Archives

3061 canlyniadau

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles gweithwyr. Bydd deall arwyddion camddefnyddio (neu gam-drin) cyffuriau ac alcohol yn eich helpu i reoli’r risg iechyd a diogelwch yn eich gweithle. Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau cam wrth gam i’ch helpu i ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn eich gweithle. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i ddatblygu polisi cyffuriau ac alcohol a’r hyn y gallwch...
Mae dadlau a thrafod wedi bod erioed ynghylch a yw entrepreneuriaid yn cael eu geni neu eu creu. Ymddengys fel bod dwy ochr i’r geiniog hon – y rhai sy’n benderfynol eu bod yn cael eu geni a’r rhai sy’n dweud eu bod yn cael eu creu. Credwn y gellir dysgu entrepreneuriaeth. Mae gan bawb lygedyn o syniad da ynddyn nhw; ond mae angen i lawer o unigolion ddod o hyd i’r sbardun i danio’r...
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt. Mae 10 Gwobr Dewi Sant, a'r cyhoedd sy’n enwebu am 9 ohonynt: Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Busnes Chwaraeon Dewrder Diwylliant Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol) Pencampwr yr Amgylchedd Person Ifanc Ysbryd y Gymuned Gwobr Arbennig Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 21 Hydref 2021. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Menter gymdeithasol nid-er-elw (a elwir yn Gwmni Buddiannau Cymunedol hefyd) yw North Wales Digital Drive a dyma’r unig ganolfan driniaeth o’i math yn y Gogledd. Mae’n cynnig gwasanaethau ailgylchu, ailddefnyddio a gwaredu diogel a phroffesiynol ar gyfer pob math o gyfarpar TG. Mae’r fenter gymdeithasol wedi darparu cyfarpar i sefydliadau ledled y Gogledd ac mae angen mwy o fusnesau a chyrff sector cyhoeddus i’w helpu fel y gallan nhw ymateb yn brydlon i’r galw. Ar...
Mae Gwobrau Digital Leaders 100 yn ôl am 9fed flwyddyn! Mae'r gwobrau hyn yn dathlu unigolion a sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw sy'n dangos dulliau trawsnewid digidol arloesol a chynaliadwy yn y DU. Dyma'r categorïau eleni: Arweinydd Digidol Digidol Ifanc BBaCh Digidol Arloesi Deallusrwydd Artiffisial Menter neu Dalent Sgiliau Digidol Arloesi Data Mawr Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Arloesi Geo-ofodol Arloesi 5G Arloesi Iechyd Categorïau arbennig: Gwobr Goffa Craig Macdonald Arloesi Digidol yn ystod...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yng Nghymru yn parhau i allu cael cymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer eu ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Rhagfyr 2021. Roedd y Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys...
Gwobrau'r Frenhines am Fenter yw'r gwobrau mwyaf eu bri i fusnesau'r DU o bob maint a sector. Gall y gwobrau ddarparu: cyfleoedd marchnata rhagorol a sylw yn y wasg cydnabyddiaeth fyd-eang fel cwmni Prydeinig eithriadol mwy o drosiant a masnach ryngwladol hwb i forâl staff, ac i bartneriaid a rhanddeiliaid hefyd  Mae'r gwobrau'n broses hunan-enwebu a gellir ymgeisio'n rhad ac am ddim. Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor ar hyn o bryd, a bydd yn cau...
Bydd Chwarae Teg yn gweithio gyda chyflogwyr i greu polisïau gweithle, mecanweithiau adrodd a phrosesau cymorth y gellir eu cyflwyno ar draws sefydliadau i wneud gweithleoedd yn fwy diogel i bawb ac maen nhw’n recriwtio 20 o gyflogwyr o bob cwr o Gymru i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn. Maen nhw’n chwilio am un unigolyn o bob sefydliad i ymrwymo i dair sesiwn ½ diwrnod yn ystod misoedd Medi a Hydref eleni. Os...
Mae seiberdroseddau yn cynyddu, ac mae'r ymosodiadau yn gynyddol ddifrifol. P'un a ydych yn ficrofusnes, yn BBaCh neu'n sefydliad mawr, mae deall sut i ddiogelu eich sefydliad rhag achos o dorri diogelwch data yn elfen hanfodol o'ch llwyddiant cyffredinol. Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau gyda mesurau seibergadernid a gall ymddangos yn faes costus a chymhleth. Fodd bynnag, mae hwn yn fyth y mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yn gweithio'n galed i'w chwalu...
Mae gwasanaeth adnewyddu digidol newydd sy'n lleihau’n ddirfawr yr amser a gymer i adnewyddu hawliau IP, o 5 diwrnod i 5 munud, bellach ar gael i bob cwsmer gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO). Am y tro cyntaf, gall cwsmeriaid sydd angen adnewyddu dyluniad cofrestredig wneud hynny ar-lein. Hefyd, gall cwsmeriaid adnewyddu hyd at 1,500 o hawliau IP - gan gynnwys cyfuniadau o batentau, nodau masnach a dyluniadau - diolch i un trafodyn digidol. Mae'r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.