Newyddion

Pump o entrepreneuriaid Cymru wedi’u cydnabod wrth i’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes ddathlu enillwyr diweddaraf ei gwobrau

Un o raddedigion y rhaglen LanoTech yn sicrhau piblinell fuddsoddi gwerth £470k, gan ddangos effaith cymorth dwys.

Mae pump o entrepreneuriaid arloesol Cymru wedi eu cydnabod am eu cynnydd eithriadol ar ôl cwblhau’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, a’r garfan ddiweddaraf yn dangos sut y gall cymorth â ffocws drawsnewid syniadau uchelgeisiol yn fentrau parod ar gyfer buddsoddiad.

Dangosodd enillwyr y gwobrau, a gwblhaodd y rhaglen deng wythnos, fomentwm rhyfeddol wrth symud o’r cysyniad i’r cwsmer. Cafodd pob un gydnabyddiaeth ar draws pump o gategorïau’r gwobrau, gan ddangos ansawdd ac amrywiaeth yr egin ddoniau entrepreneuraidd yng Nghymru.

SUA Award Winners Dec 25

Mae enillwyr y gwobrau’n cynnwys:

Gwobr Cynnig Flex

I’r unigolyn mwyaf hyblyg ei ddull wrth ddatblygu eu cynnig ynghylch lansio busnes.

Enillydd: Chris Hughes, Tecwila

Brand gwirodydd sy’n canolbwyntio ar flas ac a sefydlwyd yn Ynys Môn yw Tecwila. Mae’r busnes yn gweithio gyda distyllfa ym Mecsico i greu gwirodydd cyson mewn llwythi bach i farchnad y DU. Ar hyn o bryd mae Tecwila wrthi’n paratoi i ddosbarthu’n ehangach yn dilyn gwaith cynhyrchu a datblygu brand cychwynnol a gwblhawyd yn ystod y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes.

Gwobr Gyflymu

I’r unigolyn sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf o ran eu busnes yn ystod y rhaglen.

Enillydd: Dr Emma Marie Williams, GlitterBrain Psychology

Mae GlitterBrain yn darparu adnoddau hunan gymorth a therapi sy’n seiliedig ar seicoleg i oedolion (gan gynnwys cleientiaid niwroamrywiol), gan eu helpu nhw i adeiladu iechyd meddwl ymarferol a’r sgiliau rheoli bywyd sy’n glynu trwy gamau hygyrch bach.

Gwobr Cyflymu Gwerthiant

I’r unigolyn sydd wedi dangos yr uchelgais mwyaf i adeiladu a chyflymu eu twndis gwerthiant.

Enillydd: Silvia Sanchez, Classer Ltd

Mae Classer yn darparu meddalwedd ar gyfer trefnu, storio a rhannu fideos camera gweithredu ar gyfer defnyddwyr GoPros a chamerâu gweithredu eraill, gan helpu defnyddwyr i reoli’n hawdd eu ffilmiau a throi eiliadau’n atgofion i’w hail-fyw a’u mwynhau.

Gwobr Hyrwyddwr Gyflymu:

I’r unigolyn sydd wedi dangos yr ymroddiad mwyaf a’r meddylfryd mwyaf cadarnhaol yn ystod y rhaglen.

Enillydd: Sakshi Mahajan, Hashview

Peiriant ymddiriedaeth cenhedlaeth nesaf yw Hashview ar gyfer busnesau sy’n amrywio o siopau lleol, darparwyr gwasanaethau a brandiau bach i ganolig. Mae’n cyfuno dadansoddeg seiliedig ar SaaS, canfyddiadau o deimladau a yrrir gan AI a thechnoleg geoffensio i ddarparu adborth cwsmeriaid dilys mewn amser go iawn.

Gwobr Cyfranogwr Mwyaf Cydweithredol

I’r unigolyn sydd wedi dangos y gefnogaeth fwyaf i eraill yn ystod y rhaglen.

Enillydd: Vignesh Pathmaraj, Elements Technik (Elements Supply AI)

Mae Elements Technik (Elements Supply AI) yn darparu caffael a yrrir gan AI, dealltwriaeth o rannau sbâr ac atebion cyrchu wedi’u hawtomeiddio i gleientiaid gweithgynhyrchu a diwydiannol, gan eu helpu nhw i reoli rhannau, cyflenwyr a gweithrediadau caffael yn fwy effeithiol trwy ganfyddiadau a yrrir gan ddata a thechnolegau awtomeiddio.

Meddai Dr Emma Marie Williams, Sylfaenydd GlitterBrain Psychology, :

“Mae ennill Gwobr y Rhaglen Gyflymu’n deimlad gwych am ei fod e’n dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod. Deng wythnos yn ôl, roedd gen i angerdd a gweledigaeth, ond dim strategaeth glir. Helpodd y rhaglen i brofi fy nhybiaethau a hogi fy sgiliau busnes ac erbyn hyn mae gen i gynllun twf clir.”

