Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Gair am y canllawiau hyn 

Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau am y ffordd y mae Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) yn cael ei weithredu a’i gyflwyno. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.
 
Nid yw'r canllawiau’n disodli unrhyw ddeddfwriaeth sydd ar gael ar hyn o bryd sy’n ymwneud â chyfraddau annomestig nac unrhyw ryddhad arall.
 
Gallai’r Cynllun gael ei ddiwygio unrhyw bryd. Felly, efallai y bydd rhai busnesau’n peidio â bod yn gymwys i gael rhyddhad.

Dylid anfon ymholiadau bilio ynglŷn â'r rhyddhad i'r awdurdod lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdodau lleol ar yr Busnes Cymru tudalen we

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r canllawiau i: polisitrethilleol@llyw.cymru 

Mae nifer o gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig gorfodol a dewisol ar gael hefyd sy'n rhoi cymorth ar gyfer mathau penodol o eiddo neu ddeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys rhyddhad i elusennau a rhyddhad ar eiddo gwag.
 
Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig ar gael ar dudalennau gwe Busnes Cymru.

Cyflwyniad

Mae dau newidyn yn cael eu defnyddio i gyfrifo biliau ardrethi annomestig:

  • gwerth ardrethol eiddo, a bennir gan Swyddfa Brisio CThEF; a
  • y lluosydd perthnasol. Caiff hwn ei bennu’n flynyddol ac mae’n cynyddu i gyd-fynd â chwyddiant fel arfer, oni bai bod Llywodraeth Cymru’n nodi fel arall. Mae rhagor o ganllawiau ar luosyddion ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Mae’r cynllun SBRR yn cael ei ariannu’n gyfangwbl gan Lywodraeth Cymru. Hwn yw’r cynllun rhyddhad ardrethi annomestig mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu rhyddhad ardrethi gorfodol i adeiladau yn ôl eu gwerth ardrethol a’u categori defnyddio cyffredinol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys fel a ganlyn:

  • Mae eiddo busnes cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ryddhad; ac
  • Mae'r rheini gyda gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n lleihau’n raddol o 100% i sero.
  • Mae rhai categorïau busnes yn elwa o lefel ychwanegol o ryddhad.  Er enghraifft, swyddfeydd post ac adeiladau gofal plant cofrestredig.
  • Mae nifer yr eiddo sy’n gymwys i gael SBRR yn cael ei gyfyngu i ddau eiddo i bob busnes ymhob awdurdod lleol.

Sut mae’r rhyddhad yn cael ei ddarparu? 

Mae’r cynllun SBRR yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ac mae’n cael ei roi'n awtomatig ar filiau talwyr ardrethi cymwys.  

Sut mae’r rhyddhad yn cael ei weinyddu? 

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hwylus i'r rheini sy’n talu ardrethi ar fanylion y cynllun a sut mae’n cael ei weinyddu.  Os na fydd awdurdod yn gallu darparu'r rhyddhad hwn i fusnesau cymwys, am ryw reswm, dylid ystyried rhoi gwybod i fusnesau cymwys eu bod yn gymwys i gael y rhyddhad ac y bydd eu biliau’n cael eu hailgyfrifo. 

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol nodi cyfanswm y rhyddhad a ddarparwyd o dan y cynllun yn eu Ffurflenni Ardrethi Annomestig (NDR1 a NDR3).
 

Sut bydd eiddo yn elwa o ryddhad? 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.  

  • Mae eiddo busnes cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ryddhad; ac
  • Mae'r rheini gyda gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n lleihau’n raddol o 100% i sero. 

Mae rhai categorïau busnes yn elwa o lefel ychwanegol o ryddhad.  Er enghraifft, swyddfeydd post a safleoedd gofal plant cofrestredig.
 
Mae nifer yr eiddo a fydd yn gymwys i gael SBRR wedi’i gyfyngu i ddau eiddo i bob busnes ymhob awdurdod lleol.

Mae’r rheoliadau sy’n nodi SBRR ar gael ar Legislation.gov.

Pa gymorth all busnesau ei ddisgwyl?

