Mae Elliots Hill, dan arweiniad Sally a Simon Clarke, wedi dod yn symbol o arloesedd a thosturi yn y sector gofal yng Nghymru. Gan arbenigo mewn allgymorth cymunedol, byw â chymorth, a gofal preswyl, bu iddynt drawsnewid busnes teuluol yn esiampl o ragoriaeth yn y sector gofal. Mae eu dull o integreiddio technegau a thechnoleg rheoli fodern - gyda ffocws uniongyrchol ar ansawdd gwasanaeth a lles gweithwyr – yn ailddiffinio gofal.  

Gan wynebu heriau cynhenid y diwydiant gofal, gan gynnwys cyfyngiadau ariannol llym a chymhlethdodau contractau y sector cyhoeddus, mae Sally a Simon wedi llywio Elliots Hill trwy gyfnod o dwf a thrawsnewidiad sylweddol, yn enwedig o ystyried heriau allanol diweddar, gan gynnwys Brexit a phandemig COVID-19.  

Heddiw, mae gan Elliots Hill bortffolio cadarn o wasanaethau gofal, sy'n dyst i'w hehangu llwyddiannus ac effaith gadarnhaol ei strategaethau arloesol.  

  

Yma, mae Sally a Simon Clarke yn rhannu gwybodaeth am eu busnes ac yn esbonio sut mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn allweddol yn eu taith.  

 

 Image removed.


Dywedwch wrthym am Elliots Hill.
Daeth Elliots Hill o'n gweledigaeth i foderneiddio ac ehangu gwasanaethau gofal teuluol. Ein nod oedd creu cwmni lle mae gofal o ansawdd a lles gweithwyr yn flaenllaw. Bu inni gymryd camau beiddgar, caffael busnesau cyflenwol a mabwysiadu strwythurau a thechnolegau rheoli newydd, gan wella y gwasanaeth yr oeddem yn ei ddarparu a'n heffeithlonrwydd yn sylweddol.  

Roedd ein taith yn fwy na thwf busnes; roedd yn gysylltiedig ag ymgorffori diwylliant o ofal a thosturi ar draws ein gwasanaethau. Mae'r diwylliant hwn wedi ein harwain, yn enwedig yn ystod y cyfnodau heriol. Rydym wedi cyflwyno dull unigryw o ofalu sy'n canolbwyntio ar wasanaeth personol a grymuso gweithwyr. Trwy ddefnyddio technoleg, rydym wedi gwella ansawdd ein gwasanaeth ac wedi darparu offer i'n staff sy'n eu grymuso i ganolbwyntio mwy ar ofal a llai ar dasgau gweinyddol.  

Rydym yn falch o'n model cynaliadwy, lle mae gofal yn wasanaeth ac yn ymrwymiad o'r galon i'n cymuned. Mae ein twf ac ehangu ein gwasanaethau wedi ein galluogi i gyffwrdd mwy o fywydau nag erioed.  

 

Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi eich helpu i dyfu?
Mae'r rhaglen wedi bod yn allweddol yn ein twf. Arweiniodd eu harbenigedd mewn cynllunio strategol, rheolaeth ariannol ac integreiddio technoleg ni trwy gamau hanfodol ein hehangu. Roedd cefnogaeth y Rhaglen Cyflymu Twf i fireinio ein strategaeth fusnes yn amhrisiadwy, yn enwedig yn ystod y pandemig.  

Hefyd, mae eu cefnogaeth arbenigol ynghylch strwythur sefydliadol a strategaethau marchnata wedi bod yn arbennig o effeithiol. Gwnaethant ein helpu i lywio cymlethdodau'r sector gofal ac aros yn gystadleuol mewn tirwedd heriol.  

  

Pa anawsterau gawsoch chi a sut wnaethoch chi eu goresgyn?
Un o'n heriau mwyaf, oedd addasu i'r dirwedd sy'n newid yn gyflym yn ystod Brexit a'r pandemig. Roedd yn rhaid i ni ailfeddwl ein strategaethau recriwtio a'n modelau gweithredol i gynnal y safonau uchel o ofal yr ydym wedi ymrwymo iddynt.  

Roedd cyflwyno technoleg yn gonglfaen i'n trawsnewidiad. Chwaraeodd y Rhaglen Cyflymu Twf ran hanfodol yn y cyfnod pontio hwn, gan ein helpu i integreiddio atebion digidol sydd wedi dod yn rhan annatod o'n gweithrediadau ers hynny. Fe wnaethant ein helpu i gyflwyno 'robotiaid digidol' a defnyddio meddalwedd fel Excel mewn ffordd fwy soffistigedig, a oedd yn rhyddhau amser i staff, gan ganiatáu dadansoddi a chynllunio gwell. Symleiddiodd y newidiadau hyn ein gweithrediadau a'n galluogi i gymryd ymagwedd at wneud penderfyniadau sy'n cael eu gyrru fwyfwy gan ddata  

  

Beth yw eich breuddwydion ar gyfer Elliots Hill yn y dyfodol?
Ein nod yw parhau i ehangu yng Nghymru, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel a chreu mwy o gyfleoedd gwaith yn y sector. Rydym wedi ymrwymo i wella ac arloesi parhaus ym mhob agwedd ar ein gwasanaethau.  

Ein nod hefyd yw integreiddio mwy o iaith a diwylliant Cymru yn ein gwasanaethau, gan sicrhau cynwysoldeb a pharch at anghenion amrywiol ein cymuned.  

  

Pa gyngor fyddech chi'n ei rannu gydag entrepreneuriaid eraill yn y sector gofal?  

Byddwch yn agored i ddysgu: Croesawu meddylfryd dysgu parhaus ar gyfer datblygiad personol a thwf busnes.  

Ceisio gwella ac effeithlonrwydd: Bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella ansawdd gwasanaethau ac effeithlonrwydd gweithredol. Adolygu a mireinio prosesau yn rheolaidd i aros ar y blaen mewn byd heriol.  

Cofleidio technoleg  Mewn oes lle mae technoleg yn gyrru cynnydd, byddwch yn rhagweithiol wrth fabwysiadu atebion digidol. Defnyddio technoleg i ddarparu gwell gwasanaethau, symleiddio gweithrediadau, ac aros yn gystadleuol.  

Cymorth ac arweiniad ychwanegol: Gall rhaglenni fel Rhaglen Cyflymu Twf ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth amhrisiadwy i helpu i lywio cymhlethdod.  

 

I ddysgu mwy am Elliots Hill,Cliciwch yma.   

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

 

 

Share this page

Print this page