Mae SimplyDo o Gaerdydd yn gwmni sydd ar flaen y gad ym maes arloesi. Mae'n ymrwymedig i ddatrys yr heriau mawr sy'n ein wynebu wrth inni fynd ati i drawsnewid, ac mae'n dod â phobl a phlatfformau digidol blaengar at ei gilydd i greu dulliau newydd arloesol o ddatrys problemau. Yn ddiweddar, bu'r cwmni'n defnyddio'i arbenigedd i helpu i ddatrys un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r sector tai cymdeithasol. 

Yma, mae Lee Sharma, Prif Swyddog Gweithredol SimplyDo, yn egluro'r dylanwad trawsnewidiol y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn ei gael, ac mae'n sôn am sut mae'r cwmni'n helpu cymdeithasau tai i gyrraedd nodau uchelgeisiol o ran cynaliadwyedd. 

 

Soniwch am genhadaeth SimplyDo?
Yn SimplyDo, rydyn ni wedi ymrwymo i sbarduno newid drwy arloesi. Yn y lle cyntaf, dechreuon ni fel platfform ar gyfer darpar entrepreneuriaid, gan roi help llaw iddyn nhw feithrin a gwireddu syniadau. Wrth inni esblygu, sylweddolon ni y gallen ni gael effaith drawsnewidiol ar yr heriau cymdeithasol mawr sy'n ein hwynebu, er enghraifft, ym maes iechyd ac ym maes tai. Erbyn hyn, rydyn ni'n galw'n gwaith yn "arloesi a ysgogir gan bwrpas" – rydyn ni'n helpu sefydliadau i ddatrys heriau cymhleth sydd, o'u datrys, yn cael effaith gadarnhaol yn gymdeithasol. Dyna sy'n rhoi'r hwb inni godi o'r gwely yn y bore – gwybod bod ein gwaith yn hollbwysig er mwyn helpu i ddatgloi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau dyrys.  

 

Soniwch am y gwaith rydych yn ei wneud i helpu'r sector tai i gyflawni'r agenda datgarboneiddio?
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chymdeithas dai Caredig a Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r her sy'n wynebu'r sector wrth iddo ôl-osod mewn cartrefi, er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn fwy cynaliadwy.  

Mae datgarboneiddio'r stoc dai bresennol yn dasg enfawr, ond mae o'r pwys mwyaf i'n hamgylchedd ac i genedlaethau'r dyfodol. Pan aethon ni ati i daclo'r her honno, dywedodd Caredig wrthym eu bod yn awyddus i gael ffordd well o gysylltu ac ymwneud â chyflenwyr lleol. Er bod cyllid ar gael i gomisiynu'r gwaith ôl-osod, dim ond cronfa fach o gontractwyr cymwys sy'n gallu gwneud y gwaith hwnnw. Gall y cymdeithasau tai mwy lyncu'r holl gadwyn gyflenwi sydd ar gael drwy gynnig contractau mawr, sy'n golygu ei bod yn anodd i gymdeithasau tai llai gystadlu a dod o hyd i gyflenwyr lleol. Gallen ni weld ar unwaith nad oedd dulliau caffael traddodiadol yn taro deuddeg. Felly, fe wnaethon ni fabwysiadu 'dull o weithredu a ysgogir gan her', gan ganolbwyntio ar ddod o hyd i gyflenwyr anodd eu canfod ac anodd ymgysylltu â nhw. Aethon ni ati i gyflwyno heriau penodol a chaniatáu i gyflenwyr gynnig atebion i'r heriau hynny, gan sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu dewis ar sail gallu yn hytrach na dim ond ar sail pwy sydd ar gael.

 

Gwnaethon ni hefyd ddefnyddio'n platfform digidol 'Gwybodaeth am Arloesi', sy'n hwyluso ffordd fwy clyfar o ddewis cyflenwyr ar gyfer mathau penodol o waith. Drwy ddeall yr hyn roedd ei angen ar y cleient a'r hyn roedd y cyflenwyr yn ei gynnig, llwyddon ni i baru cyflenwyr â'r gwaith yr oedd angen ei wneud mewn ffordd ystyrlon a oedd yn sicrhau canlyniadau. 

Roedd gweithredu ar sail her, a symlrwydd ein hateb, yn golygu bod y gwaith dan sylw yn ddeniadol, hyd yn oed i gyflenwyr â'u llyfrau'n llawn archebion. Dangosodd hynny inni fod defnyddio'r broses iawn yn trawsnewid y ffordd y mae cleientiaid yn cysylltu ac yn ymwneud â chyflenwyr.  

