Archives

1001 canlyniadau

AI
Nod Cynllun Gweithredu Cyfleoedd y DU, yw ysgogi twf economaidd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a defnyddio technoleg ddeallusol i wella bywydau pobl bob dydd. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i elwa o'r cynlluniau seilwaith AI, gyda gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu canolfannau technoleg, adnoddau a rennir a chanolfannau data. Fel rhan o'r buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw, mae cawr technoleg yr Unol Daleithiau, Vantage Data Centers, yn bwriadu buddsoddi dros £12 biliwn ar draws y...
Product design drawings
O 13 Rhagfyr 2024, disodlodd rheoliad 2023/988 yr EU ar ddiogelwch cynnyrch cyffredinol Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005 yng Ngogledd Iwerddon. Bydd llawer o fusnesau yn y DU sy'n gwerthu nwyddau yng Ngogledd Iwerddon eisoes yn mynd y tu hwnt i'r gofynion hyn ac felly'n debygol o fod â threfniadau digonol ar waith i allu cydymffurfio â nhw. Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer busnesau sy'n rhoi cynhyrchion ar y farchnad yng...
female small business owner, wearing a yellow sweater
Dyma gyfle i feithrin y sgiliau hanfodol a chael yr hyfforddiant, cyngor, mentoriaeth, a mynediad at gyllid di-log sydd eu hangen i lansio eich busnes neu eich menter eich hun. Mae Rhaglen Entrepreneuriaeth Assadaqaat Community Finance (ACF) i Fenywod wedi’i chynllunio ar gyfer menywod o bob cymuned yng Nghymru, gyda ffocws arbennig ar fenywod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. P'un a ydych yn ffoadur, yn geisiwr lloches, neu’n dod o gymuned fudol, os...
pink piggy bank and person using a laptop
Yn sgil amcangyfrif bod £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru, mae ymdrech newydd ar waith i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo ac i gynyddu incwm eu haelwydydd. Drwy fuddsoddiad o £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae cyngor cyfrinachol ac am ddim ar gael i arwain pobl drwy'r broses hawlio, gan ddefnyddio gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl i gynyddu incwm. Caiff y gwasanaethau hynny eu cefnogi...
Person caring for an elderly relative
Mae'r Adran Busnes a Masnach yn trefnu cyfres o gyfarfodydd Bord Gron ar ofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth ledled y DU. Gall darparu gofal gynnwys llawer o wahanol amgylchiadau, gan gynnwys darparu cymorth i riant oedrannus, gofalu am bartner â chyflwr iechyd hirdymor neu ofalu am blentyn sydd ag anabledd. Mae’r Adran Busnes a Masnach am glywed gan uwch reolwyr, arweinwyr AD a chyrff masnach a diwydiant am yr hyn sydd wedi gweithio ar gyfer cefnogi...
Home worker talking on a phone
Mae’r Diwrnod Amser i Siarad nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Chwefror 2025. Yng Nghymru, mae Diwrnod Amser i Siarad yn cael ei redeg gan Amser i Newid Cymru, Adferiad a Mind Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Co-op. Ariennir rhaglen Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru. Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs iechyd meddwl fwyaf y genedl. Y Diwrnod Amser i Siarad hwn, rydyn ni’n gofyn i bobl ddod yn gyfforddus yn...
Rhuddlan Castle - mother and daughter taking a selfie
Ym mis Ionawr 2025 bydd Croeso 25 yn cael ei lansio. Dyma’r nesaf yng nghyfres Croes Cymru o flynyddoedd thematig a’i hymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, sef Hwyl – a fydd yn canolbwyntio ar yr hwyl a’r llawenydd sydd ar gael ichi “dim ond yng Nghymru”. Mae ei pecyn cymorth ar gyfer Blwyddyn Croeso bellach ar gael i helpu rhanddeiliaid weiddi’n fwy uchel i’r byd am ein croeso Cymreig unigryw, a dathlu ein profiadau...
Person looking at a map of the world, planing to travel
Ar 17 Chwefror, mae'r byd yn dathlu Diwrnod Gwytnwch Twristiaeth Fyd-eang, a ddynodwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. I lawer o wledydd sy'n datblygu, gan gynnwys y gwledydd lleiaf datblygedig, gwladwriaethau sy’n ynysoedd bach ac sy'n datblygu, gwledydd yn Affrica a gwledydd incwm canolig, mae twristiaeth yn ffynhonnell bwysig o incwm, enillion arian tramor, refeniw treth a chyflogaeth. Oherwydd bod twristiaeth yn cysylltu pobl â natur, mae gan dwristiaeth gynaliadwy’r gallu unigryw i sbarduno...
Llaeth Y Llan yoghurts
Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025 ar agor ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau. Mae'r Gwobrau'n gweld cannoedd o gynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru o bob rhan o'r sector, a phob cornel o Gymru, yn ymuno â'i gilydd bob blwyddyn i ddathlu llwyddiannau busnesau ac unigolion sy'n gwneud y diwydiant yr hyn ydyw heddiw. Yn ôl am ei bedwaredd flwyddyn, mae mwy na phedwar cant o bobl yn mynychu'r digwyddiad, gan gynnwys arweinwyr ac arloeswyr...
EU Flag and Union Jack Flag
O 31 Ionawr 2025, bydd angen datganiadau diogelwch a sicrwydd ar holl fewnforion yr Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr. Mae CThEF yn cefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y gofynion newydd. I gael gwybod mwy am yr wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi a'r camau y gallwch eu cymryd i baratoi, ewch i'r dudalen diogelwch a sicrwydd ar GOV.UK . Mae fideo byr ar YouTube i roi mwy o wybodaeth. Os ydych yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.