I fusnesau ledled Cymru, mae 2020 wedi creu heriau nad oedd modd eu rhagweld – o’r llifogydd ar ddechrau’r flwyddyn, i’r pandemig COVID-19 ac anhawsterau y cyfyngiadau symud, cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngu cyflym ar yr economi.

Mae Camilleri Construction o Gaerdydd, cwmni adeiladu sy’n canolbwyntio ar y sector yswiriant, wedi bod yn flaenllaw ac yng nghanol yr argyfyngau hyn.  Ond, fel yr eglura Robert Camillieri y rheolwr-gyfarwyddwr, bu’n gyfnod o falchder mawr yn yr hyn y mae’r cwmni wedi llwyddo i’w gyflawni gyda gweithlu ffyddlon ymroddedig. 

 

Dywedwch wrthym ychydig am Camilleri Construction.
Cyn dim byd arall, ychydig am ein gwaith.  Rydym yn gwmni adeiladu sy’n canolbwyntio ar y sector yswiriant.  Golgya hyn ein bod yn delio gyda cheisiadau gan yswirwyr ac aseswyr colledion, yn gwneud y gwaith adfer ar adeiladau o dan delerau’r yswiriant. 

Mae hyn wedi golygu ein bod wedi cael 2020 prysur ac anodd! 

 

Ond bu’n bosibl inni wneud yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni diolch yn arbennig i ymdrechion ac aberth ein staff.  Ewch yn ôl i fis Chwefror pan oedd pobl ledled y DU yn dioddef y llifogydd gwaethaf ers cenedlaethau.  Wrth gwrs, roedd nifer o’r cymunedau yma yng Nghymru, yn agos i’n pencadlys yn ne Cymru, wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol.

Wrth i storm ar ôl storm gael effaith ar y wlad, dechreuodd y llifogydd, gan orfodi teuluoedd i adael eu cartrefi – nifer ohonynt yn methu symud yn ôl adref am naw mis arall. 

 

Dyma ble y dechreuodd ein gwaith ni, a dyma pam yr wyf mor falch o’m tîm gweithgar.  Dechreuwyd ar 60 o brosiectau’n gysylltiedig â’r llifogydd, oedd yn brosiect enfawr.  Bu’n ymdrech fawr ac anhygoel.  Bu ein staff yn gweithio oriau maith, caled i gael pobl allan o lety argyfwng ac yn ôl i’w cartrefi cyn gynted â phosibl. 

Yng nghanol y gwaith hollbwysig yma, dechreuodd y pandemig.  Wythnosau wedi’r llifogydd, ac wrth inni weld pethau’n datblygu, gwelsom y byddai’n rhaid i nifer o bobl ddioddef y trawma o’r cyfyngiadau symud heb fod yn eu cartrefi eu hunain, neu os oeddent yn parhau i fod yn eu cartrefi eu hunain, roeddent yn byw mewn adeiladau tamp oedd wedi’u difrodi. 

 

Roedd y teimlad o anobaith a deimlwyd gan bobl oedd yn dioddef oherwydd y llifogydd yn ein hannog i weithio’n galetach ac i gwblhau cynifer o brosiectau â phoisbl mor gyflym â phosibl. 

Roedd ein gwaith yn cael ei ystyried yn hanfodol o dan ganllawiau yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.  Roedd yn rhaid inni barhau i ddarparu’r gwaith parhaus oedd ei angen yn gysylltiedig â’r hawliadau yswiriant.  Roedd mor syml â hynny. 

 

Roedd yn rhaid i gartrefi pobl fod yn ddiogel oherwydd bod y tywydd eithafol wedi eu difrodi’n strwythurol.  Roedd yn waith oedd yn rhaid ei wneud.  Mewn adegau arferol, mae ein gwaith yn codi problemau.  Ond rydym yn gwybod i’r cyfnod hwn fod – ac mae yn parhau i fod – yn gyfnod eithriadol. 

Roedd yn rhaid i’n gweithlu ddelio â nifer o broblemau logisteg newydd, a’r rheolau pellter cymdeithasol yn un ohonynt, cadw dwy fetr ar wahân, ac wynebu anawsterau annisgwyl am ddeunyddiau oedd yn mynd yn fwyfwy prin.  Roedd y rhain yn broblemau nad oeddem yn disgwyl gorfod eu hwynebu. 

 

Ond bu i bob un o’n tîm chwarae eu rhan, yn dod i’r gwaith a byth yn cwyno.  Gwnaethant eu gorau un i oresgyn pob rhwystr, gyda’r brif nod o gael y tai hyn yn ôl i ddwylo eu perchnogion cyn gynted â bod y cyfyngiadau symud yn caniatáu hynny.  

 

 

Beth oeddech yn fwyaf balch ohono yn y busnes hyd yma?
Mae busnes yn cynnwys sawl rhan.  Mae pob un aelod staff wedi dangos cadernid, ymrwymiad a theyrngarwch.  Maent wedi fy ngwneud yn hynod falch. 

Bu’n gyfnod heriol iawn, ond rydym yn falch iawn o’r gwaith rydym wedi’i wneud.  Rydym wedi masnachu mwy nag erioed ac wedi cadw ein henw da am ragoriaeth o fewn ein sector. 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Cwestiwn anodd!  Os ydym wedi dysgu unrhyw beth o’r ychydig fisoedd diwethaf, peidio edrych yn ôl yw un ohonynt – mae cymaint o heriau o’n blaen fel ei fod yn ofer i feddwl am y gorffennol ar hyn o bryd. 

 

Sut mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydym wedi derbyn digon o gymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ers inni ymuno â’r rhaglen.  Mae’r cymorth hwnnw wedi cynnwys datblygu pobl a rheoli perfformiad, recriwtio a hyfforddi; systemau a phrosesau gweithredol, cymorth ar gyfer ein seilwaith TG a chymorth ar ochr eiddo ac ochr ariannol y cwmni. 

Mae’r cyngor, yr arbenigedd a’r hyfforddiant y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ei roi inni wedi bod yn allweddol i’n twf a’n datblygiad. 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eriall sy’n dechrau? 

● Gwrando i eraill, mae cyngor o’r tu allan yn allweddol i dwf ein cwmni.   

● Mae’r tîm y byddwch yn ei greu yn hollbwysig i’ch busnes a sut y mae’n perfformio, felly mae recriwtio yn bwysig. 

● Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr, ac ni allwch gynllunio ar gyfer popeth, ond mae’n dda i baratoi am anawsterau y gallwch eu gweld ar y gorwel.    


 

Dysgu mwy am Camilleri Construction.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page