 

Drwy weithredu fel hyn, mae'n cleientiaid wedi gweld gostyngiad o 87% yn yr amser a dreulir yn hidlo cyflenwyr, cynnydd o 77% mewn ansawdd, a chynnydd o 75% mewn amrywiaeth ers iddyn nhw rhoi'n hatebion ni ar waith. Efallai nad yw'n syndod bod yr adborth a gafwyd oddi wrth gyflenwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. Roedd 94% o'r farn bod y dull hwn yn un hawdd ei ddefnyddio, roedd 93% yn ei gael yn fwy diddorol na cheisiadau tendro traddodiadol, a dywedodd 90% eu bod wedi cael profiad cadarnhaol gyda'r sefydliad. 

Yn achos Caredig, dywedon nhw wrthym fod ein proses wedi arbed cymaint o amser ac ymdrech iddyn nhw, yn enwedig o gofio bod terfyn amser y gwaith yn un tynn. Maen nhw fel ni  wrth eu bodd gyda'r canlyniad. 

 

Sut mae cymdeithasau tai a chyflenwyr wedi ymateb i'ch atebion?
Mae'n gwaith gyda Caredig yn dangos y potensial sydd gan ei hatebion ni i drawsnewid y sefyllfa. Bellach, mae gan gymdeithasau tai sy'n defnyddio'n proses ni ffordd gliriach o ddod o hyd i gyflenwyr ac o gyflawni'u nodau datgarboneiddio. O ran y cyflenwyr, mae'n proses
ymgysylltu a chaffael ni yn rhoi eglurder iddyn nhw, gan sicrhau eu bod yn gweithio ar brosiectau sy'n cyd-fynd â'u harbenigedd a'u gwerthoedd. Mae'n golygu nad ydyn nhw'n  gwastraffu amser ar brosesau tendro cymhleth a chostus a'u bod yn elwa ar y tryloywder a'r tegwch sy'n rhan o'r ffordd hollol wahanol hon o gaffael.  

 

Wrth edrych i'r dyfodol, sut rydych chi'n gweld SimplyDo Ideas yn esblygu?
Dim ond rhan fach iawn o'n gwaith yw'r cydweithredu llwyddiannus rhyngon ni a Caredig. Rydyn ni'n rhagweld y byddwn ni'n chwarae rhan ganolog yn y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn y dyfodol. Ar ben hynny, nid dim ond ym maes tai y mae gan ein platfform ni botensial. Rydyn ni eisoes yn defnyddio'n prosesau a'n cynhyrchion i fynd i'r afael â heriau tebyg ar draws sectorau a rhanbarthau gwahanol. 

 

I chi, fel Prif Swyddog Gweithredol, beth fu'r agwedd fwyaf buddiol ar y daith hon?
Yr agwedd fwyaf boddhaol yw gweld newid pendant, cadarnhaol. Mae gwybod bod ein hatebion ni yn helpu cymdeithasau tai i wneud cartrefi'n fwy cynaliadwy a bod hynny, yn ei dro, yn gwneud gwahaniaeth yn y byd, yn rhoi boddhad mawr imi. 

 

Sut mae'r cymorth a gafwyd dan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu'ch busnes?
Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn gwbl allweddol inni ar ein taith. Nid dim ond rhoi help llaw inni mae'r Rhaglen wedi'i wneud, mae wedi dangos y ffordd inni wrth inni hwylio ar ddyfroedd tymhestlog twf. Rydyn ni wedi cael cymorth mentoriaid, adnoddau a chipolygon strategol gwerthfawr drwy'r rhaglen. Mae'n holl ymwneud â'r Rhaglen, yn enwedig gyda'n rheolwr cysylltiadau, Howard Jones, wedi'i deilwra ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu a'n hanghenion unigryw ni. Mae dyfnder dealltwriaeth Howard a'r adnoddau y mae wedi'u darparu wedi bod yn ganolog i'r trywydd rydyn ni'n ei ddilyn. Dw i'n cellwair weithiau gan ddweud mai'r Rhaglen Cyflymu Twf yw Netflix cymorth busnes cymorth o safon wedi'i deilwra i'ch anghenion ac ar gael bob amser pan fydd ei angen arnoch fwyaf. 'Alla i ddim argymell digon ar y rhaglen, a dw i mor falch ein bod wedi bod yn rhan ohoni. 

 

Gallwch archwilio’r ystod o nwyddau cywrain sydd ar gael gan SimplyDo yma.

 Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru



 

A blue background with white text

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Share this page

Print this page