Mae tabl 1 yn rhoi darlun o lefel y cymorth y gallai busnesau bach cymwys ddisgwyl ei dderbyn. Bydd yr atebolrwydd a lefel y cymorth yn dibynnu ar ai’r lluosydd safonol neu’r lluosydd manwerthu sy’n berthnasol i’r eiddo.
 

Tabl 1: Darlun o’r rhyddhad ar gyfer busnesau bach
  Lluosydd safonol Lluosydd manwerthu  
Gwerth ArdretholSBRR

Atebolrwydd 2026-27

(£)

SBRR

(£)

 

Atebolrwydd ar ôl

SBRR

(£)

Atebolrwydd 2026-27

(£)

SBRR

(£)

 

Atebolrwydd ar ôl

SBRR

(£)

1,000100%

502

502

0

350

350

0

2,000100%

1,004

1,004

0

700

700

0

3,000100%

1,506

1,506

0

1,050

1,050

0

4,000100%

2,008

2,008

0

1,400

1,400

0

5,000100%

2,510

2,510

0

1,750

1,750

0

6,000100%

3,012

3,012

0

2,100

2,100

0

7,00083%

3,514

3,514

586

2,450

2,042

408

8,00067%

4,016

2,677

1,339

2,800

1,867

933

9,00050%

4,518

2,259

2,259

3,150

1,575

1,575

10,00033%

5,020        

1,673    

3,347

3,500  

1,167    

2,333

11,00017%

5,522

920

4,602

3,850

642

3,208

12,0000%

6,024

0

6,024

4,200

0

4,200

13,0000%

6,526

0

6,526

4,550

0

4,550

Sut mae busnesau sy’n defnyddio sawl eiddo bach yn cael eu trin?

Mae nifer yr eiddo sy’n gymwys i gael y SBRR yn cael ei gyfyngu i ddau eiddo i bob busnes ymhob awdurdod lleol. Cyfrifoldeb y sawl sy’n talu’r ardreth yw dweud wrth ei awdurdod lleol os yw’n credu bod y cyfyngiad hwn yn berthnasol i’w eiddo. Unwaith y bydd yn cael gwybod, yr awdurdod lleol sy’n gweinyddu fydd yn gyfrifol am newid bil yr ardreth annomestig.

Ni fydd eiddo sy’n bodloni’r amodau gofal plant neu swyddfa bost yn cael eu heffeithio gan y cyfyngiad hwn. Dylai’r rheini sy’n talu ardrethi gysylltu â’u hawdurdod lleol unigol os oes ganddynt gwestiynau am eu bil ardrethi annomestig a’u hawl i gael rhyddhad ardrethi. 

Pam mae adeiladau gofal plant cofrestredig yn elwa o’r cynllun SBRR newydd?

Mae'r sector gofal plant yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, gan gynnig amgylcheddau cadarnhaol a gofalgar i'n plant a helpu rhieni i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant. Mae'n sector sy'n wynebu heriau ariannol sylweddol ac mae'r gofynion rheoliadol ar gyfer meithrinfeydd dydd (Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir) yn golygu bod eu gwerthoedd ardrethol yn aml yn fwy na busnesau bach eraill.

Er mwyn cefnogi'r heriau ariannol hyn a helpu i ddarparu'r cynnig gofal plant o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i blant 3-4 oed, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad o 100% i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru. Y lefel uwch hon o ryddhad yw fwriadu yn helpu i sicrhau lefel y ddarpariaeth y mae ar blant a rhieni ei hangen ac yn dibynnu arni. Dylai talwyr ardrethi gysylltu â'u hawdurdod lleol unigol gydag unrhyw ymholiadau ynghylch eu bil Ardrethi Annomestig a'u hawl i gael rhyddhad ardrethi.

Pam mae Swyddfeydd Post yn elwa ar y cynllun SBRR gwell?

