thrafod yn llawn â’n gweithwyr wrth wneud penderfyniadau am yr opsiynau oedd ar gael. Dw i’n meddwl bod hynny wedi ein cryfhau fel cwmni.

  

Petaech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddem wedi paratoi mwy fel tîm arwain ar gyfer yr heriau diwylliannol a phroffesiynol o fod yn berchen ar fusnes. Os byddem yn cael y cyfle eto, byddem yn gwneud hynny ar ôl dysgu mwy am yr hyn y byddai’n ei olygu inni.

 

Sut mae cymorth RhCT Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydyn ni wedi cael digonedd o gymorth oddi wrth Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ers inni gwblhau’r MBO. Mae’r rhaglen wedi ein cefnogi mewn sawl maes. Mae’r rhain yn cynnwys cynllunio a mesur effeithlonrwydd a chynhyrchiant; hyfforddi a chynllunio marchnata; adolygu a datblygu’r wefan; cymorth TG er mwyn creu  adroddiadau ariannol gwell; a chyflwyno a rheoli technoleg Deallusrwydd Artiffisial a 3D. Gwnaeth RhCT Busnes Cymru hefyd ein helpu i sicrhau grant o’r Gronfa Cadernid Economaidd. Mae’r cymorth hwn wedi bod yn help enfawr wrth inni greu dyfodol dynamig ac arloesol i’r busnes.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau ar eu taith?

  • Chwiliwch am ffynhonnell cyngor dibynadwy, fel Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer MBO.
  • Peidiwch â meddwl eich bod yn gwybod y cyfan – hyd yn oed os ydych chi’n brofiadol dros ben.
  • Codwch gymaint o gyfalaf ag sydd ei angen arnoch ond nid gormod a fydd yn rhoi baich ar y busnes.
  • Arloeswch yn gyflymach a chyflwynwch brosesau awtomatig i wella cynhyrchiant.
  • Buddsoddwch mewn technoleg i sicrhau eich bod yn parhau’n gystadleuol.
  • Buddsoddwch mewn marchnata strategol er mwyn cael sylfaen dystiolaeth gadarn i dyfu.


 

I ddysgu mwy am Minerva, dilynwch y ddolen
hon.

 

Am fwy o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, cliciwch yma.





 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar draws Cymru gyfan a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Share this page

Print this page