Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau i’r diwydiant ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd. Y bwriad yw annog y diwydiant i ddarparu gwybodaeth am alergenau bwyd yn ysgrifenedig yn y sector y tu allan i’r cartref, er enghraifft bwytai, caffis, delis, stondinau marchnad a siopau tecawê. Nod y canllawiau yw cefnogi busnesau bwyd wrth ddarparu gwybodaeth am yr 14 o alergenau bwyd i’w cwsmeriaid, gan helpu...