Yn sgil heriau amgylcheddol ac economaidd cynyddol ar arfordir Sir Benfro, ffurfiodd grŵp o arweinwyr â gweledigaeth Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn 2000.

Bellach yn rym blaenllaw mewn rheoli arfordirol cynaliadwy, mae PCF yn enghraifft o bŵer cydweithredu a meddwl arloesol wrth drawsnewid heriau amgylcheddol yn gyfleoedd ar gyfer twf a chynaliadwyedd.

Yma, mae Jetske Germing, Rheolwr Gyfarwyddwr PCF, yn rhannu taith drawsnewidiol y sefydliad. Mae hi hefyd yn esbonio sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cefnogi eu twf.

 

Image removed.

 

Dywedwch wrthym am Fforwm Arfordir Sir Benfro.
Tarddiad PCF oedd y bwriad i fynd i'r afael â heriau'r arfordir yn uniongyrchol. Roedd diwedd y 1990au yn gyfnod o bwysau mawr ar ein harfordir, gyda thrychineb y Sea Empress yn gadael atgofion anodd o'n gwendidau. Yn sgil y drychineb cafodd 72,000 tunnell o olew ei ollwng i ddyfroedd Sir Benfro, gan ladd miloedd o adar môr a chau tiroedd pysgota a thraethau am fisoedd.

Amlygodd y digwyddiad trasig hwn y pwysau a'r bygythiadau i'r amgylchedd a'r economi leol. Datblygodd dealltwriaeth rhwng ASau lleol, awdurdodau lleol, y Porthladd, cyrff cyhoeddus, sefydliadau cadwraeth, diwydiant a chymunedau bod angen corff annibynnol arnom i fynd i'r afael â materion oedd yn wynebu arfordir Sir Benfro. Felly, ganwyd Fforwm Arfordirol Sir Benfro.

Roedd ein cenhadaeth bob amser yn glir: ysbrydoli ymdrechion cydweithredol a darparu atebion diriaethol ar gyfer byw'n gynaliadwy ar yr arfordir.

Roedd yn fwy nag ymateb i drychineb; roedd yn gam rhagweithiol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Roedd creu PCF yn nodi newid allweddol yn ymagwedd y rhanbarth tuag at reoli arfordirol. Heddiw, rydym yn Gwmni Buddiannau Cymunedol arobryn sy'n gweithio i ddiogelu'r arfordir a'r amgylcheddau morol er mwyn i genedlaethau presennol a'r dyfodol eu mwynhau. 

Nid mynd i'r afael â heriau yn unig ydym; rydym yn eu trawsnewid yn gyfleoedd. Trwy ein dulliau arloesol o fynd i'r afael a'r newid yn yr hinsawdd, ansawdd dŵr, hamddena cyfrifol, dyframaeth ac ynni adnewyddadwy morol, rydym yn ailddiffinio'r naratif yn gysylltiedig a chynaliadwyedd arfordirol.

O ddechrau syml gyda dim ond dau aelod staff, mae PCF wedi ehangu i dîm o 18 o weithwyr proffesiynol ymroddedig. Nid niferoedd yn unig yw'r twf hwn; mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i arloesi a'r gallu i addasu yn wyneb heriau arfordirol sy'n esblygu'n barhaus.

Mae ein tîm ymroddedig yn arbenigwyr ar ddarparu ymgysylltiad annibynnol â rhanddeiliaid, datblygu prosiectau a gweithio mewn partneriaeth. Rydym wedi meithrin ein perthynas hirdymor â phartneriaid arfordirol ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth dros nifer o flynyddoedd.

Wrth inni edrych yn ôl ar ein taith, mae'n amlwg bod PCF wedi dod yn esiampl o obaith ac yn symbol o wytnwch i gymunedau arfordirol. Mae gennym angerdd, arloesedd, ac ymrwymiad diwyro i'r arfordir y mae'n fraint inni fyw arni.


Beth ydych yn fwyaf balch ohono o safbwynt y busnes hyd yma?
Rydym yn ymfalchïo yn ein menter Ynni Môr Cymru. Mae'n dyst i'n gweledigaeth o wneud Cymru'n arweinydd byd-eang mewn ynni morol cynaliadwy. Ond nid dyma’n hunig uchelgeisiau. Mae pob menter rydym yn ymgymryd â hi, o fasnachu maetholion i leihau y tarfu ar fywyd gwyllt, yn gam tuag at arfordir mwy gwydn.


Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich taith?
Mae wynebu heriau yn rhan o'n DNA. Mae cymhlethdod rheolaeth arfordirol yn aml yn dod â sgyrsiau a phenderfyniadau anodd. Ond mae cryfder, angerdd a gwytnwch ein tîm bob amser wedi ein tywys drwy'r heriau hyn. Rydym yn goresgyn heriau gyda gwaith tîm a chefnogaeth arbenigol lle mae ei angen arnom.


Beth sydd gan y dyfodol ar gyfer PCF?
Mae'r ffordd sydd o'n blaenau yn gyffrous. Rydym yn bwriadu sicrhau bod dulliau o weithio mewn partneriaeth effeithiol yn parhau ac rydym hefyd yn edrych tuag at brosiectau newydd, uchelgeisiol a thwf cynaliadwy. Gyda'n ffocws craff ar ddatblygu gwynt ar y môr, gwella ansawdd dŵr, a dyframaeth cynaliadwy, nid prosiectau cynllunio yn unig ydym; rydym yn llunio dyfodol cynaliadwyedd arfordirol.
 

Sut mae cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) wedi helpu eich busnes?
Mae ein partneriaeth â'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi ein galluogi i ganolbwyntio, datblygu ac aros yn hyblyg a pherthnasol. O hyfforddiant wedi'i deilwra i becynnau gwaith pwrpasol, mae'r gefnogaeth a gynigir i ni wedi bod yn gonglfaen ein twf.

Gwnaethom ymuno â’r Rhaglen Cyflymu Twf yn gynnar ac rydym wedi elwa o gefnogaeth o hyfforddiant, pecynnau gwaith pwrpasol gyda hyfforddwyr a chyngor busnes cyffredinol. Mae'r gefnogaeth wedi amrywio o farchnata i waith datblygu ehangach a hyfforddiant i'r tîm arwain. Mae'r dull o weithio wedi'i deilwra gan reolwyr perthnasoedd sy'n deall ein hanghenion wedi bod yn hynod fuddiol.

 

Dysgwch fwy am Fforwm Arfordir Sir Benfro.

Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) ar gael yma.


 

Image removed. 

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page