Archives

3071 canlyniadau

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pobl yng Nghymru i gael eu brechu a pharhau i gymryd y camau, sy’n gyfarwydd iawn i ni bellach, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws. Daw hyn wrth iddo gadarnhau na fydd newidiadau sylweddol i’r rheolau Covid yn ystod y cylch diweddaraf hwn o 21 diwrnod. Dair wythnos yn ôl, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Tynnodd hyn y cyfyngiadau cyfreithiol...
Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 25 Mawrth 2022. Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu lesoedd am beidio â thalu rhent. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Medi 2021. Bydd y mesur hwn yn sicrhau bod landlordiaid safleoedd masnachol perthnasol...
Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i rannu eich cofnod o frechiadau rhag y coronafeirws (COVID-19) mewn ffordd ddiogel. Mae’n eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael eich brechu. Gallech ei ddefnyddio ar gyfer: teithio dramor dangos i’ch cyflogwr eich bod wedi cael eich brechu’n llawn ac nad oes angen ichi hunanynysu os byddwch yn cael eich adnabod fel cyswllt mynd i rai digwyddiadau neu leoliadau Am ragor o wybodaeth...
Bydd busnesau’n cael blwyddyn yn ychwanegol i osod marciau diogelwch ar gynhyrchion newydd ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion a roddir ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r UK Conformity Assessed (UKCA) marking yn galluogi’r DU i gael rheolaeth dros ei reoliadau nwyddau, gan gynnal y safonau diogelwch uchel disgwyliedig yn y DU ar gyfer cynhyrchion. Gan gydnabod effaith y pandemig ar fusnesau, bydd Llywodraeth y DU yn ymestyn y dyddiad terfyn hwn...
Mae Rhaglen Leo yn sbardunwr un-i-un pwrpasol ar gyfer entrepreneuriaid twf uchel a darpar entrepreneuriaid llawn potensial. Bydd ugain o fusnesau yn cael eu cefnogi yng ngham nesaf Rhaglen Leo, sef sbardunwr chwe mis am ddim a gynhelir gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig ac a rymusir gan Entrepreneurial Spark, lle byddant yn gallu cael gafael ar gymorth ar-lein a phersonol arbenigol gan arbenigwyr yn y diwydiant gofod ac ym maes twf busnes. Mae’r rhaglen...
Mae Future Fashion Factory yn chwilio am ddylunwyr ffasiwn a thecstilau (a’r rhai y tu allan i Lundain yn benodol) i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil i’r amrywiol fathau o gymorth sydd ei angen ar fusnesau micro a busnesau bach. Am ragor o wybodaeth defnyddiwch y ddolen ganlynol - Galw ar Ddylunwyr a Gwneuthurwyr o Fusnesau Micro a Busnesau Bach i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil (google.com)
Mae pobl yn cael eu hannog i fynegi barn am newidiadau posibl i drethi lleol y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i ddelio ag effaith niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau masnachol mewn rhannau o Gymru. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am y lefel uchaf y gall awdurdodau lleol osod cyfradd uwch y dreth incwm arni ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Bydd hefyd yn holi barn pobl am y...
Mae menter Nid Jyst i Fechgyn Chwarae Teg wedi symud ar-lein dros dro, gan ddarparu gweminarau 1 awr yn rhad ac am ddim i ferched a menywod sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Ymunwch â'r trafodaethau gyda 4 menyw ysbrydoledig sy'n gweithio mewn amryw rolau ym maes adeiladu gyda chwmni VINCI Construction DU a fydd yn rhoi cipolwg ar eu gyrfaoedd hyd yma ac yn cynnig cyngor i'r...
Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Awst 2021. Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Awst 2021 erbyn 14 Medi 2021. Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) yn dod i ben ar 30 Medi 2021. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer mis Medi erbyn 14 Hydref 2021 ac mae’n rhaid gwneud unrhyw ddiwygiadau erbyn...
Mae'r gystadleuaeth her iX, dan law KTN, yn cefnogi Ørsted i ganfod dulliau arloesol o ddelio â her sylweddol ac uniongyrchol sy'n deillio o ffrwd wastraff. Mae'r her yn chwilio am ddylunwyr ac arloeswyr a fyddai'n defnyddio'r deunydd hwn ar gyfer syniadau creadigol fel deunyddiau ar gyfer ffasiwn, ategolion, gemwaith, esgidiau, cotiau, bagiau; mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Efallai eich bod yn adnabod cwmni tecstilau a all droi'r PVC yn gynnyrch neu grefft arall fel gorchuddion...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.