Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i archwilio data ar siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru. Ar hyn o bryd, mae’r data sydd ar gael yn gyfyngedig, ac rydym yn ceisio deall anghenion defnyddwyr yn well yn y maes hwn. Wrth i'r boblogaeth ddod yn fwyfwy symudol, mae mwy o angen am well dealltwriaeth. Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn...