Mae hanes diwydiannol Cymru wedi cael ei ailddiffinio dro ar ôl tro. Mae ailddiffiniad o’r fath i’w weld yn Corgi Hosiery yn Rhydaman, sy’n fusnes pumed genhedlaeth lle mae’r crefftwaith traddodiadol gorau ac arferion cynaliadwy modern yn dod ynghyd. 

Mae’r brand, a gafodd ei sefydlu yn 1892, wedi esblygu’n raslon o gyflenwi sanau i lowyr i ddod yn arweinydd byd-eang yn y farchnad dillad gwau moethus. Heddiw, mae’r cwmni’n cyflogi 65 o bobl ac yn un o’r prif gyflogwyr yn Rhydaman. Mae Corgi Hosiery yn fwy na brand yn unig, mae ynddo hanes o benderfyniad Cymreig, mae’n gronicl o addasu i gyfnodau o newid, ac yn enghraifft o sut y gall busnesau dyfu heb beryglu eu gwerthoedd na’u hansawdd. 

Yma, mae Chris a Lea, brawd a chwaer, sef y deuawd dynamig sy’n llywio’r brand, yn trafod taith hynod Corgi Hosiery a’r camau mae wedi eu cymryd o ran cynaliadwyedd, ac yn cynnig cyngor i ddarpar entrepreneuriaid. 

 

Dywedwch wrthym am Corgi Hosiery.
Yn Corgi rydyn ni’n creu sanau, dillad gwau ac ategolion moethus, yng Nghymru. Mae Corgi yn fusnes teuluol gyda threftadaeth gyfoethog sy’n dyddio’n ôl i 1892. Mae’r cwmni’n dyst i waith caled a gweledigaeth sawl cenhedlaeth. Mae ethos ein teulu wedi canolbwyntio ar ansawdd erioed, ac rydyn ni wedi cynnal hyn drwy gydol ein taith. O ddarparu sanau i lowyr i werthu i farchnad fyd-eang yn y sector dillad gwau moethus, rydyn ni wedi tyfu mewn ffordd raddol ond cadarn. Er ein bod yn parchu ac yn gwarchod ein treftadaeth – mae rhai o’n nwyddau’n cael eu creu ar beiriannau o’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg o hyd – rydyn ni wedi croesawu technegau modern hefyd. Mae’r cydbwysedd hwn wedi’i gwneud yn bosibl inni ddarparu ar gyfer amrywiaeth o farchnadoedd a chleientiaid. Mae ein staff ffyddlon yn rhan sylweddol o’n llwyddiant hefyd, gyda llawer ohonynt yn siarad Cymraeg yn rhugl.

 

Mae cynaliadwyedd yn gonglfaen ar gyfer Corgi Hosiery. Sut rydych chi wedi’i ymgorffori yn y busnes?
O’n safbwynt ni, mae cynaliadwyedd yn rhywbeth cyfannol. Nid yw’n golygu canolbwyntio ar yr amgylchedd yn unig; mae’n ymwneud â thwf, cyflogaeth a chysylltiadau cynaliadwy hefyd. O ran yr amgylchedd, rydyn ni wedi buddsoddi mewn pŵer solar ac wedi newid o foeleri nwy i rai trydanol, gan leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol. Mae ein hymrwymiad yn cynnwys ein deunyddiau pecynnu hefyd – rydyn ni wedi newid o fagiau polythen i fagiau cansenni siwgr bioddiraddadwy. Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo ailgylchu drwy ddarnio’r holl gardfwrdd ar y safle er mwyn ei ddefnyddio fel deunydd pecynnu.

Rydyn ni hefyd yn credu mewn cyflogaeth gynaliadwy, ac i ni mae hynny’n golygu cynnal y sgiliau angenrheidiol i greu ein nwyddau fel bod gennym fusnes sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni wedi buddsoddi’n sylweddol mewn hyfforddi pobl ifanc leol, sydd yna’n elwa ar gyflogaeth mewn gwaith medrus sy’n talu’n dda.

 

Mae’r camau hyn i gyd yn pwysleisio’n hymrwymiad i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. 

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod y trawsnewid hwn?
Mae gan bob taith ei rhwystrau. Er ein bod ni’n falch o’n treftadaeth, roedd moderneiddio rhai o’r prosesau yn heriol, yn enwedig pan fo gennych gysylltiad emosiynol â ffyrdd traddodiadol penodol o wneud pethau. Roedd angen bod yn ofalus wrth gyrraedd cydbwysedd rhwng traddodiad a galwadau marchnadoedd modern, ond rydyn ni’n credu ein bod ni wedi taro’r cydbwysedd cywir. Hefyd, wrth inni ehangu’n fyd-eang, roedd deall a darparu ar gyfer dewisiadau marchnad amrywiol yn brofiad dysgu. 

 

Gyda’r twf mewn e-fasnach, sut mae Corgi Hosiery wedi addasu?
Gwnaethon ni nodi potensial e-fasnach a lansio’n siop ar-lein newydd yn 2022. Roedd hyn yn ei gwneud yn bosibl inni estyn ein cynulleidfa yn fyd-eang a darparu profiad gwell i gwsmeriaid. Mae ein hymrwymiad i wasanaethau cwsmeriaid yn sicrhau bod cwsmeriaid ar-lein yn cael yr un profiad â rhywun sy’n prynu o’n siop yn uniongyrchol. 

 

Sut mae cefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Mae’r gefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn allweddol i’n twf, ac wedi’n rhoi mewn sefyllfa dda i wrthsefyll y stormydd diweddar, gan gynnwys COVID, problemau’n ymwneud â Brexit yn y gadwyn gyflenwi, a’r argyfwng costau byw. Mae’r rhaglen wedi bod yn hollbwysig o ran ein helpu i ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau craidd, gan ei gwneud yn bosibl inni lunio a gweithredu strategaeth fusnes lwyddiannus. Gyda’u harbenigedd, rydyn ni wedi gwneud camau enfawr o ran marchnata digidol ac e-fasnach, gan ehangu ein presenoldeb ar-lein yn sylweddol. Yn ogystal, mae eu dealltwriaeth o effeithlonrwydd cynhyrchu wedi ein galluogi i wella’n hallbwn heb beryglu ein hymrwymiad i ansawdd. 

Y tu hwnt i’n gwaith gyda’r Rhaglen Cyflymu Twf, rydyn ni wedi bod yn ffodus cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Roedd y Grant Cadernid Brexit a chymorth adfer yn dilyn COVID wedi sicrhau bod y busnes yn sefydlog trwy gyfnodau nad oedd modd eu rhagweld. O ganlyniad i gefnogaeth y tîm Masnach Ryngwladol, yn enwedig mewn perthynas â sioeau a theithio, mae ein gallu allforio yn llawer cryfach, gan olygu bod ein nwyddau’n gallu cyrraedd marchnadoedd byd-eang mewn ffordd fwy effeithiol.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid? 

 

1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn glynu wrth eich gwerthoedd, ond byddwch yn barod i addasu i newid. 

2. Nid yw arferion cynaliadwy yn ymwneud â bod yn foesegol yn unig – maen nhw’n dda ar gyfer busnes hefyd. 

3. Eich staff yw eich ased mwyaf. Gwerthfawrogwch nhw. 

4. Dylech chi groesawu technoleg, ond peidiwch â gadael iddi beryglu hanfod eich brand.

5. Fe ddaw llwyddiant os ydych yn rhoi ansawdd yn gyntaf bob amser. 

 

Gallwch archwilio’r ystod o nwyddau cywrain sydd ar gael gan Corgi Hosiery yma.

 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

A blue background with white text

Description automatically generated

 

Cynhelir Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar draws Cymru gyfan, ac mae wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page