Archives

1011 canlyniadau

Barefoot Tech - company that makes products from recycled wetsuits
Yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, mae dylunydd ifanc arobryn o Abertawe sy'n creu argraff gyda'i chasgliad ffasiwn yn annog eraill sydd â dyheadau busnes i ofyn am gymorth gan Busnes Cymru. Sefydlodd Ffion McCormick Edwards Barefoot Tech mewn ymgais i fynd i'r afael â nifer yr hen siwtiau gwlyb nas defnyddiwyd sy'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Ers hynny mae wedi ennill nifer o gytundebau proffil uchel a gwobrau cynaliadwyedd, gan gynnwys y...
2 people having a dispute looking at a laptop
Anogir busnesau bach a chanolig i gofrestru eu cwyn bancio busnes gyda'r Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes (BBRS), a fydd yn cau i gofrestriadau newydd am hanner nos ar 13 Rhagfyr 2024. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd busnesau bach a chanolig yn gallu cofrestru unrhyw gŵynion gyda'r BBRS a gallai busnesau golli allan ar ddatrysiadau a thaliadau unioni. I gyflwyno cwyn i Gynllun Cyfoes y BBRS, rhaid i fusnesau bach a chanolig fod...
farmer with digital tablet looking at crops
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Chanolfan Ragoriaeth SBRI yng Nghymru i lansio'r Her Technoleg Bwyd-Amaeth. Mae'r Her yn ceisio datblygu arloesedd o fewn y sectorau amaethyddiaeth a bwyd, gan ymgorffori technolegau newydd ar y fferm neu ledled y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ehangach gan gynnwys gweithgynhyrchu a chynhyrchu. Mae datblygu a mabwysiadu Technoleg Amaeth a Thechnoleg Amaeth Fanwl yn faes twf strategol ar gyfer economi Cymru ac mae Llywodraeth Cymru’n credu bod angen sylw manwl...
warehouse workers wearing santa hats
Gyda llawer o swyddi tymhorol ar gael yr adeg hon o'r flwyddyn, rhaid i gyflogwyr flaenoriaethu iechyd a diogelwch gweithwyr yr economi gìg, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro. Mae gweithwyr yr un mor debygol o gael damwain yn ystod y 6 mis cyntaf mewn gweithle ag y maent yn ystod gweddill eu bywyd gwaith. Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganllawiau ar 6 ffordd i ddiogelu'r rhai sy'n newydd i'r...
person attending a webinar on sustainability
Rhwydwaith cydweithredol o arbenigedd amlddisgyblaethol ar draws y byd academaidd, diwydiant a llywodraeth yw SWITCH, sy’n dod at ei gilydd i gyflymu’r broses o drosglwyddo i Sero Net, yn Ne Cymru a thu hwnt. Mae’r gyfres o weminarau Sgiliau SWITCH-On yn cynnig llwybr deniadol i daith Sero Net Cymru, gan roi gwybodaeth hanfodol ac offer ymarferol i chi. Mae pob sesiwn yn cyflwyno agwedd allweddol ar weithredu ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae’r dyddiadau isod...
Architect
Mae pum penderfyniad ar brosiectau ynni adnewyddadwy newydd mawr wedi cael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans ers iddi gael ei phenodi ym mis Medi, gan gyfrannu dros 280 MW o ynni adnewyddadwy i Gymru - sy'n cyfateb i bweru mwy na 180,000 o gartrefi yng Nghymru. Wrth siarad â chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector ynni adnewyddadwy yng nghynhadledd brysur Dyfodol Ynni Cymru yng Nghanolfan Gynadledda...
Wheelchair user working in an office
Mae Mis Hanes Anabledd yn gyfle i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle a herio'r stereoteipiau a'r rhwystrau a all eithrio pobl anabl o'r gwaith a'r gymdeithas. Eleni, mae Mis Hanes Anabledd yn rhedeg rhwng 14eg o Dachwedd a’r 20fed o Ragfyr ac mae'n canolbwyntio ar fywoliaeth a chyflogaeth. Trwy gydol Mis Hanes Anabledd rydym am godi ymwybyddiaeth am fanteision cyflogi pobl anabl, a thynnu sylw at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar...
Defnyddia dy Gymraeg  (use your Welsh text)
Bydd ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' yn rhedeg rhwng 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2024. Bydd yn gyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg. Mae’r ymgyrch hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Eleni, mae sylw arbennig yn cael ei roi i sefydliadau ym maes iechyd a gofal, gan ei fod yn hollbwysig fod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn yn...
work colleagues having a discussion and looking at a digital device
Ymunwch â ni ar gyfer ein Sioe Pen Ffordd Cyrchu Cyllid arbennig, sydd â’r nod o helpu busnesau i ddatgloi eu potensial trwy opsiynau cyllido strategol. Dim ots a ydych chi’n fusnes newydd neu’n un sefydlog, bydd yr achlysur yma’n darparu gwybodaeth y gallwch weithredu arni ar gyrchu’r cyllid cywir i sbarduno twf eich busnes a sicrhau eich bod chi’n barod am gyllid. Bydd arbenigwyr o’r diwydiant, perchnogion busnes ac arweinwyr ariannol yn eich tywys...
child stacking wooden building blocks
Ni fydd yn rhaid i safleoedd gofal plant cofrestredig dalu ardrethi busnes mwyach. Amcangyfrifir y bydd yn arbed £3.4 miliwn y flwyddyn i'r sector, a bydd y rhyddhad ardrethi annomestig sydd bellach yn barhaol ar gyfer safleoedd gofal plant yn cefnogi darparwyr gofal plant i fuddsoddi mewn staff, creu swyddi newydd a lleihau codiadau ffioedd i rieni. Diolch i'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, nid yw safleoedd fel meithrinfeydd dydd wedi talu ardrethi busnes yng...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.