Mae datblygu proffesiynol yn hanfodol i gwmnïau sydd am wella sgiliau eu gweithwyr yn ogystal ag i unigolion sydd am eu gwneud eu hunain yn fwy addas i’w cyflogwyr.  

Nod Cognitia, cwmni o’r Porth yng Nghwm Rhondda, yw rhoi sgiliau newydd i’r dysgwyr sy’n cofrestru ar ei gyrsiau.  Ers ei sefydlu yn 2015 gan Nigel Lewis, Cognitia yw un o’r cwmnïau hyfforddiant arbenigol sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig.

Dyma Nigel Lewis yn adrodd hanes Cognitia, ei ddatblygiad fel darparwr hyfforddiant uchel ei barch a’i gynlluniau i dyfu.  

 

Dywedwch wrthym am Cognitia.
Wel, man cychwyn Cognitia oedd fy arbenigedd a ‘niddordeb proffesiynol fy hun: hyfforddiant iechyd a diogelwch.  Dyna fy arbenigedd ac mae’n faes sy’n bwysig i mi.  Felly, roedd yn gam naturiol am wn i ar fy nhaith busnes i greu asiantaeth hyfforddi.

Sefydlais Cognitia yn 2015. Mae’n bwysig yn fy marn i teimlo angerdd fel person busnes am y sector rydych yn gweithio ynddo, ac mae hynny wedi bod yn sbardun i mi.  Rwy’n gwybod ein bod yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel, yn meithrin sgiliau ac yn ychwanegu at werth yr economi.  Yn ogystal â mwynhau’u hunain, mae pawb yn nhîm Cognitia yn cael boddhad mawr o weld y canlyniadau – pobl yn cael sgiliau newydd ac yn cael datblygu’u gyrfa.

 

Pan es i ati i ddechrau’r cwmni, gwelais fod bwlch yn y farchnad ar gyfer darparwyr hyfforddiant profiadol allai gynnig adnodd dysgu mwy cynhwysfawr na chymhwyster unigol.  Gyda chymwysterau ar lefel NVQ yn tyfu ac yn ennyn diddordeb trwy’r byd, roedd lle i ffurfio yr hyn y gallwn ei alw’n gwmni adeiladu gyrfa i gynnig hyfforddiant arbenigol ledled y byd.

Rydyn ni bellach yn ddarparwr sgiliau a hyfforddiant arbenigol mewn iechyd a diogelwch ac yn tyfu’n gyflym. Rydym wedi helpu cannoedd o ddysgwyr NVQ, gyda bron eu hanner yn mynd yn eu blaenau i ennill cymwysterau rheoli.  Fel tîm, mae gennym ddegawdau o brofiad o gynllunio a darparu hyfforddiant mewn rheoli risgiau.  Rydym yn gweithio fel ymgynghorydd ar dri chyfandir, a byddwn yn mentro i Awstralasia cyn hir.  Amserau cyffrous o’n blaenau felly.

 

 

Beth ydych chi’n arbennig o falch ohono?

Ni oedd un o’r darparwyr hyfforddiant cyntaf yn y DU i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaethau technegwyr iechyd, diogelwch ac amgylcheddol (SHE-TEC) – dim ond diwrnod ar ôl y cyntaf!

Rwy’n hynod o falch o’r partneriaethau tramor rydym wedi’u ffurfio, sy’n golygu’n bod wedi gallu tyfu i fod yn gwmni byd-eang.  

Ond yr hyn rwy’ fwyaf balch ohono yw fy nhîm o staff ymroddedig. Ni fyddai’r busnes wedi gallu tyfu hebddynt ac rwyf wedi cael boddhad aruthrol o’u gweld nhw’n datblygu fel gweithwyr proffesiynol wrth i Cognitia ei hun ddatblygu.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n wneud yn wahanol?

Byddwn wedi recriwtio’n gynt.  Bues i am hir yn ceisio rhedeg pob agwedd ar y busnes fy hun.  Roeddwn yn gwneud gormod a chefais fy llethu yn y diwedd.

Rwy’n credu taswn i wedi recriwtio pobl dda yn gynt, byddai’r cwmni wedi cael y llwyddiant y mae’n ei gael nawr lawer yn gynt.

 

 

Sut mae cefnogaeth Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?  
Cawsom wybod am AGP Busnes Cymru trwy Raglen Garlam Town Square. Bu’n brofiad gwerth chweil.
 

Trwy’r rhaglen, penodais gyfarwyddwr masnachol a chorfforaethol y busnes, a chefais fy nghyflwyno i nifer o gynghorwyr proffesiynol, bob un gyda’r gorau yn ei faes.

Rwy mor ddiolchgar o fod wedi cael cefnogaeth ac arbenigeddau AGP Busnes Cymru, adnodd gwerthfawr yn wir.

 

 A oes gennych gyngor i fusnesau newydd eraill?

 

● Recriwtiwch yn ddoeth, a phenodwch bobl y gallwch ymddiried ynddyn nhw i ysgwyddo’ch baich.

● Byddwch yn sicr ynghylch eich amcanion gan mai dyna fydd yn eich sbarduno ymlaen ac yn eich cadw i fynd pan fydd pethau’n anodd.

● Siaradwch â phobl!  Rhannwch â phobl fusnes eraill ac â’ch cydweithwyr a gwrando arnyn nhw. Cymerwch bopeth fel cyfle i ddysgu a thyfu.

 
 

Dysgu mwy am Cognitia.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

 

Share this page

Print this page