Daw’r llwyddiant hwn wrth i’r cyfnod ceisiadau agor ar gyfer carfan nesaf y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, gan redeg o ddydd Mawrth 12 Mai i ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026.

Mae gan y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes hanes profedig o baratoi sylfaenwyr ar gyfer twf. Un enghraifft sy’n sefyll allan yw LanoTech yn Aberystwyth, sydd wedi adeiladu piblinell fuddsoddi gwerth £470,000 ers graddio o’r rhaglen ym mis Gorffennaf 2025. Mae’r cwmni’n arloesi’r defnydd ar lanolin - sef saim naturiol mewn gwlân defaid - yn ddewis amgen cynaliadwy i olew soia a llysiau mewn porthiant anifeiliaid.

Ar ôl cwblhau’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sicrhaodd LanoTech £120,000 trwy Gontractau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Arloesi Cymru i ariannu’r treialon cyntaf yn y byd ar gyfer porthiant dofednod byw. Gan adeiladu ar y galluoedd a gryfhawyd trwy’r rhaglen, gwnaeth y sylfaenydd, Clodagh Weingart, gais llwyddiannus am arian Innovate UK, gan sicrhau £350,000 ychwanegol ar gyfer prosiect sy’n dechrau yn 2026. Mae profion labordy wedi dangos bod gan lanolin gynnwys ynni gros uwch nag olewau porthiant confensiynol, gan roi’r cwmni mewn sefyllfa i drawsnewid sut mae gwlân Prydain yn creu gwerth i ffermwyr wrth leihau ôl troed carbon amaethyddiaeth.

Meddai Clodagh Weingart, sylfaenydd LanoTech:

“Mae’r sylfaen a ddarparodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes wedi bod yn fodd i roi LanoTech mewn sefyllfa i dyfu. Rhoddodd y rhaglen y strwythur i mi ddatblygu achos buddsoddi cryf a’r hyder i fynegi ein gweledigaeth ni i arianwyr. Mae symud o’r cysyniad i sicrhau bron hanner miliwn o bunnoedd mewn arian o fewn misoedd ar ôl graddio yn dangos effaith ymarferol y cymorth dwys hwnnw.

“Erbyn hyn rydyn ni’n cynnal treialon wedi'u dilysu ar borthiant, gyda phiblinell ariannu ddiogel, gan gyrchu at ein nod o drawsnewid agwedd y DU at borthiant anifeiliaid cynaliadwy wrth greu ffrydiau gwerth newydd ar gyfer cynhyrchwyr gwlân Prydain.”

Meddai Lucy Jones, Rheolwr Gweithrediadau’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru:

“Gweld sylfaenwyr fel Clodagh a’r garfan hon yn ennill buddsoddiad, yn sicrhau eu cwsmeriaid cyntaf, a mireinio eu model busnes yw’r union beth y dyluniwyd y Rhaglen Cyflymu Busnes Newydd i’w gyflawni. Mae llwyddiant LanoTech yn dangos sut mae’r rhaglen yn creu’r amgylchiadau i fusnesau ffynnu: methodoleg strwythuredig, arweiniad arbenigol, a rhwydwaith cymheiriaid sy’n herio ac sy’n cefnogi i’r un graddau.”

Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn rhan o’r Rhaglen Cyflymu Twf, gwasanaeth gan Fusnes Cymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru. Dros ddeng wythnos ddwys, mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn arwain sylfaenwyr trwy ddilysu’r galw, mireinio eu cynnig, a sicrhau eu cwsmeriaid cyntaf hollbwysig. Mae cyfranogwyr yn datblygu sgiliau busnes craidd trwy weminarau a dosbarthiadau meistr, yn elwa o fentora arbenigol un-i-un, ac yn adeiladu rhwydweithiau gyda chymheiriaid, buddsoddwyr, ac arbenigwyr sector. Mae’r rhaglen hefyd yn integreiddio offer AI i wella creadigrwydd ac ymchwil i’r farchnad, gan helpu sylfaenwyr i leihau’r amser i’r farchnad a hybu effeithlonrwydd.

Mae’r rhaglen yn gweithio gydag entrepreneuriaid yng Nghymru sydd â syniadau cyn-refeniw ac sydd â’r gallu i gyrraedd trosiant blynyddol o £1 filiwn, gan greu o leiaf ddeg swydd amser llawn, ac allforio erbyn 2029. Mae arian ar gael i ddileu rhwystrau a allai gyfyngu fel arall ar y rhai sy’n cymryd rhan.

Os nad yw eich busnes chi’n barod ar gyfer y lefel hon o dwf, cynigia Busnes Cymru amrywiaeth eang o gyngor ac arweiniad ar ddechrau busnes a thyfu busnes.

Bydd ceisiadau ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes Mai 2026 yn cau ddydd Llun 30 Mawrth 2026.

Gall sylfaenwyr sydd â diddordeb gofnodi eu diddordeb yn: Gweithdai Dechrau Busnes, Busnes Cymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.