Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol i greu Cymru fwy ffyniannus a chystadleuol. Mae’r gweithgareddau hyn yn aml yn canolbwyntio ar sector addysg uwch y wlad sydd gyda’r gorau yn y byd. Dim ond un enghraifft yw Hexigone, sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot, o allu sefydliadau addysg uwch i ddatblygu technoleg newydd a hybu lles economaidd. 

Sylfaenydd Hexigone yw Dr Patrick Dodds a ddatblygodd dechnoleg i atal metel rhag cyrydu drwy ei waith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Mae toddiant araen y cwmni yn addo datrys problem sy’n costio biliynau i’r economi fyd-eang bob blwyddyn. Mae’r cynnyrch yn gwrthsefyll cyrydu pan gaiff ei ddefnyddio mewn paent preimio gyda system côt uchaf ataliol lawn. Ar ben hynny, mae’n gallu cael ei ddefnyddio â sbectrwm eang o resin a mathau o araenau.

Mae Hexigone wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn rhoi cefnogaeth wedi’i thargedu i fusnesau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

 

 

Yma, mae Dr Patrick Dodds yn egluro sut y datblygodd ei fusnes a’i gynnyrch, yn edrych ar rai o’r rhwystrau y mae wedi dod ar eu traws ar y ffordd ac yn cynnig cyngor i entrepreneuriaid eraill sy’n awyddus i ddatblygu syniad busnes. 

 

Dywedwch wrthym am Hexigone
Rydym wedi datblygu a phatentu toddiant araenu a fydd yn lleihau costau sy’n codi oherwydd cyrydu i economi’r byd mewn ffordd sydd hefyd yn diogelu’r amgylchedd. Nid oes metel trwm yn yr atalydd cyrydu hwn ac rwy’n falch o ddweud ei fod eisoes yn arwain y farchnad ar raddfa fyd-eang. Fe wnes i greu a phatentu’r cynnyrch wrth wneud doethuriaeth oedd wedi’i hariannu gan yr UE ym Mhrifysgol Abertawe. Dechreuodd y daith hir i fasnacheiddio pan wnes i ffurfio’r cwmni gyda buddsoddwyr yn 2017. Ymhlith y buddsoddwyr roedd Banc Datblygu Cymru ac elusen o Loegr gydag enw gwych - The Worshipful Company of Armourers and Brasiers (urdd o'r Canol Oesoedd yn Ninas Llundain a sefydlwyd yn 1322, dim llai!). Yn fuan wedyn, fe wnes i ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ac mae’r rhaglen wedi darparu cyngor a chefnogaeth barhaus i ni ers hynny. Rydym wedi mynd ymlaen i ddenu buddsoddiadau eraill gan angylion buddsoddi. Felly, does dim prinder diddordeb wedi bod yn y cwmni, sy’n atgyfnerthu’r hyn rydym eisoes yn ei wybod: bod gennym gynnyrch gwych. 

Mae’r ffordd at fasnacheiddio a dod â chynnyrch fel hyn i’r farchnad yn un hir. Nid ydym yn gwmni technoleg sy’n gallu cael cynnyrch i'r farchnad mewn misoedd; mae’n cymryd blynyddoedd lawer. Mae ein marchnad yn un geidwadol, mae symiau enfawr o arian yn y fantol, a hyd yn oed pan fyddwn yn sicrhau cleient, mae’r cylch yn golygu y gallai pedair blynedd fynd heibio cyn y bydd incwm yn dechrau llifo i mewn. 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ein helpu yn ein hymdrechion i feithrin gwydnwch. O ganlyniad, er gwaethaf anawsterau – yn enwedig Covid – rydym wedi llwyddo i ddal ati i'r pen ac ennill ein lle yn y farchnad yn fyd-eang. Rydym hefyd wedi cael dau batent arall mewn marchnadoedd allweddol. Nawr, mae'r cwmni wedi tyfu digon i ymgymryd â’n cam nesaf ac rydym yn rhagweld twf sylweddol dros y deng mlynedd nesaf o leiaf. Rydym yn cyflogi mwy na deg o bobl erbyn hyn – ac mae'r mwyafrif o’n staff yn fenywod, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio mewn rolau lefel uchel. Mae diwylliant y cwmni yn flaengar ac yn gynhwysol. 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt y busnes hyd yma?
Mae gennym dipyn o bethau rydym yn falch ohonynt, ac mae ein hymateb i Covid yn un y byddaf yn sôn amdano yn nes ymlaen. Ond rwy’n meddwl, o ran ein busnes craidd, bod sicrhau ein gwerthiant allforio cyntaf yn garreg filltir go iawn i ni ac yn rhywbeth a wnaeth i mi deimlo’n falch iawn. Ond mae cwmni ffyniannus yn golygu mwy na’r llinell waelod; mae’n ymwneud â sgiliau, gwybodaeth ac ymdrechion tîm o bobl. Felly rwy’n falch o ddatblygiad ein tîm yma yn Hexigone; rydym wedi creu diwylliant go iawn o arloesi a pharch. Mae’n brofiad sydd wedi gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn. 

