Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Câr-y-Môr yw fferm wymon a physgod cregyn adfywiol gymunedol gyntaf Cymru. Mae’r fferm wedi'i lleoli yn Nhyddewi, Sir Benfro, a’i gweledigaeth feiddgar yw adfywio’r arfordir, adfer ecosystemau morol a chreu bywoliaeth gynaliadwy i bobl. Gweithreda Câr-y-Môr yn Gymdeithas Budd Cymunedol, ac mae’n fudiad sy’n cynnwys nifer o genedlaethau ac sy’n ceisio adfer cysylltiad pobl â'r môr, â’r tir, ac â'i gilydd. Ailfuddsoddir pob punt a wneir yn y gymuned, ac mae gan bob aelod yr...
Cydnabod chwe sylfaenydd arloesol yng Ngwobrau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes
Roedd hi’n garreg filltir nodedig i entrepreneuriaeth Cymru pan gafodd chwe entrepreneur o bob cwr o Gymru eu cydnabod am eu creadigrwydd, eu heffaith a'u cynnydd ar ôl cwblhau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes – sef rhaglen ddwys a luniwyd i helpu busnesau newydd sydd â photensial cryf i dyfu’n gyflym. Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sy’n cael ei darparu dan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, yn rhoi i sylfaenwyr sy’n dechrau arni yr offer...
O anhawster i arloesi: mae Dot On yn ailddiffinio manwerthu byd-eang gyda help y Rhaglen Cyflymu Twf
Mae Dot On yn system rheoli gwerthiant a chadwyni cyflenwi arloesol wedi ei hadeiladu gan fanwerthwyr ar gyfer manwerthwyr. Fe’i cynlluniwyd i ddatrys rhwystredigaethau systemau datgysylltiedig, hen ffasiwn. Mae'n helpu busnesau manwerthu twf uchel i symleiddio gweithrediadau a chynnal eu data yn gywir. Trwy chwyldroi sut mae cadwyni gwerthu a chyflenwi yn gweithredu, mae'n caniatáu i fanwerthwyr ddarparu profiadau llyfn i gwsmeriaid. Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae'r cwmni'n ailddiffinio technoleg fanwerthu...
Symud i wella: Busnes newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n ailgysylltu cymunedau trwy weithgarwch corfforol
Pan adawodd Nick Clement ddysgu, doedd ei fryd e ddim ar sefydlu busnes. Ond ar ôl gweld yr heriau iechyd meddwl a chorfforol cynyddol sy'n wynebu plant a theuluoedd drosto'i hun - a thrawsnewid ei iechyd ei hun trwy symud - roedd e’n gwybod ei fod am wneud rhywbeth i helpu. Ysbrydolodd hynny Confident Healthy Active Me CIC (CHAM), sef menter gymdeithasol sydd ar genhadaeth i wneud symud yn hwyl, yn hygyrch ac yn drawsnewidiol...
Meddyginiaeth “Môr” fawr: Y busnes newydd Cymreig sy’n ailfeddwl ADHD i fenywod
Mae pobl wedi camddeall ADHD ers degawdau - yn enwedig yn achos menywod. Mae'r rhan fwyaf o driniaethau wedi'u cynllunio o amgylch bioleg wrywaidd, gyda meddyginiaethau sy'n seiliedig ar symbylydd sy'n cuddio symptomau yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion sylfaenol. Ond i lawer o fenywod, mae gan ADHD gysylltiad dwfn â hormonau, iechyd y perfedd, a rhythm yr ymennydd ar draws gwahanol gyfnodau bywyd. Dyna’r broblem yr aeth Lucy McCarthy-Christofides ati i’w datrys...
Arweiniwch yn glyfrach, tyfwch yn gryfach: Adnoddau hanfodol i roi min ar eich busnes a thyfu gyda phwrpas.
Bob mis, mae ein Rheolwyr Perthnasoedd RCT - arbenigwyr profiadol sy'n gweithio gyda busnesau twf uchel ledled Cymru - yn rhannu eu prif argymhellion. Mae'r adnoddau hyn wedi'u dewis yn ofalus i'ch helpu chi i arwain gyda hyder, tyfu gyda phwrpas, a manteisio ar gyfleoedd newydd wrth lywio'r heriau sy'n unigryw i'ch busnes. Y mis hwn, mae Geraint Hughes, Rheolwr Perthnasoedd RCT ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, yn rhannu ei brif ddewisiadau. Gyda ffocws cryf ar...
Pum ffordd y gall AI danio eich gwerthiant e-fasnach
Nid rhywbeth i’r cewri technegol yn unig yw AI erbyn hyn. Mae'n offeryn pwerus, ymarferol ar gyfer busnesau e-fasnach bach a chanolig os ydych chi'n barod amdano. Gyda'r sylfaen gywir, gall AI eich helpu i weithio'n fwy clyfar, syfrdanu'ch cwsmeriaid, a gyrru tyfiant gwerthiant difrifol. Dyma bum ffordd brofedig o ddechrau defnyddio AI heddiw a diogelu eich busnes e-fasnach ar gyfer y dyfodol. 1. Gwnewch eich data’n barod ar gyfer offer AI mwy clyfar Bydd...
Mae diwylliant yn bwysig: Sut i ddenu a chadw’r doniau gorau
Mae’r cyflog yn dal sylw. Diwylliant sy’n selio’r fargen Mae recriwtio a chadw’r bobl iawn yn fwy heriol nag erioed. Mae gan ymgeiswyr medrus opsiynau, ac mae busnesau'n cystadlu nid yn unig ynghylch cyflog ond ynghylch pwrpas, gwerthoedd, a sut mae'n teimlo i weithio yno. Dyna pam mai diwylliant y gweithle sy’n trawsnewid pethau i chi. Nid rhywbeth i’w ddweud er mwyn edrych yn dda ar dudalen gyrfaoedd yw diwylliant cryf, cynhwysol - mae'n gyrru...
Troi heriau economaidd yn dwf strategol
Yng nghynnwrf yr hinsawdd economaidd sydd, nid eithriad yw ansicrwydd - dyna’r rheol. Mae cynnydd cyfraddau llog, chwyddiant parhaus, a tharfu ar y gadwyn gyflenwi yn creu storm berffaith o bwysau ar arweinwyr ym mhob sector. Ond gyda her daw hefyd gyfle; nawr yw'r amser i ailddychmygu eich strategaeth, cryfhau eich systemau, ac adeiladu busnes sy'n ffynnu o dan bwysau. Arweinyddiaeth strategol ar adeg ansicr Bydd arweinwyr sy’n llywio newid, sy’n gyrru arloesedd, ac sy’n...
Galwad am geisiadau i ymuno â’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes gan Busnes Cymru
Bellach mae’r cyfnod ceisiadau wedi agor ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes nesaf Busnes Cymru, sy’n fenter allweddol y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Bydd y rhaglen deng wythnos, cwbl ar-lein, yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Medi 2025 i ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025, gan gynnig cymorth wedi'i dargedu i entrepreneuriaid twf uchel ledled Cymru. Mae'r rhaglen gyflymu wedi'i hadeiladu ar gyfer pobl sydd â syniadau busnes cryf ac sydd am fynd â'u cysyniad i'r...