Casglu gwybodaeth, bod yn barod
Diwedd Cyfnod Pontio'r UE
Gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr ac mae wedi bod mewn cyfnod pontio a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
Yn ystod y cyfnod pontio, mae rhan fwyaf o reolau a threfniadau masnachu presennol yr UE wedi aros ar waith heb unrhyw newidiadau sylweddol yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Fodd bynnag, mae diwedd y cyfnod pontio yn golygu newidiadau i'r rheolau presennol ar fasnachu, yn ogystal â'r hawl i deithio heb fisâu i wledydd eraill yr UE.
Mae Llywodraeth y DU a'r UE bellach wedi cytuno ar fargen ar eu perthynas yn y dyfodol. Ewch i wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae camau y gall busnesau o bob maint eu cymryd yn awr i ddechrau cynllunio ymlaen llaw:
• Cofrestrwch i Gylchlythyr Busnes Cymru
• Ewch i wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru
• Ewch i wefan ehangach Busnes Cymru i gael gwybodaeth, cyngor a mynediad at gymorth i'ch busnes
• Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ymadael yr UE gan HMRC
• Cewch y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
• Chwilio am gontractau newydd a hysbysebu eich gwasanaethau ar wefan Llywodraeth Cymru GwerthwchiGymru
• Ewch i'r adnodd Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod gan Lywodraeth DU
Meysydd Allweddol
Isod mae'r meysydd allweddol lle dylai busnesau ystyried a ydynt yn barod ar gyfer newid