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn fod gan swyddfeydd post bach rôl werthfawr yn cefnogi cymunedau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig lle mae'n bosib fod cyfleusterau’n brin, ac maent yn darparu gwasanaethau i bobl fregus gan gynnwys pobl oedrannus ac anabl. Mae llawer o swyddfeydd post llai yn cael eu rhedeg gan is-bostfeistri  fel busnesau preifat yn hytrach na chael eu rhedeg gan Swyddfa'r Post ei hun.
 
Oherwydd hyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o gefnogaeth i swyddfeydd post llai fel a ganlyn:

  • Mae swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol o hyd at £9,000 yn cael 100% o ryddhad;
  • Mae swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol o rhwng £9,001 a £12,000 yn cael 50% o ryddhad.

Dylai’r rheini sy’n talu ardrethi gysylltu â’u hawdurdod lleol unigol os oes ganddynt gwestiynau am eu bil ardrethi annomestig a’u hawl i gael rhyddhad ardrethi.

Enghraifft o’r rhyddhad gwell ar gyfer Swyddfeydd Post

Mae tabl 2 yn dangos sut mae'r rhyddhad gwell ar gyfer swyddfeydd post yn cael ei drefnu gan ddefnyddio'r dull lleihau’n raddol. Mae’r lluosydd manwerthu’n berthnasol i swyddfeydd post sy’n gymwys ar gyfer SBRR.
 

Tabl 2: Darlun o’r rhyddhad gwell ar gyfer Swyddfeydd Post
Gwerth ArdretholSBRR

Atebolrwydd

2026-27

(£)

SBRR

(£)

Atebolrwydd ar ôl SBRR (£)

 

1,000100%

350

350

0

2,000100%

700

700

0

3,000100%

1,050

1,050

0

4,000100%

1,400

1,400

0

5,000100%

1,750

1,750

0

6,000100%

2,100

2,100

0

7,000100%

2,450

2,450

0

8,000100%

2,800

2,800

0

9,000100%

3,150

3,150

0

10,00050%

3,500

1,750

1,750

11,00050%

3,850

1,925

1,925

12,00050%

4,200

2,100

2,100

13,0000%

4,550

0

4,550 

 

Pa fathau o hereditamentau nad ydynt yn gymwys i gael SBRR?

Mae nifer o eithriadau mewn perthynas â’r SBRR. Mae’r rhain yn bennaf ar gyfer mathau o eiddo sydd ddim yn cyd-fynd â’r diffiniad o fusnes bach. Mae rhai o’r eithriadau hefyd yn cydnabod y ffaith bod rhai mathau o eiddo yn gymwys i gael mathau eraill o ryddhad.

Mae’r eithriadau i'r cynllun SBRR presennol yn cynnwys:

  • Hereditamentau (eiddo annomestig) sy’n cael eu defnyddio gan gyngor, comisiynydd heddlu a throseddu, neu'r Goron;
  • Cytiau glan môr;
  • Hereditamentau a ddefnyddir dim ond ar gyfer arddangos hysbysebion, mannau parcio cerbydau modur, gwaith carthion neu offer cyfathrebu electronig.

Ydy eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio yn gymwys i gael SBRR? 

I fod yn gymwys i gael SBRR, mae gofyn bod eiddo yn cael ei ddefnyddio hefyd.  Mae eiddo gwag yn gymwys i gael rhyddhad ar eiddo gwag. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein dogfen ganllaw berthnasol ar y Busnes Cymru tudalen we

Ydy eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan elusennau yn gymwys i gael SBRR?

Nid yw eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan elusennau yn gymwys i gael y rhyddhad. Gall elusennau fod y gymwys i gael rhyddhad elusennau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein dogfen ganllaw berthnasol ar y Busnes Cymru tudalen we.

Beth allaf ei wneud os oes gen i reswm i gredu bod fy rhyddhad wedi’i gyfrifo’n anghywir?

Os yw talwyr ardrethi yn credu bod y rhyddhad sydd wedi’i neilltuo i’w heiddo ar eu bil ardrethi annomestig yn anghywir, dylent gysylltu â’u hawdurdod lleol sy’n gweinyddu’r cynllun. Bydd yn gallu delio â'u hymholiad ac ateb eu cwestiynau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.