Diweddariad i randdeiliaid ynghylch ardrethi annomestig: Medi 2026

Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru.

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2027-28

Bydd cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28 yn cael eu nodi pan fyddwn yn cyhoeddi ein Cyllideb Ddrafft ar 17 Tachwedd, yn dilyn Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU ar 28 Hydref. Rydym yn sylweddoli y bydd talwyr ardrethi yn dymuno cael gwybod am fanylion y trefniadau o ran ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys gwerthoedd y lluosyddion. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadarnhau yn rhan o’n paratoadau ar gyfer y gyllideb a’i chynnwys yn ein diweddariad nesaf.

Ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig

Ar 15 Medi 2026, gwnaeth y Gweinidog Cabinet dros Gyllid ddatganiad yn y Senedd ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig. O 2027-28 ymlaen, bydd eiddo bach a chanolig yn y sectorau lletygarwch bwyd a diod (tafarndai, bwytai, caffis, bariau, cyrtiau bwydydd, clybiau trwyddedig a lleoliadau cerddoriaeth fyw), llety ymwelwyr (gwestai, tai llety a hosteli) a hamdden (sinemâu, theatrau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a champfeydd) yn ddarostyngedig i’r lluosydd is sy’n gymwys ar hyn o bryd i siopau manwerthu. Bydd y cwmpas estynedig hwn ar gyfer y lluosydd is yn cael ei ariannu gan gynnydd bach i’r lluosydd uwch sy’n gymwys i’r eiddo mwyaf yn ôl gwerth yn y sylfaen drethu. Bydd y rheoliadau sy’n ofynnol i weithredu’r newidiadau hyn yn cael eu dwyn ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.

Dosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol

Rydym wedi cyhoeddi adolygiad o’r trothwy 182 o ddiwrnodau a ddefnyddir i ddosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol ac wedi cynnig ystod o eithriadau ar gyfer eiddo na ellid ei ddefnyddio fel cartref preifat. Mae rhagor o fanylion wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad cysylltiedig, sydd ar agor nes 23 Hydref. Y bwriad yw i’r ddeddfwriaeth, sy’n ofynnol i weithredu unrhyw newidiadau a gadarnhawyd yn dilyn yr adolygiad a’r ymgynghoriad, ddod i rym ar 1 Ebrill 2027. 

Lleoedd parcio sy’n fannau gwefru cerbydau trydan

Mewn rhai amgylchiadau, bydd mannau gwefru cerbydau trydan a lleoedd parcio cysylltiedig yn ddarostyngedig i asesiadau annibynnol o ran ardrethi annomestig. Er mwyn oedi dechrau’r atebolrwydd a fyddai’n deillio o hynny, rydym wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad llawn yn cael ei ddarparu i leoedd parcio a blaengyrtiau sy’n fannau gwefru cerbydau trydan nes 31 Mawrth 2036. Bydd y rhyddhad yn cael ei ddarparu i ddechrau gan ddefnyddio pwerau yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol ac rydym wedi cyhoeddi’r canllawiau cysylltiedig. Rydym yn bwriadu parhau â’r rhyddhad ar sail statudol rhwng 2027-28 a 2035-36. Bydd y rheoliadau sy’n ofynnol yn cael eu dwyn ymlaen maes o law ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.

Darparu gwybodaeth i’r Swyddfa Brisio

Roedd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn cynnwys darpariaeth (adran 12) ar gyfer dyletswydd newydd ar dalwyr ardrethi i ddarparu gwybodaeth i Swyddfa Brisio CThEF. Bydd angen i dalwyr ardrethi ddweud wrth y Swyddfa Brisio am rai newidiadau penodol i’w heiddo a bydd angen iddynt gadarnhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol bob blwyddyn. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy wasanaeth ar-lein newydd.

Rydym wedi cadarnhau’n flaenorol na fydd y ddyletswydd yn dod yn weithredol nes y bydd y Swyddfa Brisio a Llywodraeth Cymru yn fodlon y gall talwyr ardrethi gydymffurfio yn rhesymol ac yn effeithlon gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Cadarnhawyd yn flaenorol na fyddai hyn yn digwydd cyn 2029. Mae’r Swyddfa Brisio wedi cyhoeddi diweddariad ar baratoadau ar gyfer y newidiadau, gan gadarnhau bod yr amseru wrthi’n cael ei adolygu ac y bydd rhanddeiliaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf pan fydd unrhyw gamau gweithredu yn ofynnol. 

Bwletin ystadegol ar ardrethi annomestig yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi ein bwletin ystadegol blynyddol diweddaraf ar ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae’r bwletin yn cynnwys data ar swm yr ardrethi annomestig a gasglwyd a’r rhyddhadau a ddarparwyd, hyd at a chan gynnwys blwyddyn ariannol 2024-25. Croesawn unrhyw adborth gan randdeiliaid.

Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig

Dim ond i Gymru y mae pob ymgynghoriad yn gymwys.

Dosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol – ar agor

Mae ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i sut yr ymdrinnir ag eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol ar agor am gyfnod o 12 wythnos, rhwng 31 Awst a 23 Hydref 2026.

Rhagor o wybodaeth

Croesawn adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Mae’r diweddariad nesaf wedi’i gynllunio ar gyfer mis Ionawr 2027 (am y tro).

Dolenni defnyddiol:

Llywodraeth Cymru

Busnes Cymru

Swyddfa Brisio CThEF

Tribiwnlys Prisio Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Senedd Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.