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Rydym wedi wynebu ambell un yn ein hamser! Ond fel y soniais uchod, pan ddechreuon ni, yr her go iawn oedd y cylch gwerthu hir oherwydd cymhlethdod y farchnad a’n cynnyrch. Fe wnaeth gymryd amser i ni sylweddoli hyn, ond roedd gweithio gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi eglurder i ni. Roedd y daith gychwynnol honno i fyd busnes hefyd wedi gwneud i ni sylweddoli mor bwysig ydi recriwtio llwyddiannus.  

Roedd Covid yn her newydd sbon i ni. Roeddem wedi symud i ffatri newydd y diwrnod cyn i’r cyfyngiadau symud gael eu cyhoeddi. Roedd rhai staff wedi dewis cymryd ffyrlo, ond o ystyried yr argyfwng a’n sgiliau creu deunyddiau, fe wnaethom newid i greu hylif diheintio dwylo. Daethom o hyd i’r alcohol am ddim a gwerthu ein cynnyrch am bris teg i awdurdodau lleol ac elusennau. Fe wnaethom roi elw a wnaethom o hyn i Mental Health UK. Roedd yn her enfawr, ond rydw i mor falch o’r hyn wnaethom yn ystod y cyfnod hwnnw. 

  

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rwy’n meddwl y byddem wedi codi mwy o arian ar y dechrau. Mae angen cyllid ar fusnes newydd fel ein busnes ni i wireddu ei uchelgeisiau o ran twf, felly roedd angen i ni ddatgloi hynny’n gynt. Hefyd, byddem wedi hoffi bod yn fasnachol ac yn annibynnol yn gynharach.  

Rhywbeth arall y mae busnesau eraill sydd yn yr un lle â ni o ran eu cylch yn ei rannu rwy’n meddwl yw cymryd mwy o ofal ac amser wrth ddewis y bobl yr oedd eu hangen arnom. Mae recriwtio yn y cyswllt hwn yn cynnwys gweithwyr ond aelodau’r bwrdd hefyd.  Yn y dechrau, mae cael y bobl iawn i mewn i’ch cwmni yn ganolog i lwyddiant. 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Soniais yn gynharach fod Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn ganolog i’n gwydnwch drwy gyfnodau anodd, ond mae’n hanfodol i ddatgloi ein potensial i dyfu.  

Rydym wedi gweithio gyda’r Rhaglen Cyflymu Twf ar draws amrywiaeth o feysydd yn ein busnes, ac rwy’n credu bod hyn yn dangos pa mor ddefnyddiol yw’r rhaglen i ni fel cwmni a pha mor ddefnyddiol y gallai fod i arweinwyr busnes eraill yng Nghymru. Er enghraifft, mae arbenigedd y Rhaglen Cyflymu Twf wedi ein cefnogi gyda phrosesau gweithgynhyrchu, tyfu, gwerthu, marchnata a datblygu arweinyddiaeth busnes. 

Ar raddfa fwy eang, rydym wedi cael cyllid gan Fanc Datblygu Cymru ac wedi cael cymorth gyda sioeau masnach a theithiau masnach. Mae’r cymorth hwn yn golygu ein bod wedi gallu mynd â’n brand a’r hyn sydd gennym i’w gynnig i farchnad fyd-eang. 

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni? 

  • Codwch lawer mwy o arian ar y dechrau i roi’r amser paratoi sydd ei angen arnoch i chi. 
  • Ewch gyda’ch greddf – credwch ynoch chi eich hun. 
  • Magwch groen. 
  • Dewch o hyd i’r cymorth a’r cynghorwyr dibynadwy priodol. 
  • Daliwch ati, a mwynhewch y daith. 


I ddysgu mwy am Hexigone, edrychwch yma.

Rhagor o wybodaeth am Accelerated Growth Programme Busnes Cymru



 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Share this page

Print this page